Mynwent

Swyddogion

Clerc - Heather Lynne Jones - 07867 982518

Rheolau a Thelerau'r Fynwent yn Llanfairisgaer

  1. Rhaid i rybudd am gladdedigaeth gael ei roi i’r Clerc, neu’r Is-bwyllgor, dau ddiwrnod clir (heb gyfrif y Sul) cyn yr angladd.
  2. Ni chaniateir claddu heb gyflwyno’r dystysgrif i’r Clerc neu’r Is-bwyllgor cyn diwrnod yr angladd.
  3. Pan fydd Tystysgrif Meddyg yn gorchymyn claddu ar unwaith, gall y Cyngor weithredu drwy wneud eithriad o Reol 1 a 2.
  4. Bydd giatiau dwbl y Fynwent ar glo parhaol, ac mae angen cael caniatâd cyn mynediad.
  5. Fel arfer 8’ x 4’ x 7’9” o ddyfnder fydd maint bedd, a hynny ar gyfer dim mwy na thair claddedigaeth. Pe ddymunir claddu un neu ddau gorff yn unig yn y bedd, yna fe ganiateir i’r dyfnder fod yn llai ond rhaid gofalu am o leiaf dwy droedfedd a hanner o bridd uwchlaw’r arch, a mesur i lawr o arwynebedd y tir.
  6. Rhaid i’r defnyddiau gael ei dwyn i’r fynwent yn y fath fodd ag i beidio niweidio'r rhodfeydd a’r tir. Mae’n ofynnol i bob defnydd gael ei glirio ar ôl claddedigaeth. Ni chaniateir defnydd o beirianau tori gwair neu beirianau eraill gan deuluoedd neu ymwelwyr yn y fynwent.
  7. Rhaid i bob gweddillion, ysgarthion a cherrig a adewir ar ôl unrhyw adeiladwaith gael ei symud ymaith gan y sawl a fu’n codi unrhyw, a rhaid i bob niwed a wneir cael ei atgyweirio’n ddi-oed gan bwy bynnag a fu’n gyfrifol amdano.
  8. Cyn y rhoi’r caniatâd i osod carreg fedd yn y fynwent rhaid i’r sawl a fydd yn gyfrifol am y gwaith anfon cynllun i’r Clerc neu’r is-bwyllgor o’r garreg a fwriedir ei gosod. Ni chaniateir cofebion sydd yn fwy na 3’ o led a 4’ o uchder a dylid ei gosod ar sylfaen a wneir o garreg, llechen neu concrid ac wedi ei ddiogelu a phin dur. Ni chaniateir “kerbs” o gwmpas y beddi. Rhaid talu’r ffi angenrheidiol wrth gyflwyno’r cynlluniau.
  9. Bydd plotiau ar gyfer gweddillion amlosgiad yn cael eu lleoli yn y rhan blaen o’r fynwent, ac ni chaniateir unrhyw feddrod mwy na 18” o uchder na 15” o led.
  10. Ymgymerwyr angladdau fydd yn gyfrifol am agor a chau'r beddau ac yn gyfrifol am gyflogi a diogelwch pob gweithiwr. Rhaid diogelu’r beddau nesaf wrth agor bedd newydd a gosod gorchudd priodol ar y beddau hynny i osgoi niwed gan bridd.
  11. Ymgymerwyr angladdau fydd yn gyfrifol am gyflenwi’r brics a’r gorchuddion ar gyfer y beddau. Rhaid i’r brics gael eu gosod yn eu lle gyda sment ac nid neu gadael yn rhydd ar unrhyw gyfrif. Rhaid i’r gorchuddion fod o “reinforced concrete” os nad o lechen.
  12. Y beddau a’r cerrig beddau i gael eu cadw mewn trefn gan y meddianwyr, ac os niweidir bedd drwy gwympiad carreg fedd, bydd perchennog y garreg fedd yn gyfrifol am y niwed.
  13. Disgwylir i bob teulu gadw’r beddau mewn trefn er cynhorthwyo’r Cyngor i gadw’r fynwent yn daclus, ac i ymwelwyr ymddwyn yn barchus a boneddigaidd, a rhoddi bob ysbwriel yn y bin.
  14. Y teulu fydd yn gyfrifol am dynnu’r garreg fedd cyn yr ail a’r trydydd agoriad ac i’w hail osod.
  15. Ni chaniateir unrhyw wrthrych sefydlog ar wyneb y beddau, na phlannu coed na blodau am fod hyn yn rhwystr wrth dorri gwair.
  16. Rhaid i’r teulu sydd yn trefnu’r angladd wneud trefniadau gydag Offeiriad neu Weinidog i wasanaethu yn yr angladd a bod yn gyfrifol am dalu am y gwasanaeth crefyddol.
  17. Ni fydd y Cyngor yn gyfrifol am ddifrod i garreg fedd am unrhyw reswm.
  18. Mae gan y Cyngor yr hawl o bryd i’w gilydd i wneud unrhyw newidiadau yn y trefniadau hyn.

Mabwysiadwyd y rheolau uchod yng nghyfarfod o’r Cyngor 11.11.08 a newidiadau ar y 09.07.13 ac yn effeithiol ar unwaith.

Telerau y Gladdfa Ffioedd

yn weithredol o Mai 1af 2023

Plot a Chladdedigaeth
Trigolion Lleol - £300
Eraill £550

Ail-agor Bedd
Trigolion Lleol - £150
Eraill- £250

Plot a Chladdu Llwch
Trigolion Lleol - £200
Eraill - £450

Ail-agor Plot Claddu Llwch
Trigolion Lleol - £100
Eraill - £200

Codi Carreg
Trigolion Lleol - £150
Eraill- £150

Ffi Ymchwil
£75

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.