Iaith: Cymraeg | English

Y Pentref > Hanes

O Aberpwll i Felinheli


O Aberpwll i ledled y byd, dyma ychydig am hanes y Felinheli gan Len Williams o'r pentref.

Mae 'na sawl enw wedi bod ar y pentref dros y blynyddoedd. Dechreuodd fel Aberpwll - wedyn y Felinheli, sy'n gysylltiedig efo'r felin a oedd wrth geg afon Heulyn sy'n mynd i'r môr ger y pentref.

"Wedyn, yn sgîl y chwarel lechi, newidiwyd yr enw gan Lord Assheton-Smith i Port Dinorwig gan mai porthladd i chwarel Dinorwig oedd o. Ar ôl i'r chwarel gau yng nghanol y 1870au, newidiwyd yr enw yn ôl i'r Felinheli gan y cyngor plwy.

"Roedd y Felinheli yn borthladd prysur iawn yn y 19eg ganrif. Dwi'n cofio darllen bod dros 400 o longau wedi gadael y porthladd yn ystod un flwyddyn brysur, yn mynd â nwyddau ledled y byd - Awstralia, America, Ffrainc, yr Alban.

"Mi ddaru'r pentref newid ar ôl i'r porthladd gau gan ei fod yn rhoi gwaith i gymaint o bobl. Mi ddaeth yna rai diwydiannau gwahanol i mewn, fel Roberts and Sons, y cwmni cig sy'n dal i fodoli yn ochrau Caernarfon, ond doedd o ddim yr un fath.

 
Hide Thumbs First Previous Pause Next Last
Slideshow speed: 5 seconds
 
Move
Ty Hanner Ffordd tua 1890 - 1900
  • Ty Hanner Ffordd tua 1890 - 1900
    Ty Hanner Ffordd tua 1890 - 1900
  • Hysbyseb i'r Ty Hanner Ffordd tua 1900
    Hysbyseb i'r Ty Hanner Ffordd tua 1900
  • Stryd Bangor tua 1906
    Stryd Bangor tua 1906
  • Cei Mawr tua 1910
    Cei Mawr tua 1910
  • Y gwch fferi yn Moel y Don tua 1910
    Y gwch fferi yn Moel y Don tua 1910
  • Stryd Bangor tua 1910
    Stryd Bangor tua 1910
  • Tai Terfyn tua 1910
    Tai Terfyn tua 1910
  • Y pentref o'r awyr tua 1920
    Y pentref o'r awyr tua 1920
  • Rhan o'r pentref o Foel y Don tua 1920
    Rhan o'r pentref o Foel y Don tua 1920
  • Dadorchuddio'r Cloc Coffa 1926
    Dadorchuddio'r Cloc Coffa 1926
  • 'Vodol House', Stryd Bangor tua 1930
    'Vodol House', Stryd Bangor tua 1930
  • Siop Fecws, Stryd Bangor tua 1930 - yn ddiweddarach newidiwyd i fferyllfa
    Siop Fecws, Stryd Bangor tua 1930 - yn ddiweddarach newidiwyd i fferyllfa
  • Stryd Bangor ddiwedd y 1940au
    Stryd Bangor ddiwedd y 1940au
  • Yn nawr yn 'Llofft Hwyliau' - y llun tua 1950
    Yn nawr yn 'Llofft Hwyliau' - y llun tua 1950
  • Cychod y 'Portdinorwic One Design' canol y 1950au
    Cychod y 'Portdinorwic One Design' canol y 1950au
  • Y pentref o'r 'beach' tua 1955
    Y pentref o'r 'beach' tua 1955
  • Cei Mawr a'r tollty 1966
    Cei Mawr a'r tollty 1966
  • Glan y Mor tua 1969
    Glan y Mor tua 1969
  • Stryd Bangor gyda'r hen pont rheilffordd tua 1970
    Stryd Bangor gyda'r hen pont rheilffordd tua 1970
  • Capel Moriah a'r Ty Capel 1987
    Capel Moriah a'r Ty Capel 1987
  • Capel Moriah yn cael ei ddymchwal 1987
    Capel Moriah yn cael ei ddymchwal 1987
  • Fferm Tafarn Grisiau cyn ei dymchwal 1990
    Fferm Tafarn Grisiau cyn ei dymchwal 1990
  • Ffordd Caernarfon/Bangor ar gychwyn adeiladu'r ffordd osgoi 1992
    Ffordd Caernarfon/Bangor ar gychwyn adeiladu'r ffordd osgoi 1992
  • Ffordd osgoi (ochr Plas Menai) 1993
    Ffordd osgoi (ochr Plas Menai) 1993
  • Ffordd osgoi with Nant y Garth 1993
    Ffordd osgoi with Nant y Garth 1993
  • Capel Elim, Stryd Bangor 1993
    Capel Elim, Stryd Bangor 1993
  • Gorymdaith i fyny Penceunant (ni wyr ddim o'i hanes)
    Gorymdaith i fyny Penceunant (ni wyr ddim o'i hanes)

Ty Hanner Ffordd tua 1890 - 1900
 
 

 

"Mae'r Felinheli ychydig yn wahanol i bentrefi eraill gan fod ganddo Neuadd Goffa a Chloc Coffa - y ddau yn dyddio o 1926 gan fod un garfan eisiau cloc ac un arall eisiau neuadd i gofio'r rhyfel, felly cafwyd y ddau!

"Mae gen i ddiddordeb mawr yn hanes y pentref ac rwyf wedi cyhoeddi tri llyfr o hen luniau o'r ardal. Mae'r rhan fwyaf wedi eu gwerthu erbyn hyn ond mae 'na wastad gopïau ar gael yn y llyfrgell neu yn archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon.

"Dechreuodd fy niddordeb pan wnes i roi'r gair allan fy mod yn chwilio am hen luniau o'r ardal ar gyfer arddangosfa ac mi ges i dros 600 - mae'n syndod o ble daethant i gyd! Daeth un ddynes gyda llun mewn ffrâm dan ei braich - tystysgrif o eisteddfod Caernarfon yn 1935 oedd o, pan enillodd y Girl Guides lleol y wobr gyntaf am ddawns werin! Pethau fel 'na sy'n troi i fyny, pethau gwerthfawr iawn i'r gymuned.

"Mae cael arddangosfeydd o'r lluniau yma yn rhoi pleser i bobl, yn enwedig hen bobl - mae'n rhoi hwb iddynt.

"Dwi'n aelod o Gymdeithas Hanes y Felinheli, sy'n cyfarfod bob yn ail ddydd Mawrth yn y mis rhwng Medi ac Ebrill, yn Neuadd yr Eglwys ger y cloc coffa.

"Rydym yn cael siaradwyr neu weithiau yn trefnu arddangosfeydd fel yr un gawsom ni yng Ngŵyl Y Felinheli, 2006."

cliciwch am fwy

 

 

 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni: