RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y Felinheli yn bwriadu Cyfethol 5 aelod i lenwi'r llefydd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd/Cynghorwyr yng Nghymuned (Ward) Y Felinheli yn dilyn diffyg nifer enwebiadau ar gyfer yr Etholiadau sydd i'w cynnal ar 5 Mai 2022.
Os ydych yn dymuno cael eich ystyried i gael eich cyfethol ar gyfer y sedd(au) gwag, neu'n dymuno cael rhagor o wybodaeth ynghylch rol Cynghorwyr Cymuned, cysylltwch a'r Swyddog Priodol, Clerc y Cyngor Cymuned ar/yn 3 Maes Padarn, Llanberis, Gwynedd LLSS 4TE.(07867 982518) clercfelinheli@aol.com erbyn hanner dydd 31ain Mai 2022
Dyddiedig y 16fed o Mai 2022
19.05.22
Fe fydd y cychod hyn yn cael eu gwaredu oddi ar y safle ymhen mis dyddiad y rhybudd hwn.....mwy
12.05.22
Fel busnes, mae eich barn yn hollbwysig i Gyngor Gwynedd, a felly dyma gyfle arbennig iawn i chi fedru dylanwadu ar sut gall Cyngor Gwynedd eich cefnogi chi yn y dyfodol. Mae'r arolwg hwn yn ceisio deall eich anghenion busnes....mwy
Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd
© 2022 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.