Iaith: Cymraeg | English

Newyddion

Newyddion

Yma mae'r newyddion diweddaraf am fywyd y pentref gan gynnwys newyddion gan y Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian.



 

Adroddiad Cynghorydd Gareth Griffith Awst a Medi 2017

  1. Wedi bod yn Cerdded y Ward eto a sgwrsio ag amryw o drigolion y pentre. Mi fyddai yn cario ymlaen I gerdded y Ward dros yr wythnosau nesa.Dwi wedi cysylltu gyda’r Cyngor ynglun ar materion sydd wedi ei codi yn barod
  2. Manylion cysylltu:
    Galw Gwynedd 01766 771000 - Pwynt cyswllt am broblemau I ymwneud ar Cyngor.
    Ffon fi 01286 676869.
    Fy swyddfa yng Nghaernarfon [9yb-5yh Llun I Gwener]
    e-bost: Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru
    Neges ar dudalen Facebook fi - Gareth Griffith
  3. Cyfarfodydd.
    1. Cyfarfod gyda Tim Gwasanaethau Cyfiawnder.Gwynedd a Mon.
    2. Cyfarfodydd fel Aelod Cabinet y Cyngor/Tim Arweinyddiaeth/Cyfarfod Grwp {laid Cymru/ Cyrsiau i Gynghorwyr.
    3. Llywodraethwyr Ysgol Felinheli ac Syr Hugh Owen
  4. Wedi taro i mewn i Felin Sgwrsio i weld un or gwersi Cymraeg.
  5. Wedi bod yn cyfarfod misol Yr Wyl. Mi fydd Stwr wrth y Dwr yn ol flwyddyn nesa. Paw i ddechrau ymarfer.

Adroddiad Cynghorydd Gareth Griffith Gorffennaf 2017

1.Wedi bod yn Cerdded y Ward eto a sgwrsio ag amryw o drigolion y pentre. Mi fyddai yn cario ymlaen I gerdded y Ward dros yr wythnosau nesa.Dwi wedi cysylltu gyda’r Cyngor ynglun ar materion sydd wedi ei codi yn barod
2. Manylion cysylltu :-Galw Gwynedd 01766 771000. Pwynt cyswllt am broblemau I ymwneud ar Cyngor. Ffon fi 01286 676869.Fy swyddfa yng Nghaernarfon[9yb-5yh Llun I Gwener]
e-bost Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru
Neges ar dudalen Facebook fi - Gareth Griffith
3. Wedi cael mis prysur gyda cyfarfodydd a digwyddiadau.
[a] Ysgol Syr Hugh Owen fel Llywodraethwr .
[b] . Cyfarfod Cynllun Tymor Hir y Cyngor 2018-2023.
[c] Cyfarfodydd Cynllunio ar y Cyd. Polisi Cynllunio newydd Ynys Mon a Gwynedd.
[ch] Diwrnod hyffordiant I Gynghorwyr Gwynedd - hyfforddiant Ffordd Gwynedd.
[d] Cyfarfod misol Gwyl y Felin fel aelod or Pwyllgor.
[dd] Cyfarfodydd Tim Arweinyddiaeth/Cabinet/Llywio Cabinet.Cyfarfod Blynyddol Grwp Plaid Cymru.Cyfarfod Arbennig or Cyngor llawn i fabwysiadau polisi cynllunio newydd.
4. . Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.
5. Y gwaith I drwsio llwybr Afon Heulyn wedi ei gwblhau.Mae y llwybr ar agor.
6. Ydi’n bosib I fi gael manylion cyswllt unrhyw fudiadau yn y pentre. Dwi yn trio cael ‘’database’’ o grwpiau y pentre I gyd. Mi fyddai wedyn yn medru rhoi gwybodaeth I chi am unrhyw grantiau sydd ar gael.
7.Cyfarfod Aelodau Cabinet Cymru dros yr Amgylched [CLILC. WLGA] Caerdydd.
8. Cyfarfodydd Portffolio Cabinet. Ymweld a safle Parc Adfer yn Cei Cona

Adroddiad Cynghorydd Gareth Griffith Mehefin 2017

1.Wedi bod yn Cerdded y Ward a sgwrsio ag amryw o drigolion y pentre. Mi fyddai yn cario ymlaen I gerdded y Ward dros yr wythnosau nesa.Dwi wedi cysylltu gyda’r Cyngor ynglun ar materion sydd wedi ei codi yn barod
2. Manylion cysylltu :-Galw Gwynedd 01766 771000. Pwynt cyswllt am broblemau I ymwneud ar Cyngor. Ffon fi 01286 676869.Fy swyddfa yng Nghaernarfon[9yb-5yh Llun I Gwener]
e-bost Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru
Neges ar dudalen Facebook fi - Gareth Griffith
3. Wedi cael mis prysur gyda cyfarfodydd a digwyddiadau.
[a] Ysgol Felinheli fel Llywodraethwr .
[b] Cyfarfod Cynghorwyr Tref Porthmadog yn y Ganolfan fel Aelod Cabinet Gwynedd.
[c] Cyngor Cymuned y Felinheli –Cyfarfod misol.
[ch] Diwrnod hyffordiant I Gynghorwyr Gwynedd - hyfforddiant technoleg gwybodaeth
[d] Cyfarfod misol Gwyl y Felin fel aelod or Pwyllgor. Yr Wyl wedi bod yn llwyddianus . Diolch ir Pwyllgor/Y Pentre ar Noddwyr .Da ni angen aelodau a syniadau newydd I gario ymlaen y gwaith da.
[dd] Cyfarfodydd Tim Arweinyddiaeth/Cabinet/Llywio Cabinet. Y Cyngor. Pwyllgor Craffu.
4. . Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.
5. Y gwaith I drwsio llwybr Afon Heulyn ar fin dechrau Mwy o wybodaeth I ddilyn.
6. Ydi’n bosib I fi gael manylion cyswllt unrhyw fudiadau yn y pentre. Dwi yn trio cael ‘’database’’ o grwpiau y pentre I gyd. Mi fyddai wedyn yn medru rhoi gwybodaeth I chi am unrhyw grantiau sydd ar gael. Neb wedi ymateb ir cais yma hyd yn hyn.
7. Mynd ir Shed-menter newydd yn y pentre. Pob lwc i chi.
8. Siarad mewn Apel Cynllunio ar ran trigolion Rowen a Dinas yn erbyn y Cais cynllunio ar y tir o dan y Ganolfan Iechyd.

Adroddiad Cynghorydd Gareth Griffith Mai 2017

1.Wedi dechrau fel Cynghorydd yn y Cyngor Newydd ac wedi fy mhenodi I Cabinet y Cyngor yn gyfrifol am Briffyrdd a Bwrdeistrefol a Ymgynghoriaeth Gwynedd.Wedi mynychu cyfarfod blynyddol y Cyngor a cyfarfod Arweinyddion y Cyngor.
2. Manylion cysylltu a fi:- Ffon 01286 676869.Fy swyddfa yng Nghaernarfon[9yb-5yh Llun I Gwener]
e-bost Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru
Neges ar dudalen Facebook fi - Gareth Griffith
3. Wedi cael mis eithaf prysur gyda cyfarfodydd a digwyddiadau.
[a] Ysgol Felinheli fel Llywodraethwr a cyfarfod / sgwrsio efo’r plant ar Gyngor yr Ysgol.Pleser mawr gwrando ar ei cynlluniau.
[b] Cyfarfod Grwp Plaid Cymru ac Etholaeth Arfon.
[c] Cyngor Cymuned y Felinheli –Cyfarfod Blynyddol a misol.
[ch] Diwrnodau hyffordiant I Gynghorwyr newydd a hyfforddiant ar materion cynllunio.
[d] Cyfarfod misol Gwyl y Felin fel aelod or Pwyllgor. Yr Wyl yn dechrau ar y 23/6/17 tan 1/7/2017. Mi fydd y rhaglen allan yn fuan.
[dd] Helpu gyda ymgyrch Hywel Williams yn Felinheli.
4. . Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.
5. Ychydig o oedi efo’r gwaith I ail agor llwybr Afon Heulyn.Mwy o wybodaeth I ddilyn.
6. Ydi’n bosib I fi gael manylion cyswllt unrhyw fudiadau yn y pentre. Dwi yn trio cael ‘’database’’ o grwpiau y pentre I gyd. Mi fyddai wedyn yn medru rhoi gwybodaeth I chi am unrhyw grantiau sydd ar gael.

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI - Hysbysiad o Gyfethol

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod Cyngor Cymuned Y FELINHELI yn bwriadu Cyfethol 4(PEDWAR) aelod i lenwi’r lleoedd gwag sydd ar gael ar gyfer Cynghorydd/Cynghorwyryng Nghymuned (Ward). Y FELINHELI. Yn dilyn diffyg nifer enwebiadau ar gyferyr Etholiadau cynhaliwyd ar 4 Mai 2017.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Llawlyfr Cyngor Cymuned Y Felinheli - cliciwch yma

line

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI

Dyddiadau Cyfarfodydd 2017
Lleoliad - Capel Bethania Y Felinheli

16/05/2017 – Cyfarfod Blynyddol & Cyfarfod Misol
13/06/2017 – Cyfarfod Misol
11/07/2017 – Cyfarfod Misol
12/09/2017 – Cyfarfod Misol
10/10/2017 – Cyfarfod Misol
14/11/2017 – Cyfarfod Misol
12/11/2017 – Cyfarfod Misol
09/01/2018 – Cyfarfod Misol
13/02/2018 – Cyfarfod Misol
13/03/2018 – Cyfarfod Misol
10/04/2018 – Cyfarfod Misol

line

CYNGOR CYMUNED Y FELINHELI

Cyfarfod Blynyddol 2017(agored)

Nos Fawrth 16 Mai 2017 am 7 y.h.
Capel Bethania, Y Felinheli.
ei anfon at y clerc o leiaf 3 diwrnod o flaen llaw.
clercfelinheli@aol.com

Agenda - cliciwch yma

Adroddiad Cynghorydd Gareth Griffith Ebrill 2017

1. Dim Etholiad yn mis Mai I Felin. Mi fydda i yn cario ymlaen fel y Cynghorydd Sir I’r pentre.

2. Manylion cysylltu a fi:- Ffon 01286 676869. Fy swyddfa yng Nghaernarfon [9yb-5yh Llun I Gwener]
e-bost Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru
Neges ar dudalen Facebook fi - Gareth Griffith

3. Wedi cael mis eithaf prysur gyda cyfarfodydd a digwyddiadau.

[a] Ysgol Felinheli fel Llywodraethwr..
[b] Cyfarfod Grwp Plaid Cymru ac Etholaeth Arfon.
[c] Cyngor Cymuned y Felinheli
[ch] Lansio Ymgyrch Plaid Cymru tuag at Etholiadau ar y 4ydd o Fai 2017 yn Bwyty Sopna Pontrug [diolch I Raj am y croeso cynes.]
[d] Cyfarfod misol Gwyl y Felin fel aelod or Pwyllgor. Hefyd helpu I gynal y Ras Hwyaid Pasg 2017.
[dd] Helpu gyda postio taflenni y Cynghorydd John Wynn Jones ym Mangor.Etholiad 4/5/2017.

4. Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.

5. Dwi wedi gweld cynydd ar gyrion y pentre o fagiau sbwriel ac eitemau fel ‘’Microwave’’ yn cael ei gadael ar ochr lon. Tydi Iard y Cyngor yn Cibyn ddim yn bell iawn or Pentre.

6. Ydi’n bosib I fi gael manylion cyswllt unrhyw fudiadau yn y pentre. Dwi yn trio cael ‘’database’’ o grwpiau y pentre I gyd. Mi fyddai wedyn yn medru rhoi gwybodaeth I chi am unrhyw grantiau sydd ar gael.

Adroddiad Cynghorydd Mawrth 2017

1. Ni fydd Etholiad ym mis Mai yn Y Felinheli. Mi fydda i yn cario ymlaen fel y Cynghorydd Sir ar ran y pentre’.

2. Fy manylion cyswllt:

3. Wedi cael mis eithaf prysur gyda cyfarfodydd.

  • Ysgol Felinheli a Syr Hugh Owen fel Llywodraethwr.
  • Cyfarfod Grwp Plaid Cymru ac Etholaeth Arfon.
  • Cyngor Cymuned Y Felinheli; Cyfarfod MSFOMA - Afon Menai; Cynllun amddiffyn rhag y môr.
  • Lansio Ymgyrch y Gogledd Plaid Cymru tuag at Etholiadau Mai 2017.
  • Cyfarfod Llawn y Cyngor.

4. Dal i helpu trigolion y pentre’ gyda materion yn codi hefo’r Cyngor.

5. Cofiwch hefyd fod taliadau aelodaeth y Blaid angen cael eu talu.

line

RHYBUDD ETHOLIAD - Mai 4ydd 2017

Rhybudd Etholiad - Arfon, Gwynedd - cliciwch yma

Rhybudd Etholiad Cymunedau Arfon - cliciwch yma

Adroddiad Cynghorydd Chwefror 2017

1. Dwi yn trio helpu trigolion Rhes Felinheli. Oes rhywun efo llun o’r Hen Feddygfa efo enw y rhes arno fo.

2. Fel Llywodraethwr yn ysgol Felinheli mae’r Ysgol wedi gorfod cau y maes parcio er mwyn cadw y man yna yn ddiogel I blant yr Ysgol. Dwi yn derbyn bod hyn yn creu anhawster I rai sydd yn gyrru ceir I’r Ysgol ond mae yn bwysig I gofio Cyfraith y Wlad wrth barcio neu gyrru car ar y lonydd wrth yr Ysgol. Mae hyn wedi ei wneud I drio cadw y plant yn ddiogel.

3. Mae baw ci yn broblem ym mhob ardal. Mae angen cael y neges allan I faw ci gael ei gadw mewn bag a wedyn I’r biniau priodol.

4. Wedi cael mis eithaf prysur gyda cyfarfodydd.
[a] Ysgol Felinheli a Syr Hugh Owen fel Llywodraethwr. Materion staffio.
[b] Cyfarfod Grwp Plaid Cymru ac Etholaeth Arfon.
[c] Cyngor Cymuned y Felinheli
[ch] Yn y Marina efo mater cynllunio.
[d] Pwyllgor Archwilio y Cyngor/Cyflwyniad am Papur Gwyn y Llywodraeth I newid Llywodraeth Leol. Pwyllgor Iaith y Cyngor.

5. Falch o ddweud fy mod wedi cael fy newis eto I sefyll fel Cynghorydd y Pentre yn yr Etholiad nesaf. Mi fyddai felly yn sefyll yn yr Etholiad yn mis Mai.

6. Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.

Adroddiad Cynghorydd Ionawr 2017

1. Llwybr Afon Heulyn ar gau tan mis Mai 2017.Gwaith angen ei wneud ond dim yn bosibl gweithio yn yr afon tan Mis Mai.

2. Wedi rhoi cyhoeddusrwydd I sgam galwadau ffon. RHYBUDD. Pobl HYN yn derbyn galwadau ffôn yn Y Felinheli i dalu trethi a mynd â'r pres i Morrisons Caernarfon. Mater wedi ei roi i'r Heddlu. Rhannwch y neges plîs a rhybuddiwch eich ffrindiau a'ch teulu.

3. Wedi ail ddechrau y sgwrs efo’r Eglwys I ddefnyddio Church House fel man parcio. Mwy o wybodaeth I ddilyn.

4. Wedi cael mis eithaf prysur gyda cyfarfodydd.
[a] Ysgol Felinheli a Syr Hugh Owen fel Llywodraethwr. Materion staffio.
[b] Cyfarfod Grwp Plaid Cymru ac Etholaeth Arfon. Cyfrannu syniadau at Maniffesto Etholiadau Mai 2017.
[c] Cyngor Cymuned y Felinheli.

5. Falch o ddweud fy mod wedi cael fy newis eto I sefyll fel Cynghorydd y Pentre yn yr Etholiad nesaf.

6. Dal I helpu trigolion y pentre gyda materion yn codi efo’r Cyngor.

line

09.01.17 Etholiadau Cynghorau Cymunedau a Tref 2017

poster

 

 

Hoffech chi chwarae rôl sy’n cefnogi eich cymuned leol?

Ydych chi wedi ystyried bod yn gynghorydd cymuned neu dref?

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth



Ceisiadau Cymorth Ariannol

Mae ceisiadau ariannol gan fudiadau o fewn y Felinheli yn cael eu derbyn gan Y Cyngor Cymuned nawr. Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen gais. Anfonwch eich ceisiadau at y Clerc Heather Jones 3 Maes Padarn Llanberis Gwynedd LL55 4TE clercfelinheli@aol.com erbyn 31 Rhagfyr 2016.

Rhif Rhoi Gwybod Cyfoeth Naturiol Cymru

poster poster

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn newid y rhif dylai pobl alw i roi gwybod am ddigwyddiadau amgylcheddol. Y rhif yw 03000 65 3000.

Cliciwch ar y posteri am fwy o wybodaeth

Adroddiad Cynghorydd Mis Medi 2016.

1.Cyfarfod Cynllunio.
Siarad yn erbyn cais gan ddatblygwr I adeiladu 11 ty wrth y Ganolfan Iechyd. Y cais yn cael ei wrthod.

2.Mynychu cyfarfod mis Medi Cyngor Cymuned Y Felinheli . Mwy o fanylion I ddilyn ar wefan y pentre Felinheli.org.

3.Llywodraethwyr Ysgol.
Dwi wedi cael fy mhenodi I fod yn lywodraethwr yn Ysgol Felinheli a Ysgol Syr Hugh Owen.

4.Cyfarfod Etholaeth Arfon.
Clywed Hywel Williams AS gyda newyddion o Llundain, Sian Gwenllian AC gyda newyddion Caerdydd a Cynghorydd Gareth Thomas yn son am ganlyniadau ardderchog level A a TGAU plant Gwynedd.

5. Mynychu Cwrs Hyfforddiant ar Wybodaeth am Bobl.

6. Fforwm Ardal Ogwen a Gwyrfai.
[a] Cist Gwynedd – arian grant ar gael I fudiadau lleol. Fwy o wybodaeth ar gwynedd.llyw.cymru
[b]Tai Gwag- benthyciadau a grantiau I gael efo tai wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis. Cysylltwch ar Tim ar 01341 424371 neu taigwag@gwynedd.gov.uk
[c] Casgliad gwastraff swmpus ar gael [5 item mawr] am £19. Ffoniwch 01766 771000.

7.Mynychu cyfarfod Grwp Plaid Cymru yn Porthmadog I drafod polisiau.

8.Mynychu arddangosfa ffordd osgoi Caernarfon/ Bontnewydd.

9.Cysylltu a fi.
Ffon 01286 676869 9 y bore tan 5 y prynhawn dydd Llun I Dydd Gwener
e-bost I Cynghorydd.GarethWynGriffith@gwynedd.llyw.cymru neu ar dudalen Facebook

Cofnodion Mis Medi - cliciwch yma

Adroddiad Cynghorydd Gorffennaf ac Awst 2016

1. Wedi dechrau yn swyddogol ar y 20.7.16.
2. Wedi cyfarfod â Sian Gwenllian AC i drosglwyddo cyfrifoldebau y pentre’ drosodd.
3. Hyfforddiant ardderchog gan Gyngor Gwynedd ar drefn a gwaith y Cyngor.
4. Wedi cael 'briefing' gan y National Grid ar y cynllun i gymryd trydan o Nant y Garth i Bentir. Mae hyn yn dal i gael ei ymgynghori
5. Wedi cyfarfod â Leanne Wood ar ddau achlysur.
6. Cyfarfod cyntaf gyda'r Cyngor a Chyngor Cymuned Y Felinheli ynglyn â chynllun diogelu rhag y môr, ynglhwm â chasglu syniadau am sut i wella'r tir ar Lan y Môr.
7. Dechrau Ras 5k o Gaernarfon i Blas Menai. Mynychu gemau cartref ac oddi cartref CPD Y Felinheli.
8. Yn prysur ddarllen adroddiadau y Cyngor ar faterion cynllunio a trwyddedu.
9. Wedi cyfarfod â nifer o drigolion ynghylch problemau gyda parcio, torri gwair ac ati. Mae rhai materion wedi eu sortio, ac eraill yn parhau.
10. Paratoi tuag at gyfarfodydd sydd yn dechrau ym mis Medi.

Is-etholiad dydd Iau YMA 14.07.16

Annwyl gyd-bentrefwr

Fel y gwyddoch, mae dau enw wedi eu cyflwyno ar gyfer yr is-etholiad sy'n cael ei gynnal dydd Iau yma ar gyfer cynghorydd sir newydd ar gyfer y pentref. Bydd angen felly bwrw pleidlais dydd Iau.

Cefais y fraint o'ch cynrychioli ers 2008 yn enw Plaid Cymru gan ymddiswyddo yn ddiweddar ar ol cael fy ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Gareth Griffiths yw ymgeisydd Plaid Cymru ac fe fyddai'n gynghorydd ardderchog ar gyfer y pentref. Rwyf wedi adnabod Gareth ers dros 20 mlynedd a gwn mai fo yw'r person gorau ar gyfer y gwaith. Fo yw is-Gadeirydd ein gwyl hynod lwyddiannus, Gwyl y Felin ac mae wedi ymwneud a nifer o weithgareddau cymunedol dros y blynyddoedd.
Rwy'n gwybod y byddai Gareth yn barod iawn i wrando ac i helpu pobol y pentref.

Bydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor yn Neuadd yr Eglwys a'r Ysgol rhwng 7 y bore a 10 y nos dydd Iau yma, Gorffennaf 14.

Diolch am eich cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd. Gobeithio y caf gyfle i gydweithio efo Gareth fel ein cynghorydd sir newydd er lles y pentref i'r dyfodol.

Cofion cynnes,

Sian Gwenllian

Cyfrifon 2015-2016

Mae cyfrifon 2015/2016 wedi dychwelwyd oddi wrth yr Archwiliwr Mewnol ac mae modd bellach i aelodau’r cyhoedd i’w gweld. Os am eu gweld mae angen gwneud apwyntiad gyda'r Swyddog ariannol Wynne Barton. Mae’r cyfrifon ar gael hyd nes y 1af o Orffennaf 2016.

line

Adroddiad Cynghorydd Mehefin 2016

llun felin

Yn dilyn fy ethol fel Aelod Cynulliad Arfon, rwyf wedi ymddiswyddo fel cynghorydd Y Felinheli ar Gyngor Gwynedd.

Braint o’r mwyaf fu cael cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd am 8 mlynedd a byddaf yn parhau i weithio dros y pentref yn fy swydd newydd fel eich Aelod Cynulliad.

Mae Plaid Cymru wedi dewis Gareth Griffith fel ein hymgeisydd a gwn y byddai’n gwneud cynghorydd ardderchog.

Bydd Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi rhybudd ac yna’n cynnal is-etholiad yn yr wythnosau nesaf os bydd angen.

Yn y cyfamser, gallwch gysylltu a mi ar Sian.Gwenllian@Cynulliad.Cymru ac mi geisiaf eich helpu.

Adroddiad Cynghorydd Mai/Mehefin 2016

ETHOLIAD: Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael fy ethol yn Aelod Cynulliad Arfon ac rwyf wedi cychwyn ar fy ngwaith. Gwn fod cefnogaeth gwych wedi dod o’r Felinheli a diolch o galon i chi gyd am fynd i bleidleisio. Rwyf yn bwriadu cyflwyno fy ymddiswyddiad fel Cynghorydd Sir yn yr wythnosau nesaf. Bydd cyfle wedyn i chi ddewis cynghorydd newydd. Yn y cyfamser, cysylltwch a mi os ydych am help efo unrhyw fater.

MENAI MARINA: Cafwyd cais cynllunio i ehangu’r swyddfeydd presennol ger y Doc i greu toiledau, cawodydd a mwy o le swyddfa ynghyd a chodi 3 uned manwerthu ac ehangu’r maes parcio presennol. Gallwch ganfod y cais ar wefan y Cyngor C16/0507/20/LL a rhoi sylwadau yno.

GWAITH ATAL LLIFOGYDD: Mae Cyngor Gwynedd wedi llwyddo i gael arian i greu cynllun er mwyn atal llifogydd o’r Afon Fenai i’r dyfodol. Fe fydd unrhyw gynllun yn cael ei drafod yn fanwl efo’r gymuned, Y Cyngor Cymuned, Y Clwb Hwylio a’r preswylwyr lleol.

PEDWAR TY NEWYDD: Rhoddodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ganiatâd i gais i adeiladu pedwar tŷ newydd ( un fforddiadwy) ar lain o dir tu ôl i’r Lon Las ger Ffordd Penybryn

GWAITH AR Y LON LAS: Bu cwmni Cemlyn Engineering yn cwblhau gwaith ar yr afon ger y Lon Las tu ôl i’r gyfnewidfa ffon er mwyn atal llifogydd i’r dyfodol.

STEPIAU CEI: Mae’r blwch postio bellach ar gael i’w ddefnyddio.

LLWYBR CYHOEDDUS AFON HEULYN: Yn anffodus, nid yw’r gwaith o ail godi’r wal wedi cychwyn ac felly rhaid cadw’r llwybr ar gau.

LLONGYFARCHIADAU: Clwb Pêl-droed Y Felinheli yw Pencampwyr Cynghrair Gwynedd sy’n golygu y byddan nhw’n mynd fyny i Gynghrair Cymru ( Adran 2) tymor nesaf.

21.04.16 Mae Siân Gwenllian yn gofyn am eich pleidlais yn Etholiad Cymru ar 5ed Mai

Annwyl gyd-bentrefwr,

Byddai'n anrhydedd imi gynrychioli Arfon yn y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy'n gobeithio eich bod wedi cael cyfle i ddarllen y wybodaeth rwy wedi'i chyhoeddi ar gyfer yr etholiad a gweld beth fyddai fy mlaenoriaethau i. Byddai'r Felinheli wrth gwrs yn rhan o'm cyfrifoldebau newydd a byddai'n dal i fod yn lle arbennig iawn i mi!
Rwy'n credu bod gen i'r profiad a'r sgiliau i fod yn llais effeithiol dros ein hardal.

Ar ôl cael fy ethol yn gynghorydd yn 2008, fe es ati i ymgynghori â chi ynglyn â beth ddylai fy mlaenoriaethau fod, ac fe osodais i nifer o nodau. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi gallu cyflawni’r rhan fwyaf helaeth o'r rhain:

  • Mwy o gartrefi fforddiadwy i bobl leol: Wedi sicrhau 16 o gartrefi
  • Cartref newydd i'r feddygfa: wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer ein Canolfan Feddygol ardderchog
  • Mwy o gyfleoedd i gymdeithasu (i bobl ifanc a phobl hyn): wedi sicrhau grantiau ar gyfer gwaith uwchraddio sylweddol ar y Neuadd ac i sefydlu canolfan yn y Felin Sgwrsio
  • Mynd i'r afael â baw ci a sbwriel: wedi cynnal nifer o ymgyrchoedd, arwyddion newydd, biniau newydd, sesiynau hel sbwriel
  • Gwella llwybrau: wedi sicrhau grantiau i uwchraddio llwybr Rowen, Cerrig yr Afon a'r Lôn Las.
  • Creu swyddi lleol: wedi gweithio gyda busnesau lleol wrth iddyn nhw sefydlu neu ehangu ac wedi creu cyfarfodydd rhwydweithio drwy Fforwm Busnes y Felinheli

Rwy hefyd wedi arwain nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus gan gynnwys Dim Peilonau (yn erbyn cynlluniau'r Grid i godi peilonau ar draws y Fenai) a Babis Bangor (i gadw Uned Famolaeth lawn yn Ysbyty Gwynedd.) Rwy wedi cyfrannu at gynlluniau lleol yn y gymuned er enghraifft Gwyl y Felin ac wedi gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol ers blynyddoedd lawer.

Ond wrth gwrs, mae 'na rai problemau o hyd! Mae parcio'n dal yn broblem er bod maes parcio wedi'i greu y tu ôl i Stryd Bangor. Gobeithio y gwnaiff y cynllun ar gyfer cefn Neuadd yr Eglwys liniaru rhai o'r problemau. Mae angen gwella cyflwr wyneb rhai o'n ffyrdd; ac mae prosiectau eraill ar y gweill o hyd, er enghraifft y rhan newydd o Lwybr yr Arfordir sydd wedi wynebu oedi am sawl rheswm; ac rydym yn disgwyl gweld ailagor y llwybr ger Afon Heulyn.
Ond rwy'n gobeithio y gwnewch chi gytuno fy mod i'n rhywun sy'n ceisio gwireddu addewidion ac sy'n sicrhau canlyniadau!

Byddai'n fraint imi gael eich pleidlais ar 5 Mai - pa ffordd well o roi'r Felin ar y map na'm hethol i - y gyntaf erioed o'r pentref i fod yn wleidydd ar y llwyfan cenedlaethol.

Cofion cynnes,

Siân Gwenllian

line

08/04/2016 Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian - Ebrill 2016

llun felin

STEPIAU CEI: Mae'r llwybr cyhoeddus rhwng Tai Terfyn a'r Doc wedi ail-agor ar ôl cyfnod hir. Diolch i Gyngor Gwynedd a Cemlyn Williams (Llanddeiniolen) am y gwaith o ddiogelu'r wal ger y stepiau. Diolch i bawb am eu hamynedd! Wnes i swnian a swnian am hyn - braf iawn gweld y gwaith wedi ei gwblhau erbyn y Pasg. Rwyf mewn cysylltiad efo’r Royal Mail ynglŷn ag ail-agor y bocs llythyrau.

LLWYBR YR ARFORDIR: Dydd Llun bum mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd gan siarad am y Llwybr Arfordir hir-ddisgwyliedig yn Felin. Roedd y cynghorwyr yn unfrydol eu cefnogaeth (14-0) i symud mlaen i greu gorchymyn adran 26 er mwyn cofrestru darn 8 metr o dir yng nghefn tai ffrynt y marina fel llwybr cyhoeddus. Dyma'r darn olaf o'r jig-so sydd ei angen cyn gellir agor Llwybr yr Arfordir. Gosodais y mapiau ar yr Hysbysfwrdd Cymunedol yn Felin Sgwrsio. Newyddion ardderchog.

Gallwch weld y drafodaeth yma (Eitem yn cychwyn 00:09:46).

Cliciwch yma i weld yr adroddiad aeth i’r Pwyllgor

SAFLE FERODO: Mae pryder mawr am ddiogelwch ar y safle a chefais gyfarfod efo pedwar o swyddogion o Gyngor Gwynedd yn ddiweddar i leisio’r farn fod angen dwyn pwysau ar y perchennog i wneud mwy i ddiogelu’r safle. Addawyd y byddai’r swyddogion yn ceisio cael gwell mesurau diogelwch ar waith. Rhaid cofio ei bod hi’n drosedd i fynd ar y safle ac ei bod yn beryglus yno.

GWAITH YN DILYN LLIFOGYDD: Gwnaed gwaith o dan y ffordd ger y gyffordd a Gwylan Uchaf yn mhen uchaf Lon Llwyn ble bu llifogydd ar ôl y Nadolig. Mae Llwybr Afon Heulyn yn parhau ar gau gan fod angen ail-godi’r wal. Cliriwyd y cerrig o’r afon.

Y DOC: Braf gweld ardal y Doc yn gwella a diolch i’r perchennog am wneud gwaith sylweddol i atgyweirio’r wal ger y ffordd. Mae nifer o fusnesau wedi lleoli yn y Doc erbyn hyn – a’r diweddaraf i sefydlu yno ydy cwmni Dafydd Hardy. Ewch lawr yno am dro – mae’n werth gweld yr holl ddatblygiadau. Bellach mae dros 60 o fusnesau bach yn Y Felinheli – cyflogwr pwysig yn y gymuned.

CYFLWR WYNEB Y FFORDD - LON LLWYN A TAI GWELFOR: Mae’r rhain yn parhau i fod ar restr aros o ffyrdd sydd angen eu hail-wynebu gan Gyngor Gwynedd. Gobeithio y byddan nhw yn dod i’r brig cyn hir. Dyw’r toriadau i gyllidebau cynghorau sir ddim yn helpu gyda’r angen i flaenoriaethu gofal ac addysg.

ETHOLIAD MAI 5: Byddaf yn treulio’r wythnosau nesaf yn ymgyrchu er mwyn ceisio ennill sedd Arfon yn y Cynulliad Cenedlaethol. Byddaf yn parhau gyda fy ngwaith fel Cynghorydd Sir yn mis Ebrill ond ni fyddaf yn cynnal cymorthfeydd yn Felin Sgwrsio. Os byddaf yn cael fy ethol, fe fydd modd i bobol Y Felinheli ethol cynghorydd sir newydd maes o law. Rwyf ar gael ar 07775 642202 neu e-bostiwch siangwenllian@yahoo.com

18/03/2016 Uwchraddio llwybr poblogaidd yn Y Felinheli

llun felin

Mae gwaith uwchraddio sylweddol ar lwybr troed yn Y Felinheli wedi ei gwblhau yn ddiweddar gan Gyngor Gwynedd sydd wedi hwyluso mynediad at draeth poblogaidd yn yr ardal.
Ariannwyd y cynllun trwy grant o £12,000 gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r gwaith uwchraddio ar lwybr troed o Ffordd Glan y Môr, Felinheli heibio’r Ganolfan Iechyd i draeth Rowen ar lan yr Afon Menai yn cael ei gydlynu gan dîm Hawliau Tramwy Cyngor Gwynedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Rheoleiddio Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faes llwybrau: “Rwy’n hynod falch o weld fod y gwaith o uwchraddio’r llwybr poblogaidd yma wedi ei gwblhau. Mae’n adnodd pwysig i’r gymuned leol, gyda’r llwybr yn arwain at draeth Rowen, ac sy’n cysylltu gyda Lon Las Menai a Llwybr yr Arfordir.
“Mae hwn wedi bod yn lwybr poblogaidd ers blynyddoedd lawer, ac achos hynny roedd ei gyflwr wedi dirywio ac angen gwelliannau dros y misoedd diweddar.
“Diolch i’r tirfeddianwyr lleol am eu cydweithrediad wrth wireddu’r cynllun a oedd yn cynnwys gwella wyneb y llwybr, adeiladu stepiau o’r newydd, gosod canllaw a chlirio gordyfiant. Mae hyn yn golygu fod y llwybr yn llawer mwy hwylus i'w ddefnyddio a’i bod bellach yn llawer haws cael mynediad at draeth Rowen.”
Meddai’r Cynghorydd Sian Gwenllian, sy’n cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd: “Mae hi'n hyfryd cael llwybr safonol a diogel lawr i'r traeth yn Rowen ac mae'r gymuned gyfan yn ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd am drefnu'r gwaith ac i gwmni peiriannwyr Gelli am wneud y gwaith.

llun felin

“Mae llwybr troed wedi bodoli ers blynyddoedd maith gyda chaniatad y ffermwr i groesi'r cae lawr i'r llecyn arbennig ger Y Fenai. Wedi adeiladu'r Ganolfan Feddygol mewn rhan o'r cae, daeth cyfle i uwchraddio'r llwybr yn sylweddol er mwyn i lawer mwy o bobl gael mynediad i Rowen.
“Mae teuluoedd a physgotwyr lleol wedi mwynhau mynd yno ers blynyddoedd maith ond bellach, mae hi llawer haws cael mynediad a bydd llawer mwy o bobl yn gallu mwynhau mynd yno am dro.
“Rwyf yn falch iawn o'r cydweithio parod sydd wedi bod rhwng y tirfeddiannwyr a'r holl bartneriaid i gyflawni prosiect sydd wedi bod ar fy rhestr o 'bethau i'w gwneud' fel cynghorydd sir! Diolch yn fawr iawn pawb.”
Ariannwyd y gwaith drwy Gynllun Gwella Hawliau Tramwy Llywodraeth Cymru sy’n cael ei weinyddu gan Gyfoeth Naturiol Cymru, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i bobl gael mynediad i gefn gwlad.

line08.03.16 Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian – Mawrth 2016

steps cei

STEPIAU CEI - Rwy’n hynod o falch o weld gwaith adeiladu yn digwydd yn ardal Stepiau Cei – rwyf wedi bod yn pwyso ers amser maith am gael ail-agor y llwybr cyhoeddus sy’n gyswllt pwysig rhwng dwy rhan o’r pentref. Dechreuodd y gwaith o godi bwtres newydd ar 29ain Chwefror. Y gobaith yw cwblhau y gwaith o fewn 4 wythnos. Cemlyn Williams (Llanddeiniolen) yw’r contractwr sydd yn adeiladu’r bwtres, ac Osian Gruffydd yw’r peiriannydd sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith a phrif gyswllt y Cyngor.

TORIADAU CYNGOR GWYNEDD – Ar Fawrth y 3ydd cytunodd y Cyngor llawn i becyn o doriadau pellgyrhaeddol gwerth £4.94 Miliwn. Heb wneud y toriadau yma, ni fyddai wedi bod yn bosib gosod cyllideb. Cytunwyd i godi’r dreth 3.9%. Mae manylion yr holl doriadau yn y linc TORIADAU CYNGOR Canlyniad uniongyrchol polisïau ariannol San Steffan yw’r toriadau.

ARIAN PARC YNNI HAUL – o’r diwedd trosglwyddwyd £5000 gan gwmni Lighthouse sy’n gyfrifol am y Parc Ynni Haul ger Parcia i gyfrif y Cyngor Cymuned. Hwn oedd y ‘budd cymunedol’ yr oeddwn wedi ei sicrhau ar ran Y Felinheli a Chaernarfon. Rwyf yn argymell fod y Cyngor Cymuned yn clustnodi’r arian ar gyfer gwella’r pentref.

SAFLE FERODO - Mae swyddogion o’r Cyngor Sir wedi ymweld â’r safle yn ddiweddar yn dilyn fy nghwynion am faterion amlygwyd yn y wasg. Yn dilyn hyn, mae swyddogion wedi amlygu ambell i lecyn i berchnogion y safle lle mae’r ffens angen ei hatgyfnerthu. Gan fod y safle yn hen safle diwydiannol, mae gan y perchennog gyfrifoldeb i sicrhau nad oes neb yn gallu cael mynediad i dresbasu ar y safle – yn enwedig o gofio fod gwaith adferiad sylweddol angen ei wneud cyn ail ddatblygu’r safle. Mae swyddogion mewn trafodaethau gyda’r perchnogion , er mwyn ystyried y ffordd ymlaen. Byddaf yn cyfarfod swyddogion perthnasol yn fuan i gael diweddariad.

LLITHRFA o flaen GARDD FON - Mae dirywiad yng nghyflwr y jeti ers peth amser. Roedd yn cael ei ddefnyddio yn hanesyddol ar gyfer glanio a hwylio teithwyr ac fe roedd glanfa debyg ym Moel y Don. Mae swyddog o’r Cyngor wedi cytuno i ymweld a’r jeti pan fydd llanw isel ganol y mis er mwyn edrych ar gyflwr y jeti er ceisio adnabod unrhyw gamau fydd angen eu cymryd. Bydd hefyd yn archwilio’r trac sy’n arwain at y jeti sydd yn llawn pyllau dwr ar hyn o bryd er i waith gael ei wneud yno yn ddiweddar gan y Cyngor Sir.

CAE CHWARAE LAN MOR – Diolch i bawb am gefnogi ymgyrch y Cyngor Cymuned efo’r prosiect i wella ansawdd ardal y cae chwarae ar Lan y Môr. Byddwn yn gwybod cyn hir faint yn union o arian fydd yn dod o gynllun Bags of Help TESCO. Mae’r datblygiad yn cynnwys:
• prynu offer sydd yn addas ar gyfer plant mewn cadeiriau olwyn i fedru chwarae gyda’u cyfoedion
• prynu a phlannu planhigion yn yr ardal.
• Mi fydd y prosiect yn rhoi cyfle i blant anabl ddefnyddio yr ardal chwarae ond hefyd yn harddu yr ardal.

poster

LLWYBR YR ARFORDIR – Fe fydd angen mynd i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i gael caniatâd i symud ymlaen efo’r camau cyfreithiol olaf sydd eu hangen. Mae hyn er mwyn cael y darn olaf o’r jig-so ar gyfer symud mlaen efo’r llwybr yn ardal y Marina. Mae pawb ond un o’r tirfeddianwyr wedi cytuno erbyn hyn. Y gobaith yw gweld y Llwybr yn cael ei greu yr haf yma.

NOSON YN Y FIC - Mae Cangen Plaid Cymru yn trefnu noson i ddymuno’n dda i mi gyda fy ymgyrch ar gyfer cael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Mai 5 – croeso cynnes i BAWB ond rhaid i chi archebu tocyn ymlaen llaw os gwelwch yn dda.

line

07.03.16 Unedau Aberpwll

Lleoliad: Hen Ysgol Aberpwll, Y Felinheli.
Swyddfeydd o amrywiol feintiau wedi eu hadnewyddu yn llwyr.
Cyfleusterau cegin gymunedol, toiledau a chawod.
Parcio i ddefnyddwyr swyddfa ac ymwelwyr.
Yn agos i ganol pentref Y Felinheli a chyfleus i Fangor a Chaernarfon. Dafliad carreg o’r A55 a llwybr beiciau Lôn Las Arfon. Gyda swyddfa Bost yn y pentre yn ogystal a llefydd bwyta a thafarndai.
Mae’r swyddfeydd yn gyn ganolfan i gwmni teledu Cwmni Da, gyda’r unedau o wahanol feintiau yn addas ar gyfer eu llogi yn unigol neu gyda’i gilydd. Gellid eu rhentu gan unigolion, cwmniau wedi sefydlu neu i gwmniau sydd ar gychwyn.
Mae un rhan o’r adeilad eisoes wedi ei rentu ar gyfer defnydd fel salon gwallt.

Anfonwch e-bost i post@cwmnida.tv wedi marcio ABERPWLL

ABERPWLL GWAELOD 1. = 12 Sq Mtr £240 per month.
ABERPWLL GWAELOD 2. = 11 Sq Mtr £220 per month.
ABERPWLL GWAELOD 3.= 20 Sq Mtr £400 per month.
ABERPWLL LLAWR CYNTA 1. = 17 Sq Mtr £340 per month.
ABERPWLL LLAWR CYNTA 2. = 12 Sq Mtr £240 per month.
ABERPWLL LLAWR CYNTA 3. = 26 Sq Mtr £520 per month.
ABERPWLL LLAWR CYNTA 4.= 33 Sq Mtr £660 per month.

Pris i gynnwys: rhent, pob gwasanaeth h.y. dŵr, trydan a nwy, cegin gymunedol, toiledau a chawod, Parcio, casglu gwastraff a diogelwch yr adeilad.

YCHWANEGIADAU: Band eang a ffôn i'w drefnu a thalu gan y rhentwr.

Cyfnod rhentu – Isafswm o 12 mis, ar gontract cynnal a chadw llawn gyda mis o flaendal rhent o sydd ei angen i dalu am unrhyw gost i wneud yn iawn am unrhyw newidiadau neu ddifrod i’r swyddfa. Mae'n rhaid i bob newid cael ei gytuno ymlaen llaw gyda'r landlord.

Bydd cytundeb safonnol yn cael ei arwyddo gan y ddau barti.

23.02.16 Llond bag o gefnogaeth i faes chwarae Lan Môr Y Felinheli

Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli wedi llwyddo i ennill arian o gynllun ‘Bags of Help’ cwmni siopau Tesco. Roedd yna gystadleuaeth brwd am yr arian gyda bron i 5,000 o geisiadau ar gyfer 1,200 o brosiectau.

lle chwarae

Prosiect i wella ansawdd ardal y cae chwarae ar Lan y Môr, Y Felinheli oedd dan sylw yn y cais am arian. Mae ennill yr arian yn galluogi datblygiadau sydd yn cynnwys

• prynu offer sydd yn addas ar gyfer plant mewn cadeiriau olwyn i fedru chwarae gyda’u cyfoedion
• prynu a phlannu planhigion yn yr ardal.
• Mi fydd y prosiect felly, nid yn unig yn rhoi cyfle i blant anabl gael defnyddio yr ardal chwarae ond hefyd yn harddu yr ardal.

Dywedodd cynghorydd Nerys John ar ran y Cyngor Cymuned:

lle chwarae

“Mae Lan y Môr yn adnodd arbennig iawn i’r pentref ac felly, mae unrhyw welliannau i’w croesawu. Rhywbeth gwerth chweil ar gyfer trigolion y pentref ac i’r bobl sydd yn ymweld mewn car, ar droed, ar feic neu ar gwch!”

Mae ‘Bags of Help’ Tesco yn cael ei redeg ar y cyd a Groundwork yn Lloegr ac yng Nghymru.

• Dewisir 3 prosiect i’w cefnogi mewn gwahanol ardaloedd ac yna fe roddir cyfle i’r cyhoedd bleidleisio am ba un o’r prosiectau sydd mwyaf haeddiannol.
• Rhoddir £12,000 i’r prosiect sydd yn dod i’r brig, yna £10,000 i’r ail ac £8,000 i’r trydydd.

lle chwarae

Meddai Sian Gwenllian, Cynghorydd Sir Y Felinheli: “Rwyf yn gefnogol iawn i’r cynllun hwn ac yn llongyfarch y Cyngor Cymuned am eu hymdrechion. Rwyf yn annog pawb i bleidleisio dros prosiect Lan y Môr Y Felinheli ac yn edrych ymlaen yn fawr at gael gweld y datblygiadau yn cael eu gwireddu.”

Bydd cyfle i bawb bleidleisio eu cefnogaeth i brosiect Lan y Môr Y Felinheli yn siopau Tesco Bethesda, Bangor, Caernarfon neu Porthmadog rhwng 27ain Chwefror a 6ed o Fawrth. Dyma gyfle i bawb dangos eu cefnogaeth gan greu adnodd ar gyfer plant anabl a’u cyfoedion a harddu’r llecyn arbennig hwn ar lan y Fenai.

line

22.02.16 Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian – Chwefror 2016

llwybr rowen

1) Llwybr Rowen – Mae’r gwaith o wneud gwelliannau sylweddol i’r llwybr sy’n arwain at draeth Rowen yn y cae o dan y Feddygfa wedi ei orffen. Rwyf wedi bod yn ymgyrchu am hyn ers tro ag yn falch iawn o weld hyn! Cwmni Peirianneg Gelli sydd yn gwneud y gwaith ar ôl i Gyngor Gwynedd ddenu grant gan Cyfoeth Naturiol Gwynedd. Bellach mae gennym lwybr troed braf a diogel lawr i’r traeth. Y cam nesaf yw cofrestru’r llwybr fel ‘llwybr cyhoeddus’ swyddogol.

2) Llwybr Stepiau Cei – mae’r Cyngor bellach wedi sicrhau cytundeb y cwmni sy’n cynrychioli trigolion Hen Gei Llechi sydd yn berchen ar y tir o flaen y wal ac fe fydd y gwaith o adeiladu bwtres i ddiogelu’r wal yn cychwyn ar Ddydd Llun 29ain Chwefror, a dylai'r gwaith fod wedi ei gwblhau o fewn 4 wythnos. Cemlyn Williams (Llanddeiniolen) fydd y contractwr fydd yn adeiladu’r bwtres. Bydd hi wedyn yn bosib ail-agor y llwybr.

3) Sbwriel sy’n cael ei adael ar ôl casgliadau ailgylchu – mae hyn yn cael ei drafod yn y Cyngor. Mae llawer o gynghorwyr yn cwyno am yr un mater ac yn pwyso am gael gwell sustem.

4) Parcio ger y siop- mae pobl yn parcio dros nos yn y man llwytho/dadlwytho nwyddau i’r siop (un bae) gan achosi tagfeydd traffig yn y bore gan nad oes lle i loriau dynnu mewn. Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i ail-baentio’r bae er mwyn gwneud yr ardal dad-lwytho yn fwy clir.

potiau

7) Gwelliannau Cae Chware Lan y Mor – mae’r Cyngor Cymuned yn gobeithio denu grantiau er mwyn cael mwy o offer ag i harddu’r cae chwarae. Llongyfarchiadau i’r criw sydd wrth y gwaith am eu dycnwch. Mae’r casgenni planhigion newydd yn ffordd dda o atal cerbydau rhag mynd ar y parc cychod.

8) Casglu Sbwriel – Diolch i bawb ddaeth i helpu. Datganiad - cliciwch yma

9) Ymddygiad gwrth-gymdeithasol - efallai fod rhai ohonoch wedi sylwi fod fandaliaeth yn broblem mewn rhannau o’r pentref. Rwyf wedi trafod efo’r asiantaethau priodol ag mae camau yn cael eu cymryd fydd, gobeithio, yn arwain at wella’r sefyllfa.

10) Pryder Coed Fodol - mae rhai yn bryderus o weld coed yn cael eu torri a gwaith yn mynd mlaen yn Cae Fodol ger cylch-dro Faenol. Rwyf wedi tynnu sylw Uned Gorfodaeth Cyngor Gwynedd at hyn gan nad oes caniatâd cynllunio. Mae’r cynghorydd lleol, Cyng John Wyn Williams yn ymwybodol o’r broblem hefyd.

11) Ffoaduriaid Syria – mae gwaith gwych yn cael ei wneud yn lleol a chefais y fraint o helpu criw oedd yn sortio dillad ar gyfer Syria yn Dr Zigs, ar Stad Y Faenol. Bellach mae’r eitemau ar eu ffordd i wersylloedd ar ffin Syria.

12) Gwaith ar y ffordd osgoi – O Chwefror 9fed ymlaen, mae Cyngor Gwynedd, ar ran Llywodraeth Cymru, yn ail wynebu'r darn canol o ffordd osgoi Y Felinheli. Mae’r gwaith yn digwydd rhwng 20:00 yr hwyr a 06:00 y bore - hynny yw dros nos. Mwy o wybodaeth : Barry Naylor Williams 01286 679760

13) Tyllau lon Llwyn – mae’r tyllau mwyaf wedi eu llenwi. Mae’r ffordd yn parhau ar restr y Cyngor o’r ffyrdd sydd angen eu hail-wynebu.

14) Cerrig yr Afon : Diolch yn fawr iawn i aelodau o'r Cyngor Cymuned am drwshio'r ffens yn Cerrig yr Afon.

15) Llifogydd – mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cwblhau’r gwaith o dynnu gweddillion wal y Faenol o’r Afon Heulyn – rhwng Glanrafon a Bwthyn y Cei. Mae hyn wedi adfer sianel yr afon, ac yn y tymor byr wedi leihau’r risg o lifogydd yn yr ardal. Bydd angen canfod ateb tymor hir.

16) Toriadau Cyngor Gwynedd – Mae’r gwaith tor-calonnus o flaenoriaethu pa doriadau sydd angen eu gwneud er mwyn gosod cyllideb gyda £5 miliwn yn brin yn 2016/7 a 2017/8 yn parhau. Bydd y Cyngor llawn yn trafod y mater ar Mawrth 3.

17) Cymorthfeydd – rwyf yn parhau i fod ar gael yn Felin Sgwrsio y rhan fwyaf o foreau Gwener (oni bai am y gwyliau ysgol) tan ddechrau Ebrill (10.30 – 11.30) Yn ystod Ebrill byddaf yn canolbwyntio ar fy ymgyrch i gael fy ethol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Mai 5ed. Byddaf ar gael ar y ffon drwy’r cyfnod yma wrth gwrs – 07775642202 – ac yn parhau i weithio ar ran y pentref. Os byddaf yn ennill ar Mai 5 (a does dim sicrwydd o hynny wrth gwrs) bydd cyfle i bobol Y Felinheli ethol cynghorydd sir newydd maes o law.

line

02.02.16 Cysylltiad Gogledd Cymru – gwaith ecolegol a pheirianyddol

Rwy’n ysgrifennu i sôn wrthych am ein gwaith ecolegol a pheirianyddol.

Diolch i bawb a ymatebodd i’n hail gyfnod ymgynghori. Mae’r sylwadau a gawsom yn bwysig iawn ac rydym wrthi’n edrych yn ofalus ar yr hyn y mae pobl wedi'i ddweud wrthym.

Bydd y themâu a godwyd yn cael eu cynnwys mewn adroddiad ar yr ymateb a’n nod yw cyhoeddi hwnnw erbyn haf 2016. Bydd yr adroddiad yn rhoi cyfle i chi weld beth ddywedodd pawb wrthym a sut rydym yn talu sylw i hynny.

Gwyddom fod cymunedau, twristiaeth, y dirwedd a’r golygfeydd yn bwysig iawn i bobl yr ardal. Maen nhw’n bwysig i ni hefyd. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn cynnal rhagor o arolygon ac asesiadau i edrych yn fanwl ar y ffactorau hyn i gyd.

Mae ein timau eisoes yn gweithio’n galed yn cynnal nifer o arolygon yn edrych ar fywyd gwyllt. Cynhelir y rhain ar droed yn bennaf. Efallai y gwelwch y timau’n tynnu lluniau’r dirwedd a nodweddion fel cloddiau a phyllau. Mae’r arolygon yn rhan bwysig o’n gwaith i’n helpu i ddeall yr ardal yn well, yn enwedig yr ecoleg.

Bydd ein hasiantau tir, Dalcour Maclaren, yn dal i gydweithio’n agos â pherchnogion a deiliaid tir yn yr ardal i drefnu arolygon ar dir preifat. Rydym yn cynnal arolygon dros ardal eang ac felly nid yw’r ffaith ein bod yn cynnal arolwg ar ddarn penodol o dir yn golygu ein bod yn bwriadu gosod offer ar y darn hwnnw na’n bod wedi dewis llwybr.

Yn ogystal, bydd ein tîm peirianyddol i'w gweld yma a thraw yn yr ardal. Byddant yn dringo peilonau i edrych ar y llinell bresennol yn fwy manwl.

Efallai hefyd y gwelwch bobl yn gweithio yn ardal Afon Menai dros yr wythnosau nesaf. Bydd ein peirianwyr yn drilio tyllau turio bychan er mwyn edrych yn fwy manwl ar y math o dir. Caiff y gwaith hwn ei gynllunio’n ofalus fel na fydd yn swnllyd nac yn amharu ar bobl. Mae gennym lawer o waith i’w wneud cyn y byddwn yn gwybod lle a sut y byddwn yn croesi Afon Menai a bydd y gwaith pwysig hwn yn ein helpu i wneud ein penderfyniadau.

Bydd canlyniadau’r holl waith hwn, ynghyd ag ymateb pobl yr ardal a ffactorau pwysig eraill, yn dylanwadu ar ddyluniad y cysylltiad y bwriadwn ei wneud.

Byddwn yn dal i ddiweddaru ein gwefan a gallwch gysylltu â ni o hyd trwy’n rhif rhadffôn ac ebost.

Yn gywir,
Cysylltiad Gogledd Cymru
Tîm Cysylltiadau Cymunedol

26.01.16 Ffordd Osgoi Y Felinheli – gwaith ffordd 3 wythnos

Fe fydd Cyngor Gwynedd, ar ran Llywodraeth Cymru, yn ail wynebu'r darn canol o ffordd osgoi Y Felinheli yn ystod mis Chwefror.

Mae'r gwaith fod i gychwyn ar y 9fed o Chwefror am dair wythnos gan gwmni Hogan (Adeiladwaith) Cyf.

Fe fydd y gwaith yn digwydd rhwng 20:00 yr hwyr a 06:00 y bore - hynny yw dros nos.
Dywedodd Cynghorydd Y Felinheli, Cyng Sian Gwenllian

“Rwyf yn gwybod fod y gwaith yma yn angenrheidiol ac rwyf yn falch iawn na fydd yn digwydd yn ystod y dydd. Gan fod y gwaith yn digwydd dros nos, bydd pentref Y Felinheli yn osgoi’r tagfeydd fyddai’n digwydd petai’r ffordd osgoi ar gau yn yr oriau brig.

“Gan na fydd angen i yrwyr ddod dryw’r Felinheli tan ar ôl wyth yr hwyr ac na fydd neb angen dod dryw’r pentref ar ôl chwech y bore, mawr obeithiaf na fydd problemau mawr yn codi.

“Serch hynny, byddaf yn cadw golwg manwl ar y sefyllfa ac yn trafod efo swyddogion os bydd problemau yn dod i’r amlwg. Os ydych yn rhagweld y byddwch yn cael eich heffeithio gan y gwaith ag angen trafod efo’r Cyngor ymlaen llaw, cysylltwch a mi neu’r Adran Priffyrdd yn syth.”

“I leihau unrhyw anawsterau i'r pentref, mae’r Cyngor wedi cysylltu a chwmnïau loriau yn gofyn iddyn nhw osgoi’r Felinheli a ddefnyddio ffyrdd eraill yn ystod cyfnod y gwaith.

“Mi fydd trafnidiaeth yn teithio tuag at Fangor yn cael defnyddio’r ffordd osgoi, ac mi fydd trafnidiaeth yn teithio tuag at Gaernarfon yn cael ei atgyweirio drwy Felinheli yn ystod y nos..”

Mwy o wybodaeth :

Barry Naylor Williams
Peiriannydd Cynorthwyol / Assistant Engineer
Gwasanaeth Cynnal Priffyrdd a Bwrdeistrefol / Highways and Municipal Maintenance Service
Priffyrdd a Bwrdeistrefol / Highways and Municipal
Cyngor Gwynedd / Gwynedd Council
Stad Ddiwydiannol Cibyn / Cibyn Industrial Estate
Caernarfon
Gwynedd. LL55 2BF
Ffon / Tel :- 01286 679760

line

18.01.16 Sgwrs Bywyd Iach gan Osian Evans ar Ddydd Mercher Ionawr 20

poster

 

 

20.01.16 2yp yn Y Felin Sgwrsio

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth







line

15.01.16 TWMPATH DAWNS I DDATHLU NOSON SANTES DWYNWEN

MAE Dysgwyr Cymraeg yn Y Felinheli yn cynnal twmpath dawns i ddathlu noson Santes Dwynwen ddiwedd mis Ionawr.

Bydd y grwp gwerin Aderyn Prin yn chwarae yn y noson,a gynhelir gan GLWB Y DYSGWYR , yn y Neuadd Goffa ar nos Sadwrn, Ionawr 30ain.

"Ein dysgwyr ni sydd wedi meddwl am y syniad hwn, a gobeithio bydd y noson yn gallu apelio at bobl o bob oed" meddai Aled G Job, sy'n cydlynu gweithgareddau dysgu Cymraeg yn Y Felinheli.

Cost y noson fydd £10.00 yn cynnwys bwyd

Bydd y noson yn cychwyn am 7.00 a bydd bar ar gael hefyd.

line

12.01.16 Adroddiad Cynghorydd - Ionawr 2016

1) Pnawn Casglu Sbwriel - Sadwrn nesa, Ionawr 16 – rwyf yn trefnu i wirfoddolwyr fynd o gwmpas yn casglu sbwriel – cyfarfod am 2 pm Felin Sgwrsio. Croeso i bawb.
2) Felin Daclus – mae angen atgyfodi’r grŵp yma ffurfiwyd i ddenu arian ar gyfer prosiectau i wella golwg y pentref.
3) Llwybr Rowen – cafwyd cadarnhad fod y gwaith o wella’r llwybr yn cychwyn canol Ionawr.
4) Stepiau Cei – y Cyngor yn y broses o gael caniatâd y perchennog tir ger y wal er mwyn codi bwtres diogelu yno fydd yn golygu gallu ail-agor y llwybr cyhoeddus.
5) Llifogydd – Gweithredwyd Cynllun Llifogydd y Cyngor Cymuned yn effeithiol iawn – diolch i bawb. Cafwyd trafferthion mewn 3 lle. a)Top Lon Llwyn – adroddiad a lluniau wedi eu cyflwyno i Gyngor Gwynedd b) Afon Heulyn – rwyf mewn cysylltiad a Chyfoeth Naturiol Cymru sydd yn asesu be sydd angen ei wneud. Mae’r perchennog tir wedi llenwi’r twll a lefelu’r tir ar y llwybr cyhoeddus ym mhen draw’r Doc ond nid yw’r llywbr ger yr Afon Heulyn at Glanarfon ar agor c) Lon Las ger yr Half Way – Cyngor Gwynedd wedi gwneud ychydig o waith ac rwyf yn disgwyl adroddiad.
6) Cerrig yr Afon – y Cyngor Cymuned sy’n gyfrifol am drwshio rhan o’r ffens sydd wedi dymchwel.
7) Tyllau Lon Llwyn – rwyf wedi adrodd am y broblem o dyllau mawr sydd wedi ffurfio yn sgil y llifogydd.
8) Pysgodfa Cregyn Gleision Afon Menai – cafwyd cyfarfod adeiladol iawn yn y Clwb Hwylio ac fe dawelwyd llawer o’r pryderon – esboniwyd na fydd cregyn gleision ar y banc tywod. Bydd rhagor o gyfarfodydd yn cael eu trefnu.
9) Casglu Sbwriel/Ailgylchu – newidiadau Cyngor Gwynedd wedi dod i rym yn ddi-drafferth yn Felin.

line

04.01.16 Llifogydd

brodyr gregory yn ysgol felin

Gair o ddiolch i bawb fu'n helpu delio efo problemau’r llifogydd. Yr ardal sydd wedi ei heffeithio waetha yn Y Felinheli yw ger yr Afon Heulyn yn Aberpwll a draw at y Doc. Dwr wedi mynd mewn i ddau dy a rhannau mawr o wal y Faenol wedi dymchwel. Cyfuniad o'r afon yn gor-lifo a llanw uchel. Gawson ni fagiau tywod gan Gyngor Gwynedd i'w gosod ger Bwthyn y Cei. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu'r sefyllfa ger y Doc/Afon Heulyn. Rwyf wedi cyflwyno adroddiad manwl. Bydd y llwybr cyhoeddus wedi cau am beth amser felly cadwch draw os gwelwch yn dda.

brodyr gregory yn ysgol felin

Cafwyd problemau hefyd wrth i ddwr or-lifo o'r Lon Las rhwng Half Way a'r hen Penningtons i gefn dau dy yn Ffordd Bangor - yn agos iawn at eu drysau cefn. Roedd dwr yn agos at adeilad y gyfnewidfa ffon. Rwyf wedi hysbysu’r Cyngor am yr angen am waith tymor hir fan hyn.

A diolch i bawb fu'n helpu ger mynedfa Gwylan Uchaf – gwnaed gwaith gwych gyda gwirfoddolwyr yn cyfeirio dwr i wahanol lefydd ag i ffwrdd o'r tai yn Lon Llwyn/Trem y Foel/Gwylan Uchaf. Rwyf wedi cyflwyno adroddiad manwl am sefyllfa’r draeniau I Gyngor Gwynedd.

brodyr gregory yn ysgol felin

Diolch i aelodau gweithgar ein Cyngor Cymuned am fod mor barod i helpu - a diolch i nifer o bentrefwyr eraill wnaeth ymateb mor sydyn i'r alwad am help. Y gymuned ar ei gorau.

 

 

Afon Heulyn ger bwthyn GlanrafonRiver Heulyn near Glanrafon

Posted by Y Felinheli on Saturday, 26 December 2015

 

Pen pella'r Doc ger Bwthyn y Cei Far end of the Dock, near Bwthyn y Cei 26.12.2015

Posted by Y Felinheli on Saturday, 26 December 2015

11.12.15 Adroddiad Cynghorydd Rhagfyr 2015

NADOLIG LLAWEN A BLWYDDYN NEWYDD DDA!

Fory (Sadwrn 12/12/15) : TE NADOLIG 2- 4 pm Felin Gylchu £3

Bydd Ffair yn cael ei chynnal yn Y Faenol ar Ddydd Sul, Rhagfyr 13 o 11am - 7pm. Bydd yr elw o ffioedd stondinau, raffl, a maes parcio yn mynd i 'Rwydwaith Ffoaduriaid Gogledd Cymru' ac yna yn cael ei wario ar brynu esgidiau ar gyfer ffoaduriaid ar ynysoedd Leros, Lesbos a Chios. Bydd amrywiaeth a wahanol stondinau traddodiadol, gan gynnwys busnesau lleol a chrefftwyr. Os gennych ddiddordeb mewn cael stondin yn Ffair Nadolig Y Faenol, cysylltwch efo kristinabanholzerphotography@hotmail.com neu mail@drzigs.com. Bydd cost o £7 ar gyfer pob stondin.

Byddai’r Cyngor Cymuned yn falch o dderbyn ceisiadau am gymorth ariannol oddi wrth elusenau a cymdeithasau’r pentref erbyn y 31ain o Ragfyr 2015. Dylai unrhyw gais (ffurflen gais ar wefan y Cyngor) gael ei anfon ynghyd a chopi o daflen adroddiad ariannol blynyddol y gymdeithas at y Clerc Heather Lynne Jones, 3 Maes Padarn, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TE clercfelinheli@aol.com

Cliciwch yma i weld gweddill yr adroddiad.

25.11.15 Pysgodfa Cregyn Gleision dros ffordd i Felin?

Ymgynhoriad ar greu pysgodfa wystrys a chregyn gleision gyferbyn a’r Felinheli

Mae cynigion wedi eu cyflwyno i greu pysgodfa wystrys a chregyn gleision ar lannau’r Fenai allai olygu na fyddai modd defnyddio’r banc tywod yn Moel y Don gyferbyn a’r Felinheli.

Mae’r Menai Strait Fishery Order Management Association wedi cyflwyno cais i weinidogion Cymru am Orchymyn o dan y Ddeddf Pysgodfeydd Mor ( Pysgod Cregyn) 1967 , i ganiatáu iddyn nhw gael hawliau ar gyfer nifer o bysgodfeydd wystrys a chregyn gleision mewn 4 ardal yn ardal Gorllewin Y Fenai.

Byddai’r Gorchymyn yn caniatáu i’r rhai sy’n dal y les i gynhyrchu pysgod cregyn a chyfyngu y defnydd gan eraill.

Mae Ardal A yn y cais yn cynnwys ardal ar lannau Mon gyferbyn a’r Felinheli yn ymestyn o gyferbyn pen dwyreiniol y Marina i rhywle gyferbyn a Plas Menai, rhwng lefelau dwr uchel ac isel.

Byddai’r gorchymyn yn caniatáu i’r rhai sy’n dal y les osod cregyn gleision yn yr ardal a byddai’n erbyn y gyfraith i unrhyw un ymyrryd a nhw.

Golyga hyn y gallai’r traeth tywodlyd gyferbyn a’r Felinheli gael ei orchuddio mewn cregyn gleision a byddai hi’n erbyn y gyfraith i fynd yno.

Mae gan Glwb Hwylio Y Felinheli nifer o bryderon:

  • Mae’r Clwb yn defnyddio yr ardal ar gyfer hyfforddi gan fod y dwr yn fas
  • Ni fyddai modd i gychod lanio ar y tywod
  • Mae’n boblogaidd iawn gyda pysgotwyr a cherddwyr
  • Mae’r Fenai o bwysigrwydd mawr o safbwynt ecolegol
  • Mae’n fan hamddena unigryw gan dynnu llawer i’r ardal a chyfrannu at yr economi leol

Ar y llaw arall, fe allai’r cynllun ddod a budd economaidd i’r ardal. Efallai fod modd cyfyngu’r gweithgaredd i ardal na fyddai’n cynnwys y banc tywod?

Mae’r gorchymyn yn y cyfnod ymgynghorol ar hyn o bryd ac mae’r Cyng Sian Gwenllian wedi gofyn am estyniad gan ddadlau nad oedd neb yn gwybod am yr ymgynghoriad tan yn ddiweddar.

Ond efallai na ddaw’r estyniad. Y dyddiad cau yw Tachwedd 29 2015.

Dyma’r linc i’r dudalen ymgynghori www.msfoma.org

Welsh Government Fisheries Unit
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UR

Ebost: marineandfisheries@wales.gsi.go.uk

line

24.11.15 Barod am y gaeaf? Helpu Cadw Cymru'n gynnes

Cliciwch yma i weld ein fideo

Gyda'r tywydd oer ar y gorwel, mae Dwr Cymru'n gofyn i chi ymuno yn ein hymgyrch 'Cadw Cymru'n Gynnes'. Nod yr ymgyrch yw ceisio osgoi'r holl drafferth ac anghyfleustra y mae pibellau dwr sy'n rhewi yn gallu eu hachosi i lawer o aelwydydd a busnesau. Rydyn ni'n annog pobl i dreulio ychydig funudau'n amddiffyn eu pibellau rhag rhwygo gan achosi difrod sy'n gallu costio miloedd o bunnoedd i'w drwsio.

Fel rhan o’r ymgyrch, mae prawf ar-lein, yn Gymraeg neu Saesneg, yn www.wrapupwales.com i weld a yw'ch cartref yn barod ar gyfer y gaeaf a gallwch gael pecyn lagio am ddim i warchod pibellau y tu allan rhag y tywydd oer.

Er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o'r ymgyrch, rydym yn gofyn am eich cymorth. Byddai’n wych pe gallech arddangos y poster atodedig neu grybwyll ni ar Facebook neu roi ail-drydariad ar Twitter i ledaenu ein neges.

line

24.11.15 Ceisiadau am Gymorth Ariannol

Byddai’r Cyngor yn falch o dderbyn ceisiadau am gymorth ariannol oddi wrth elusenau a cymdeithasau’r pentref erbyn y 31ain o Ragfyr 2015. Dylai unrhyw gais (ffurflen gais ar wefan y Cyngor) gael ei anfon ynghyd a chopi o daflen adroddiad ariannol blynyddol y gymdeithas at y Clerc Heather Lynne Jones, 3 Maes Padarn, Llanberis, Gwynedd, LL55 4TE clercfelinheli@aol.com

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

24.11.15 Peidiwch â chael eich twyllo dros y Nadolig

logos

Gyda chyfnod y Nadolig ar y gorwel bydd mwy a mwy ohonom yn mynd ar-lein er mwyn archebu anrhegion Nadolig, siopa bwyd neu hyd yn oed trefnu gwyliau ar gyfer y gaeaf.

Mae Tîm Troseddau Seiber Heddlu Gogledd Cymru wedi darparu’r taflenni sydd wedi’u hatodi gan Action Fraud i’ch helpu chi gymryd yr holl gamau diogelwch angenrheidiol er mwyn diogelu eich hun a’ch arian.

Treuliwch ychydig o amser yn darllen y cyngor fel bod eich Nadolig yn un i’w gofio am y rhesymau cywir.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi dioddef twyll ar-lein dylech ei riportio i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 20 40 neu drwy fynd i www.actionfraud.police.uk

line

18.11.15 Ymgynghoriad National Grid

Cliciwch yma i ddarllen y llythyr

line

18.11.15 Stepiau Cei / Casglu Sbwriel

STEPIAU CEI : Fydd rhai ohonoch wedi sylwi fod stepiau Cei wedi cael eu cau eto ar ol bod ar agor am gyfnod byr. Mae'r Cynghorydd Sian Gwenllian yn gweithio'n galed i geisio cael nhw wedi eu hail-agor gan fod nhw yn lwybr cyhoeddus pwysig yn Felin. Roedd rhywun wedi tynnu'r ffensys heb ganiatad ond mae Cyngor Gwynedd wedi gorfod rhoi rhai newydd yn eu lle am fod y wal uchwben y stepiau yn BERYG, yn enwedig yn y tywydd gwlyb yma. Mae hyn yn niwsans mawr, ond fasa fo yn ofnadwy os bysa rhywun yn cael eu brifo. Mae'r Cyngor yn ceisio cael caniatad i fynd ar y tir o dan y wal er mwyn adeiladu butres i wneud y wal yn saff ag wedyn gall y llwybr gael ei agor. Mae Sian wedi bod yn ymgyrchu am hyn a bydd yn parhau i bwyso er mwyn ail-agor y stepiau cyn gynted a fo'n bosib. Mae nhw wedi bod ar gau am llawer rhy hir yn barod.

CASGLU SBWRIEL/AILGYLCHU: Mae'r drefn newydd wedi cychwyn gyda'r bin gwyrdd yn cael ei wagio bob 3 wythnos a'r cart/biniau ailgylchu/bocs bwyd yn cael eu casglu bob wythnos. Dydy pawb ddim wedi cael y cartiau ail-gylchu newydd eto ond mae nhw ar eu ffordd. Os ydych yn cael unrhyw drafferth efo'r drefn newydd, cysylltwch a mi anfonwch nodyn at ailgylchu@gwynedd.gov.uk neu ffonio 01766 771000.

line

13.11.15 Ffair Gaeaf - Y Felin Sgwrsio

Yn Y Neuadd Goffa

14-11-2015, 11yb - 3.30yp

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

line

10.11.15 Adroddiad Cynghorydd Tachwedd 2015 (Dim Peilonau i Bentir)

Hoffwn atgoffa pawb i gymryd rhan yn ymgynghoriad Her Gwynedd ynglyn a'r toriadau y mae Cyngor Gwynedd yn cael eu gorfodi i wneud oherwydd polisïau ariannol y Torïaid. Gellir llenwi holiadur ar lein https://www.gwynedd.gov.uk/cy/Cyngor/Dweud-eich-dweud/Her-Gwynedd.aspx neu fynd i unrhyw lyfrgell i nol copi papur. Mae'r Cyngor yn gofyn i bobl Gwynedd pa wasanaethau fuaswn nhw yn ddiogelu a pha rai sydd yn llai pwysig. Y syniad yw ceisio cael barn y cyhoedd cyn i'r cynghorwyr orfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn y Gwanwyn.

#Mae'r Grid Cenedlaethol yn cynnal ail ymgynghoriad am y Peilonau. Manylion i gyd ar www.cysylltiadgogleddcymru neu yn y Ganolfan Feddygol. Gall olygu mwy o beilonau yn ardal Nant Y Garth http://www.cysylltiadgogleddcymru.com/

Cliciwch yma i weld gweddill yr adroddiad.

line

05.11.15 Torri Gwair Mynwent y Cyngor Llanfairisgaer

Gwahoddir Tendrau am dorri gwair ym Mynwent y Cyngor yn Llanfairisgaer, i ddechrau gyda mis Ebrill 2016, ac i wneud un toriad y mis am bum mis (6 toriad) a hyn am 3 mlynedd yn olynol.

Bydd yn ofynnol arddangos yswiriant digonol, a disgwylir i’r ymgymerwr gludo ymaith y torion.

Gall y bydd gofyn am doriad pellach, ond bydd hynny pro rata ar ofyniad y Cyngor.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Clerc. Pob pris i fod mewn llaw'r Clerc erbyn 4 pm 5 Ionawr 2016, mewn amlen dan sêl ac wedi ei fancio’n glir gyda’r geiriau TENDER: LLANFAIRISGAER.

Heather Lynne Jones, Clerc y Cyngor, 3 Maes Padarn, Llanberis, Gwynedd.
LL55 4TE 01286 872655/07867 982518

clercfelinheli@aol.com

27.10.15 "Deddf Cymalau Heddlu Trefol, 1847 - Adran 21"

Cau Stryd Bangor, Y Felinheli dros dro - Sul y Cofio 2015

Gorchymyn - Gwasanaeth Sul y Cofio - Y Felinheli, 2015 - cliciwch yma

Rhybudd - Gwasanaeth Sul y Cofio - Y Felinheli, 2015 - cliciwch yma

line

20.10.15 Parti Noson Calan Gaeaf, Dydd Sadwrn, Hydref 31

Parti gwisg ffansi i godi arian tuag at pum elusen cancr.

- Ty Gobaith
- Ymchwil Cancr
- #TeamIrfon
- MacMillan
- Ymchwil Cancr y Fron

Bwyd, bandiau, disgo a mwy! Dewch yn llu i gefnogi'r achos!
Tocynnau ar werth yn Londis, Y Felinheli.

line

16.10.15 Dyddiadau Gwyl Y Felinheli 2015/16

20/12/15 Noson Nadolig 5yh yn Neuadd Yr Eglwys

Dydd Llun Y Pasg – Gemau i'r plant 10.30/ Ras Hwyaid 12.00

Bingo yn y Fic bob dydd Iau diwethaf yn y mis heblaw Mis Rhagfyr 17/12/15 (os oes rhywun angen lift i'r Bingo cysylltwch gyda aelod o'r pwyllgor)

Gwyl 2016 Mehefin 24 i Gorffennaf 2ail

line

15.10.15 Brodyr Gregory yn ymweld â Ysgol Y Felinheli

brodyr gregory yn ysgol felin

Bu'r Brodyr Gregory yn Ysgol Felinheli yn ddiweddar gyda sioe yn son am bwysigrwydd ail-gylchu, peidio taflu sbwriel a chlirio baw cwn.

 



line

02.10.15 TWO NEW OPPORTUNITIES TO LEARN WELSH IN Y FELINHELI (English only)

INDIVIDUALS who would like to learn Welsh in Y Felinheli now have two new opportunities to learn the language in the village.

The first Welsh learning session will be held at Y Palas Pinc( Pink Palace) between 7.00 and 8.00 on Monday nights, starting on Monday night, October 12.

The second learning session is already up and running at Y Felin Sgwrsio between 9.00 and 10.30 on Tuesday mornings.

Both sessions make use of the new T.P.R( Total Physical Response) method, which uses a kinesthetic approach to learning Welsh, where the language is linked to physical movement in a wide range of real life settings.

“Being able to offer both an evening class and a morning class will hopefully attract a wider range of people who would like to start learning Welsh in Y Felinheli” said tutor Aled G Jôb.

“Learning Welsh through TPR is a fun, stress-free process which is very different to conventional language learning methods.”

Both sessions will also feature a local language learner who will model the actions and movements to be covered as part of the language teaching .

“It’s good to involve learners in this way because it shows new learners that not only is learning Welsh possible, but that it can also lead to new opportunities to be part of the local community”

More details from Aled on: 07818 068 205 or aled.job@btopenworld.com

line

01.10.15 Cyfarfod Blynyddol Gwyl Y Felinheli

Cyfarfod Blynyddol Gwyl Y Felinheli ar nos Fercher Hydref 14eg yn y Felin Sgwrsio am 7.00

23.09.15 Dewch i fore coffi a derbyn eich pigiad ffliw yr un pryd!

Unwaith eto mae cynghorydd Y Felinheli Sian Gwenllian yn ymuno â staff y Ganolfan Feddygol yn Y Felinheli i gynnal bore coffi Macmillan.

Bydd ‘Bore Coffi Mwya’r Byd’ Y Felinheli yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Feddygol yn Rowen am 11.00 a.m. dydd Gwener Medi 25 ac mae croeso i bawb. Bydd boreau coffi tebyg ar hyd a lled Cymru i godi arian i’r elusen sy’n cefnogi pobl gyda chanser.

Dywedodd Sian Gwenllian : “Dyma’r chweched flwyddyn i ni drefnu Bore Coffi Macmillan yn Y Felinheli,

“Bydd yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Feddygol ac mae cyfle hefyd i bobl gael eu pigiadau ffliw.”

Dywedodd Sally Lloyd-Davies, Rheolwraig Meddygfa: “Byddwn yn cynnal clinig ffliw fore Gwener i gyd-fynd efo’r Bore Coffi. Gall unrhyw un o’n cleifion ni, ifanc a hen, droi fyny yn y feddygfa.

“Mae gennym wobrau raffl gwych a hoffem ddiolch i bawb am eu rhoddion hael. Mae pob aelod o staff wedi gwirfoddoli i wneud cacen. Mae’n gyfle i’r Feddygfa a’r gymuned leol ymuno efo’i gilydd i gefnogi elusen bwysig,” meddai Sally.

Ychwanegodd Sian : “Gobeithio y gallwn godi llawer o arian i’r elusen bwysig yma ac fe fyddem ni’n falch o gael cacennau tuag at y bore coffi o 9 o’r gloch ymlaen ar Fedi 25 yn y feddygfa. Croeso cynnes i bawb. Fe fydd gwirfoddolwyr o’r Felin Sgwrsio a’r Cyngor Cymuned wrth law i helpu.”

line

23.09.15 Toriadau Cyngor Gwynedd

 

 

 

 

 

 

 



line

08.09.15 MEDDWL YN DDA

YDACH chi’n byw hefo iselder/pryder?

Ydi’r cyflyrau hyn yn effeithio ar eich gallu i fwynhau bywyd yn llawn?

Fasa chi’n licio dysgu am y technegau diweddaraf i ddelio gydag iselder a phryder mewn ffyrdd creadigol a chadarnhaol?

Os felly, beth am ymuno gyda grŵp newydd sy’n cychwyn yn y Felin Sgwrsio y mis hwn:

MEDDWL YN DDA

Bydd y grŵp yn gwahodd siaradwyr gwahanol i gyflwyno gwybodaeth am sut y gall pethau fel ymarfer corff, bwyta’n iach, ymwneud cymunedol, cadw cysylltiad â phobl, cymryd rhan mewn gweithgareddau celf a gwirfoddoli fod o help mawr wrth ddelio hefo’r cyflyrau hyn. Bydd cyfle hefyd i aelodau’r grŵp gyfnewid gwybodaeth am yr hyn sydd yn eu helpu hwy yn eu bywydau eu hunain.

Bydd cyfarfod cyntaf MEDDWL YN DDA yn cael ei gynnal ar ddydd Iau, Medi 17 am 12.00 yn Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli.

Mwy o fanylion gan Aled G Jôb: 07818 068 205

line

07.09.15 CASGLU eitemau at Ffoaduriaid yn Y Felinheli

 

FELIN SGWRSIO

HEDDIW (2yh - 5yh)

Mercher, Medi 9 (10yb - 5yh)

Gwener, Medi 11 (10yb - 5yh)

Sadwrn, Medi 12 (12yh - 5yh)

 


line

03.09.15 Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Awst / Medi 2015

1) Bydd y Tour of Britian yn Nant y Garth dydd Sul, Medi 6 a bydd y FFYRDD AR GAU mewn ag allan o Felin i gyfeiriad Bangor/Faenol /Llanberis 11 tan 2. Dewch i waelod Nant y Garth erbyn tua 12 i weld y beicwyr yn pasio heibio.

2) Dau gais cynllunio yn cael eu trafod yn y Pwyllgor dydd Llun, Medi 9 : giatiau’r Cei ac addasiadau i Bron Menai, Ffordd Helen.
Rwyf wedi gorfod datgan diddordeb efo’r cyntaf gan fod aelodau o’r teulu yn byw ger llaw ac nid oes hawl gen i siarad yn y Pwyllgor.

3) Mae CCG wedi addo gwelliannau i’r tir o gwmpas RHYD Y FENAI ers tro ac rwyf wedi gofyn am adroddiad am be sy’n digwydd. Mae’r Cyngor wedi torri y tyfiant ar lon Brynffynnon wythnos yma.

Cliciwch yma i weld gweddill yr adroddiad.

line

01.09.15 Cyrsiau i Oedolion



 

 

 

 

 

 

 

 

line

01.09.15 Galwr Digroeso

Rydym wedi cael galwad gan aelod o’r cyhoedd sy’n byw yn Nhywyn, Gwynedd. Cafodd alwad ffôn yn ddiweddar gan ddyn a ddywedodd ei fod yn beiriannydd SKY. Mi ddywedodd fod ganddo ei holl gyfrineiriau a’i manylion banc, ond ei fod angen newid ei chyfrinair.

Mi wnaeth y ddynes wrthod rhoi ei manylion iddo ac ar y pwynt hwn dechreuodd y galwr siarad yn anfoesgar â hi dros y ffôn. Ar y pwynt hwn mi wnaeth y ddynes roi’r ffôn i lawr ac mi ffoniodd SKY yn uniongyrchol. Mi wnaethant ddweud wrthi nad oedd y dyn hwn yn un o beirianwyr SKY.

Byddwch yn ymwybodol o hyn; os bydd rhywun yn eich ffonio ac yn gofyn am fanylion banc, codau pin neu gyfrineiriau yna dywedwch wrthynt eich bod yn mynd i ffonio’r cwmni yn uniongyrchol gan ddefnyddio ffôn arall. Pan fyddwch yn gwneud hyn sicrhewch eich bod yn aros o leiaf 30 munud cyn gwneud galwad ffôn arall a ffoniwch rif yr ydych yn ymddiried ynddo sydd ar ohebiaeth flaenorol a gawsoch ac nid y rhif y mae’r galwr yn ei roi i chi dros y ffôn.

Os oes gennych chi unrhyw scam i riportio yna ewch i wefan Action Fraud. Bydd y wefan hon yn rhoi gwybodaeth i chi am bob scam maent yn ymwybodol ohono a gallwch hefyd riportio unrhyw scam newydd.

http://www.actionfraud.police.uk/

27.08.15 Teithio Llesol

Daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 i rym ym mis Medi 2014. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol fynd ati’n barhaus i wella cyfleusterau a llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr, a llunio mapiau sy’n nodi’r llwybrau y gallant eu defnyddio ar hyn o bryd yn ogystal â llwybrau arfaethedig y gallant eu defnyddio yn y dyfodol. O dan y Ddeddf mae hefyd yn ofynnol bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr yn y cyfnod dylunio.

Sesiynau galw heibio

Fel rhan o’r broses ymgynghori statudol, bydd sesiynau galw heibio'n cael eu cynnal yn y lleoliadau isod:
- 21/09/2015 Cyntedd Llyfrgell Bangor (11:00 – 18:00)
- 25/09/2015 Ystafell Gymuned Llyfrgell Caernarfon (11:00 – 18:00)

Mae'r sesiynau'n gyfle i aelodau'r cyhoedd alw heibio i edrych ar y mapiau ac i drin a thrafod gwahanol agweddau o’r cynllun gyda swyddogion Cyngor Gwynedd. Mae hefyd yn gyfle i aelodau'r cyhoedd rannu eu barn neu sylwadau ynglyn â darpariaeth llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr yng Ngwynedd.

line

14.08.15 Cyrsiau WEA

ARCHAEOLEG 06.10.15 17.11.15 TUES | MAWR 13:00-15:00 NEUADD GOFFA FELINHELI FELINHELI RHYS MWYN

Cliciwch yma am fwy o fanylion

FFRANGEG 07.10.15 18.11.15 WED | MERCH 13:00-15:00 NEUADD GOFFA FELINHELI FELINHELI ALAIN RAULT

FFRANGEG 06.10.15 17.11.15 TUES | MAWRTH 19.00-21.00 FELIN SGWRSIO FELINHELI ALAIN RAULT

Cliciwch yma am fwy o fanylion

Bydd pob cwrs yn rhedeg am 6 wythnos, a cost y cyrsiau fydd £45.00 am y 6 wythnos.

line

14.08.15 Tour of Britain

Bydd y digwyddiad seiclo enwog Tour of Britain yn ardal Y Felinheli ar Medi 6! Bydd Ffyrdd ar gau yn ardal Nant y Garth a Faenol. Dyma'r manylion Cliciwch yma am fanylion

Newyddion Cyngor Gwynedd "Gwynedd yn croesawu Tour of Britain"



31.07.15 Cylch Meithrin yn cyrraedd y nod

 

 

 

 

 

 

 

 

line

31.07.15 Lansio'r Map Hanes

 

line

23.07.15 Flog Felinheli



line

22.07.15 Digwyddiad Lawnsio Prosiect Mentro Mlaen GISDA yng Nghaernarfon

Prosiect ydyw, sydd yn gweithio gyda phobl ifanc yn ardaloedd Arfon, Dwyfor a Meirionnydd, i gynnyddu eu hyder a'u sgiliau er mwyn eu galluogi i gael mynediad i waith.

Cynhelir Digwyddiad Caernarfon yn Ty'r Ysgol ar y 30ain o Orffennaf, ac mae hefyd ddigwyddiadau ym Mhwllheli ar y 29ain, ac ym Mlaenau Ffestiniog ar y 31ain.

 

 

 

line

13.07.15 Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Gorffennaf 2015

Ffordd Tafarngrisiau: Bydd cwmni Hogans yn ail-wynebu’r ffordd ar ran Cyngor Gwynedd am gyfnod o hyd at bythefnos o Gorffennaf 27 ymlaen. Gwybodaeth bellach gan Barry Naylor Williams ar 01286 679760.

Ffordd Osgoi Caernarfon/Bontnewydd: mae gwelliannau wedi eu cyflwyno ger Crug sy’n golygu y bydd mynediad lleol ar gael. Mae’r map diweddaraf ar hysbysfwrdd y Cyngor Cymuned yn Felin Sgwrsio.

Ffynnon Fair: Mae Alun Ffred Jones, AC wedi cysylltu â chwmni Jones-Bros, y cwmni sy’n gweithredu ar gynllun y ffordd osgoi, yn nodi pryder ynglŷn â’r ffynnon a’r posibilrwydd iddi gael ei chladdu. Yn dilyn ymweliad safle, deallir fod pob ymdrech i’w wneud i ddiogelu’r ffynnon.

Cliciwch yma i weld gweddill yr adroddiad.

line09.07.15 Golygfa Menai : fflatiau Anwyl Homes yn Y Felinheli

Neges gan Beresford Adams

"Mae’n bosib eich bod yn gwybod yn barod fod Anwyl Homes wrthi’n adeiladu datblygiad o 17 fflat yng Ngolygfa Menai, y Felinheli.

Beresford Adams yw’r asiant marchnata ar gyfer y datblygiad hwn ac fe hoffem gynnig cyfle i brynwyr lleol eu prynu, a hynny cyn y lansiad marchnata swyddogol.

Hefyd, mae’r fflatiau hyn ar gael i’w prynu gyda Chymorth i Brynu Cymru (ar gyfer tai newydd) – sy’n golygu gallech fanteisio ar fenthyciad ecwiti 20% gan Lywodraeth Cymru.

Ymhellach, mae dau o’r fflatiau am gael eu gwerthu ar sail tai fforddiadwy: rhowch ganiad inni am ragor o fanylion.

Am ragor o fanylion am yr uchod, neu os hoffech ein holi am unrhyw beth, cysylltwch efo:
Beresford Adams Bangor
282 Stryd Fawr
Bangor
LL57 1UL
bangor@beresfordadams.co.uk
01248 352126

line

08.07.15 Gwyl Y Felin : llwyddiant ysgubol

Dywedodd Cynghorydd Sian Gwenllian, Y Felinheli sy'n aelod o bwygllor Gwyl y Felin:

Roedd Gwyl y Felin 2015 yn lwyddiant ysgubol ac roeddem yn falch o groesawu dau seleb i'n plith: yr actor o Hollywood, Rhys Ifans a'r arwr pel-droed Ian Rush!

Roedd y Marci yn llawn dop ar gyfer y Noson Caws a Gwin: y nifer mwyaf i fynychu'r digwyddiadau yma. Cafwyd noson Bingo am y tro cyntaf oedd yn boblogaidd iawn fel ag oedd eitem arall newydd, y Gig gyda bandiau lleol Cymraeg.

Roedd y gemau a'r daith gerdded i'r teulu, y ffair cynnyrch lleol, y trip a'r ras 10 K race mor boblogaidd ag erioed ac felly hefyd y Noson Lawen a Diwrnod Carnifal ei hun ar y dydd Sadwrn.

Rwyf wedi bod yn aelod o Bwyllgor yr Wyl ers y ddwy flynedd ddiwethaf a gallaf dystio i waith di-flino y gwirfoddolwyr, llawer yn cymryd wythnos o wyliau i helpu'r Wyl.

Diolch i bawb am ddod a'n cymuned at ei gilydd mewn lle gwych ar lannau'r Fenai i ddathlu bywyd ein pentref unigryw."

line

08.07.15 Diwrnod Agored yng Ngweithdy Glyn

Cynhelir Diwrnod Agored wythnos nesaf ( Gorff 14) mewn sied yn Y Felinheli fel y cam cyntaf tuag at ffurfio Caban Y Felinheli, man cyfarfod i unrhyw un sydd a diddordeb mewn cymdeithasu mewn amgylchedd gwaith, gan ddefnyddio’r celfi yn y sied a datblygu sgiliau ymarferol.

Mae Glyn Lancaster Jones wedi bod yn gweithio fel adeiladwr cychod yn Y Felinheli ers 30 mlynedd ac wrthi iddo agosáu at ymddeol, mae wedi cychwyn prosiect i agor ei sied i eraill yn yr ardal fyddai efo diddordeb mewn dod at ei gilydd mewn grŵp i wneud pethau gan gymdeithasu ar yr un pryd.

"Wnes i fynd a fy syniad at ein cynghorydd sir lleol, Cynghorydd Sian Gwenllian ac fe wnaeth hi fy annog i symud ymlaen,” meddai Glyn.

“Mae hi yn fy helpu i drefnu Diwrnod Agored yn y sied sydd yn yr iard gychod yn Dinas, Y Felinheli. Mae croeso i unrhyw un alw heibio rhwng 10 a 4 ar Gorffennaf 14. Gallwn weld wedyn a oes digon o ddiddordeb i gychwyn Caban Y Felinheli yn y sied fel grŵp gwirfoddol.

"Dechreuodd y diddordeb yn y syniad ar ôl i mi glywed am fudiad o’r enw Men's Sheds sy’n gweithredu mewn nifer o lefydd ar draws Cymru. Gobeithio bydd digon o ddiddordeb er mwyn cychwyn sefydlu grŵp yn fy ngweithdy yn Y Felinheli.”

line

29.06.15 Cynllun Cerdded a Darganfod Menter Fachwen

MERCHER 22 GORFFENNAF 7.00yh
NOSON HANES Y FELINHELI / LANSIO MAP ‘Y FELINHELI’

Y NEUADD GOFFA, TU CEFN I’R FELIN SGWRSIO, STRYD BANGOR, Y FELINHELI.
NOSON O SGYRSIAU, ARDDANGOSFEYDD A FFILMIAU O’R DEUNYDD CASGLWYD YN YSTOD EIN YMCHWIL I HANES Y FELINHELI.

IAU 30 GORFFENNAF 10.00yb
Y FELINHELI: BODANDREG A TAN Y MAES – HANESION A YSBRYDION (5 MILLTIR)

CYCHWYN: Y FELIN SGWRSIO, STRYD BANGOR, Y FELINHELI
BRYNIOG / LLWYBRAU CYHOEDDUS. SGIDIAU CERDDED.

line

29.06.15 Ewch i wefan Gwyl Y Felin am wybodaeth am ddigwyddiadau'r wythnos.

Bydd ffyrdd ar gau ar adegau. Manylion ar y wefan. Bydd yr orymdaith yn cychwyn o'r HEN GEI LLECHI eleni am y tro cyntaf a bydd ffyrdd ar gau rhwng 12 ac 1 dydd SADWRN nesaf, Gorff 4. Pasiwch y neges ymlaen.

MWYNHEWCH yr WYL!

line

26.06.15 Trefniadau Cau Ffyrdd Wythnos Gwyl Y Felin

1. Bydd y ffordd a adwaenir fel Ffordd Glan y Môr, Y Felinheli o’i gyffordd gyda Pen Ceunant (ger Tafarn y Garddfôn) am bellter o oddeutu 320 metr hyd at fynediad maes parcio’r Clwb Hwylio ar gau i gerbydau modur gan gynnwys beiciau pedal rhwng 5.00 yr hwyr a 10.00 yr hwyr ar y 1af o Orffennaf, 2015. (Ar gyfer y Ras 10k).

2. Bydd y ffordd a adwaenir fel Ffordd Glan y Môr, Y Felinheli o’i gyffordd gyda Pen Ceunant (ger Tafarn y Garddfôn) am bellter o oddeutu 320 metr hyd at fynediad maes parcio’r Clwb Hwylio ar gau i gerbydau modur gan gynnwys beiciau pedal rhwng 10.00 y bore a 6.00 yr hwyr ar y 4ydd o Orffennaf, 2015. (Ar gyfer y Carnifal).

3. Bydd y ffordd a adwaenir fel Hen Cei Llechi, Y Felinheli o bwynt ger Tafarn yr Halfway hyd at rif 1 Hen Cei Llechi ar gau i gerbydau modur gan gynnwys beiciau pedal rhwng 12.00 hanner dydd hyd at 1.00 y prynhawn ar y 4ydd o Orffennaf, 2015.

4. Bydd y ffordd a adwaenir fel Stryd Bangor, Y Felinheli o bwynt ger Tafarn yr Halfway hyd at y gyffordd ger Pen Ceunant ar gau i gerbydau modur gan gynnwys beiciau pedal rhwng 12.30 y prynhawn hyd at 1.00 y prynhawn ar y 4ydd o Orffennaf, 2015. (Ar gyfer Gorymdaith Carnifal).

Y gosb am dorri'r cyfryw reoliad yw dirwy heb fod yn fwy nag UN MIL O BUNNOEDD (£1000.00) Sian Gwenllian 07775642202

line

19.06.15 Safle sipsiwn

Cais cynllunio i adeiladu safle sipsiwn yn Cae Fodol ger Y Faenol/Ty Golchi wedi cael ei WRTHOD gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Gellir gweld y drafodaeth yn llawn ar y we-ddarllediad. 1.13 munud mewn i'r drafodaeth.
Pwyllgor Cynllunio - Cyngor Gwynedd gweddarllediadau

line

18.06.15 GRŴP IAITH Y FELINHELI A GŴYL Y FELIN 2015

FLOG OSIAN

Rhai o drigolion y Felinheli sy’n gweithio ar y cyd ydi Grŵp Iaith y Felin.  Nod y grŵp ydi sicrhau fod y Gymraeg yn parhau i fod yn iaith fyw a pherthnasol yn y Felinheli.  Mae croeso i  unrhyw un sydd a diddordeb yn eu gwaith ddod i gyfarfodydd y grŵp.

Hefo cymorth hunaniaith: y fenter iaith sy’n gweithio ar draws Gwynedd cafwyd y syniad o ofyn i Osian Owen, sy’n aelod o’r Grŵp Iaith greu flog.  Blog personnol ar fideo ydi flog:  fideo+blog = flog.  Bwriad y flog ydi dangos i bawb sut mae’r Gymraeg yn rhan mor bwysig o fywyd pob dydd person ifanc yn y Felinheli a pha mor bwysig ydi  hi  fod y Gymraeg yn cadw ei lle fel prif iaith y pentref.

Yn y flog mae Osian yn dangos agweddau o’i fywyd dyddiol a sut bod pob agwedd o’r bywyd hwnnw’n cymryd lle yn hollol naturiol yn y Gymraeg.  Wrth fynd am dro o amgylch y pentref mae o’n holi rhai o drigolion eraill y Felinheli ynglŷn â’u hagwedd at y Gymraeg a pham fod y Gymraeg, am wahanol resymau  yn  bwysig iddyn nhw.

Mae Grŵp Iaith y Felinheli am i cymiant o bobl a phosib  weld y flog yn ystod wythnos Gŵyl y Felin.  Mwynhewch ei gwylio brynhawn Gwener y 26ain yn ystod lansiad yr Wyl yn y Felingylchu; brynhawn Llun y 29ain ar ôl 5.30 y.h.yn y babel fawr lar Lan y Môr cyn cychwyn y ffilm i blant; eto yn y babell fawr ar nos Fawrth y 30ain cyn i Gwis yr Ŵyl gychwyn am 9.00 y.h. ac am y tro olaf brynhawn Sadwrn y 4ydd yn ystod y carnifal.  Ar ôl yr Ŵyl cewch ei gweld ar www.Felin.org  ac mi fydd hi hefyd i’w gweld ar broffil Facebook y Felinheli. 

Mae Grŵp Iaith y Felin yn gofyn i bawb fydd wedi gwylio’r flog ystyreid tri pheth:

  • i feddwl be’ mae’r Gymraeg yn olygu iddyn nhw?
  • sut le fyddai’r Felinheli heb y Gyrmaeg?
  • be allan nhw wneud i sicrhau na fydd y Felinhlei byth yn colli’r Gymraeg?
Diolch i bawb gymerodd ran yn y flog:

Osian Owen, Dylan Bryn, Nerys Owen,  Sian Gwenllian, Beverley Jones, Hannah Swann.                                                   

Diolch hefyd i Bwyllgor Gŵyl y Felin, Siop Londis a Chaffi’r Swellies.
Tim cynhyrchu: Sioned Jones, hunaniaith, Eleth Peate, Cyngor Gwynedd.


line

Newyddion da : Cyngor Gwynedd wedi sicrhau grant i wella'r llwybr i Rowen i gynnwys wyneb newydd, grisiau a chanllaw.
Newyddion drwg: pryderon am ddioglewch y cyhoeddyn golygu nad oes modd ail-agor Stepiau Cei. Asesiad pellach mewn pythefnos.

line

Diweddariad Cais Cynllunio Cae Fodol

Cais cynllunio Cae Fodol (safle Sipsiwn) ger bron Pwyllgor Cynllunio 15.06.2015 "Fel cynghorydd Y Felinheli, rwyf wedi cael cyfle i gasglu barn pentrefwyr am y cais yma, gan gynnwys cyfarfod cyhoeddus efo'r cyngor cymuned. Rydym 100% y erbyn y datblygiad. Nodaf fod swyddogion cynllunio yn argymell gwrthod ac rwyf yn cytuno a'r rhesymau. Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr i adeiladu parc carafannau mewn parth llifogydd na mewn ardal bywyd gwyllt pwysig ac mae'n or-ddatblygiad o'r safle, yn brin o gyfleusterau."

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian MEHEFIN 2015

  • TORIADAU: mae Cyngor Gwynedd, fel bob cyngor yn gorfod torri ar wariant. Rwyf yn mynychu cyfres o 5 o weithdai i drafod y posibiliadau cyn fod y cyhoedd yn cael rhoi eu barn ar ba wasanaethau  fydd yn cael eu torri. Bydd angen i’r Cyngor gytuno ar werth £9M o doriadau erbyn Mawrth 2016.
  • Neuadd yr Eglwys : bum mewn cyfarfod adeiladol i drafod gwella’r Neuadd a gwneud defnydd o’r tir tu cefn ar gyfer llefydd parcio i’r pentref.
  • Llwybr Stepiau Cei : mae’r Cyngor wedi ei ail-agor ond wedi diogelu gwaelod y stepiau lle mae pryder o hyd am ddiogelwch y cyhoedd.
  • Cais Cynllunio Cae Fodol : yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Cynllunio 15.06.2016

Darllenwch gweddill yr adroddiad

Ffair Haf
Codi arian i Nepal
Y Felin Gylchu
Sadwrn Mehefin 13
11am - 4pm.
Te pnawn a stondinau amrywiol

line

National Grid - Newyddion i’r Gymuned

Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru Gwanwyn 2015 - cliciwch yma

line

Bingo Teulu

Cliciwch y llun am fwy o wybodaeth

line

Crysau-T Gŵyl y Felin gan Hunaniaith

Yn ystod wythnos Gŵyl y Felin eleni mi fydd hunaniaith yn rhannu crysau T allan i bobl ifanc y pentref. Gwaith hunaniaith ydi annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg ac i fod yn falch ohoni. Pwrpas y crysau T unigryw yma, na fydd ar gael yn unlle arall fydd gwneud pobl ifanc y Felin yn ymwybodol peth mor arbennig ydi gallu siarad Cymraeg a bod byw yn y Felinheli yn rhan o’r Cymreictod yna. Yda chi’n un da hefo geiriau, cysyniadau a rhoi’r ddau hefo'i gilydd? Mae angen slogan neu ymadrodd bachog, byr a slic i fynd ar flaen y crysau T. Os medrwch feddwl am slogan clyfar cysylltwch hefo Ifan yn swyddfa hunaniaith ar IfanLlewelynJones@gwynedd.gov.uk.

lineDiwrnod Gwau Cyhoeddus
Felin Sgwrsio
Mehefin 13
1 tan 4.30.
Mwy o wybodaeth gan Myfanwy 07767210825

line

Grwp Iaith Y Felinheli - Newyddion Diweddaraf

Cyfarfod nos Fercher, 13/05/2015, Y Felin Sgwrsio - cliciwch yma

line

TAITH GERDDED a SWPER
Iau 21 Mai
6.30 pm
Felin Sgwrsio
(milltir a hanner)
Enwau i Myfanwy 07767 210825

line

ADRODDIAD CYNGHORYDD SIAN GWENLLIAN                    
Mai 2015

Ffordd Tafarngrisiau: Rwyf mewn cysylltiad rheolaidd efo swyddogion Cyngor Gwynedd ynglŷn a phroblem cyflwr y ffordd yma sy’n gwaethygu yn sydyn. Mae peth gwaith wedi ei wneud ond deallaf fod y ffordd yn cael blaenoriaeth ar gyfer gwaith ail-wynebu sylweddol.

Llwybrau o amgylch y Cei: Bu cyfarfodydd yn ddiweddar rhwng swyddogion Cyngor Gwynedd a pherchennog yr harbwr i drafod y giatiau diogelwch a’r pontŵn newydd yn  Hen Gei Llechi. Cytunwyd fod angen cyflwyno cais adeilad rhestredig ar gyfer y giatiau newydd gan gynnwys y giatiau uwchben yr ystolion ar wal y doc a hefyd ar gyfer y pontŵn. Bydd rhaid cyflwyno adroddiad strwythurol gyda’r cais ynglŷn a chyflwr a chryfder y wal sydd yn cael ei ddefnyddio gyda’r pontŵn. Unwaith fo’r ceisiadau wedi eu cyflwyno, fe fydd cyfnod ymgynghori pan fydd aelodau’r cyhoedd a’r Cyngor Cymuned yn gallu ymateb....Mwy

line

Dros £1,200 i Nepal

Codwyd dros £1,200 ar gyfer Apel Nepal mewn dau ddigwyddiad yn Y Felinheli yn ddiweddar. Ym Mhlas menai bu Simon Hall yn sgwrsio am ei brofiadau yn dringo Everest gan godi £714 i Apel Daeargryn Nepal y British Red Cross. Casglwyd dros £500 ar Ddiwrnod Etholiad yn Felin Sgwrsio drwy werthu cacennau, raffl a diodydd. Diolch i Roberts of Port Dinorwic am eu help. Da iawn pawb.

line

Cais i godi 14 ty ar Gae Rowen

Mae cais cynllunio amlinellol wedi ei gyflwyno i godi 14 ty newydd, creu mynedfa gerbydol newydd a ffordd stad, creu rhandiroedd gyda mynedfa a pharcio cysylltiol ar dir yn Cae Rowen o dan y Ganolfan Feddygol. Mae’r Cymgor Cymuned wedi datgan gwrthwynebiad gan fod y tir tu allan i ffin datblygu’r pentref. Bydd y cais yn cael ei drafod gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd. Rhif y cais yw C15/0416/20/AM

line

Lladrad yn Y Felinheli

Rhyw dro rhwng 9.20pm ar 24 Ebrill a 5.30am ar 25 Ebrill cafodd garej ei thorri mewn iddi yn ardal Y Felinheli. Cafodd peiriant chwistrellu dŵr Karcher melyn ei ddwyn a chredir ei fod werth tua £240. O oes gennych unrhyw wybodaeth ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddyfynnu cyfeirnod RC15058606.

line

Noson codi arian i Nepal

Mynydd Everest
Siwrne yn yr Himalay gan Simon Hall
Er budd Apel Daeargryn Nepal

Yn 2007, bu Simon yn arwain criw o wyth o ddringwyr i gopa Mynydd Everest.
Bydd y rhai sy'n gyfarwydd a'r Himalaya yn gwerthfawrogi fod cymorth y Sherpas a phobol Nepal yn hanfodol i lwyddiant y mwyafrif o'r teithiau hyn. Mae'r gymuned hon wedi dioddef daeargryn trychinebus gyda chanlyniadau dynol echrydus. Mae Simon yn gobeithio codi arain i Apel Daeargryn y Groes Goch drwy rannu ei brofiad ar Fynydd Everest.

Does dim angen ticed i'r digwyddiad yma ac mae croeso i bawb
Cyfraniadau i Apel Daeargryn y Groes Goch yn Nepal

Gwener 8 Mai 2015 am 7pm
Plas Menai
ger Y FELINHELI

Mwy o wybodaeth

Gwaith taclus gan wirfoddolwyr Y Felinheli

llun: Cyngor Gwynedd

Yn ddiweddar daeth nifer o breswylwyr Y Felinheli at ei gilydd i wella edrychiad ac amgylchedd y gymuned trwy gasglu sbwriel o gwmpas y pentref.

Cafodd y criw o wirfoddolwyr, a oedd yn cynnwys plant ac oedolion, fenthyg offer gan adran Trefi Taclus Cyngor Gwynedd, a mynd ati un noswaith i daclo llecynnau blêr y pentref.

Meddai’r Cynghorydd Sian Gwenllian sy’n cynrychioli’r Felinheli ar Gyngor Gwynedd: "Diolch i'r 15 o bobl leol ddaeth allan i hel sbwriel yn y pentref. Casglwyd llond tua ugain bag o sbwriel gan ganolbwyntio ar y llefydd gwaethaf yn y pentref. Mae pob man bellach yn lân a thaclus ac mae'r pentref yn edrych yn fendigedig wrth i'r haul dywynnu."

Erthygl Llawn

line

Ebrill 2015 - Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian

Casglu Sbwriel o amgylch y pentref: NOS IAU 23.04.15 6 tan 8, yn cychwyn o’r YSGOL. Croeso i bawb! Bydd teclynnau codi sbwriel a bibiau ar gael.

Cae Fodol: disgwylir i’r cais cynllunio am safle sipsiwn fynd ger bron y Pwyllgor Cynllunio diwedd mis Mai. Deallaf y bydd swyddogion yn argymell GWRTHOD y cais...

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn

line

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, Adran 116 - Hysbysiad o Gyfethol

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma

line

Llwybr i Rowen wedi cau

Mae perchennog y llwybr lawr at draeth Rowen wedi anfon neges yn dweud fod y llwybr AR GAU oherwydd ei gyflwr.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wneud cais am grant i wella'r llwybr fel bod modd ei gofrestru yn swyddogol fel llwybr cyhoeddus fydd ar agor yn barhaol ar gyfer y cyhoedd.

line

Cliciwch y llun am fwy o wybodaeth

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Ebrill 2015


Mwy na 700 o bobl yn ymweld ag arddangosfa gyhoeddus Ffordd Osgoi Caernarfon i’r Bontnewydd

 Daeth mwy na 700 o bobl i dair arddangosfa gyhoeddus a drefnwyd i gyflwyno gwybodaeth am Ffordd Osgoi Caernarfon i’r Bontnewydd, ar yr A487.

 Hefyd, mae bron i 2,000 o bobl wedi ymweld â gwefan y prosiect. Yno ceir llawer iawn o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig â’r cynllun, ynghyd â delweddau 3D yn dangos llwybr arfaethedig y ffordd newydd.

 Roedd cyfle i’r cyhoedd siarad â swyddogion y cynllun yn yr arddangosfeydd, a gynhaliwyd dros dri diwrnod dilynol yng Nghaernarfon, Y Bontnewydd a Chaeathro.

 Meddai Bryn Williams, Swyddog Cyswllt â’r Cyhoedd Ffordd Osgoi yr A487 Caernarfon i’r Bontnewydd: “Rydym yn hapus dros ben fod cymaint o bobl wedi galw heibio. Roedd yn braf cael cwrdd â thrigolion lleol i drafod y prosiect.

 “Rydym wedi dechrau casglu ynghyd y sylwadau a’r safbwyntiau a fynegwyd dros y tri diwrnod a bwriadwn drefnu arddangosfa arall ym Mehefin.

 “Gall pawb na lwyddodd i ddod i’r arddangosfeydd weld manylion y prosiect ar y wefan www.cbbypass.co.uk.”

line

Helpwch Atal Ymddygiad Gwrthgymdeithasol ger Ysgolion dros Wyliau’r Pasg

Wrth i wyliau Pasg yr ysgolion agosáu, hoffai'r Heddlu ofyn i rieni ac ysgolion eu helpu i leihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ar dir ysgolion.  Mae gan ysgolion gyllidebau cyfyngedig ac maent yn gorfod talu i lanhau graffiti ac atgyweirio fandaliaeth; arian fyddai'n gallu cael ei wario ar addysg.  Gofynnir i rieni wneud yn siŵr eu bod yn gwybod ble mae eu plant ac i ddweud wrthynt am beidio â mynd ar dir yr ysgol yn ystod gwyliau’r Pasg.

Gofynnir i unrhyw un sy’n gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus ar dir ysgolion i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru.  Os ydych yn gweld trosedd yn digwydd ffoniwch 999 bob tro.  Ar gyfer digwyddiadau difrys dylech ffonio 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Hoffai’r Heddlu ddymuno Pasg hapus a diogel i chi i gyd.

line

DIFFYG AR YR HAUL OND GOLEUNI AR Y GYMRAEG YN Y FELINHELI!

Fore’r diffyg mawr a gafwyd ar yr haul yn wythnosau olaf mis Mawrth eleni roedd criw o bobl fusnes yn y Felinheli a’u bryd ar faterion eraill.

Gyda chefnogaeth hunaniaith, trefnwyd Brecwast Busnes  yn enw Grŵp Iaith y Felinheli a Fforwm Fusnes y Felinheli yng nghaffi’r’ Swellies ar lannau’r doc yn y pentref.   Pwrpas y digwyddiad oedd dangos i berchenogion busnes y Felinheli cymaint o fantais  oedd i’w gael o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eu busnesau.  Targedwyd y digwyddiad at bobl fusnes a fedrai’r Gymraeg a’r rhai di-Gymraeg fel ei gilydd.  mwy...

line

Gwasanaeth newydd gan Adran Cynllunio Gwynedd

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

lineGweithgareddau Llun y Pasg

 

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth




 

line

Tair arddangosfa gyhoeddus i egluro cynllun Ffordd Osgoi Caernarfon i'r Bontnewydd

Bydd cyfle i drigolion Gwynedd gwrdd â’r tîm tu cefn i brosiect Ffordd Osgoi Caernarfon i’r Bontnewydd mewn tair arddangosfa gyhoeddus y mis hwn.

Gwahoddir y cyhoedd i ganfod mwy am y datblygiad yng Nghaernarfon, Y Bontnewydd a Chaeathro dros y cyfnod Mawrth 17-19.

Bydd yr arddangosfeydd yn gyfle i siarad â thîm y prosiect a derbyn rhagor o fanylion am y cynllun.

Y cyfle cyntaf i weld yr arddangosfa yw Dydd Mawrth 17 Mawrth, rhwng 10am ac 8pm, yng Ngwesty’r Celt, Ffordd Bangor, Caernarfon.

Ddydd Mercher 18 Mawrth, rhwng 10am ac 8pm, fe’i gwelir yn Hen Ysgol Y Bontnewydd.

A Dydd Iau 19 Mawrth bydd yng Nghanolfan y Capel, Caeathro, rhwng 10am a 5pm.

Os na fedrwch ddod i un o’r mannau hyn mae rhagor o fanylion am y prosiect i’w gweld ar wefan ddwyieithog newydd sbon www.cbbypass.co.uk.

Yno hefyd dywedir sut i gysylltu â thîm y prosiect a bydd y wefan yn cael ei newid yn rheolaidd i gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun.

line

10.03.15 YMDDIRIEDOLAETH DAI: GWELEDIGAETH I’R GYMRAEG GAN BOBL FELINHELI

Daeth bron i ddeugain o bobl ynghyd ar nos Fawrth, Mawrth 3ydd mewn cyfarfod yn yr ysgol gynradd. Pwrpas y noson oedd cyfnewid syniadau a thrafod posibiliadau ynglŷn â chynyddu dylanwad y gymuned dros gyflenwad tai'r pentref. Derbyniodd y criw ddaeth yno'r dasg o greu cynllun gweithredu; un a fyddai’n cyfeirio egni a gweledigaeth pobl y Felin i ddiogelu cyflenwad tai fyddai’n adlewyrchu anghenion pobl leol yn ogystal â sicrhau ffyniant y Gymraeg - cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Diolch bawb am ymweld a'r wefan hon.

Hynod boblogaidd o hyd!
Chwef 2015 = 68,503 hits
Ionawr 2015 = 70,373 hits
Rhag 2014 = 53,932 hits

line

Dweud eich dweud ar y Cynllun Datblygu Lleol

Y Felinheli

  • Nid oes ymestyn i ffin y pentref ac mae’r tir rhwng Tyddyn Perthi a’r Wern wedi ei dynnu allan o’r ffin.
  • Categori : Pentref Arfordirol/Gwledig
  • Lefel Twf : 19 o aneddleoedd
  • Unedau wedi eu cwblhau (2011-14): 51
  • Banc Tir presennol : 69
  • Nifer ychwanegol sydd eu hangen: 0

Mae’r Cynllun Datblygu Lleol yn gosod allan ble bydd tai a busnesau newydd yn cael eu lleoli rhwng nawr a 2026, ymysg pethau eraill, felly mae’n bwysig fod pawb sy’n byw yng Ngwynedd a Môn yn cael cyfle i leisio barn.

Fel bod pawb yn y ddwy sir yn cael y cyfle i ddweud eu dweud, bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y drafft diweddaraf o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn yn dechrau wythnos nesaf. Gall pobl leol gymryd rhan drwy ymweld â gwefan y Cyngor, llyfrgelloedd y sir neu swyddfeydd y Cyngor.

Yn ôl cyfraith gwlad, mae disgwyl i bob Cyngor yng Nghymru baratoi cynllun ac mae cynghorau Gwynedd a Môn wedi penderfynu cydweithio ar Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (CDLlC).

Unwaith bydd y cynllun yn cael ei fabwysiadu, dyma fydd y sail ar gyfer penderfyniadau ar geisiadau cynllunio gan y ddau awdurdod yn y dyfodol. Bydd y cynllun yn gosod fframwaith polisi cynllunio ar gyfer defnydd tir hyd at 2026 yn unol a’r dystiolaeth gyflwynwyd gan sawl ffynhonnell, yn cynnwys cymunedau lleol. Mae’n cynnwys ardaloedd awdurdodau cynllunio Gwynedd a Môn (ond nid ardal Parc Cenedlaethol Eryri).

Gelwir y cymal yma o’r CDLlC yn Gynllun Adnau, a bydd yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus fel bod cynghorau Gwynedd a Môn yn fodlon bydd y cynllun terfynol yn ateb anghenion cymunedau lleol cyn ei gyflwyno i’w archwilio’n gyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet y Cyngor dros gynllunio: “Mae gan y Cynllun hwn rôl bwysig i’w chwarae mewn cefnogi a datblygu cymunedau cynaliadwy yma yng Ngwynedd yn ystod y cyfnod penodedig.

“Datblygwyd y Cynllun ar sail tystiolaeth gadarn felly mae’n hynod bwysig fod pobl leol yn cymryd mantais o’r cyfnod ymgynghori i rannu eu barn ar y cynllun hyd yma.

“Unwaith bydd y cynllun wedi ei fabwysiadu, bydd yn cael ei fonitro yn flynyddol ac yn cael ei adolygu pob pedair blynedd. Bydd hyn yn sicrhau fod y cynllun yn gyfredol a’i fod ddigon hyblyg i ymateb i newidiadau, fel ei fod yn ateb anghenion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol Gwynedd.”

Ychwanegodd deilydd portffolio Pwyllgor Gwaith Môn, y Cynghorydd Arwel Roberts, “Bydd y CDLlC newydd yn rhoi fframwaith fydd yn ganllaw i gynllunwyr wrth iddynt ddelio a nifer o faterion lleol, er enghraifft er mwyn sicrhau cymysgedd dda o gartrefi ar draws Gwynedd a Môn ac fod tai yn cyfateb â datblygiadau a strategaethau economaidd lleol. O safbwynt Môn, bydd hefyd yn darparu fframwaith gadarn ar gyfer gwireddu ein rhaglen Ynys Ynni a sicrhau bod y Sir yn elwa o ddatblygiadau ddaw yn sgil datblygiad gorsaf bŵer y Wylfa Newydd.

Bydd Ymgynghoriad y Cynllun Adnau yn rhedeg o ddydd Llun, 16 Chwefror hyd nes 5pm ddydd Mawrth, 31 Mawrth 2015. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael eu hasesu a bydd adroddiad yn amlinellu sut bydd y Cyngor yn ymateb i’r materion a godwyd yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’r Archwiliad Cyhoeddus. Yn dilyn hyn, mae bwriad mabwysiadu’r CDLlC yn Rhagfyr 2016.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus, dylai pobl ymweld â gwefan y Cyngor, ble ceir ffurflen sylwadau, porth sylwadau a chanllawiau ymgynghoriad.  

Am fwy o wybodaeth, ac i brynu copïau papur o’r dogfennau ymgynghorol, cysylltwch â Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd Gwynedd a Môn:

  • Cyfeiriad – Llawr Cyntaf, Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor LL57 1DT
  • Ffôn - 01286 685003 or 01766 771000
  • e-bost – polisicynllunio@gwynedd.gov.uk

Peidiwch a cholli allan ar gyfle i arbed arian gyda Cyd Cymru

Mae gan drigolion Gwynedd lai nag wythnos ar ôl i gofrestru diddordeb ar gyfer cynllun Cyd Cymru gyda’r dyddiad cau ar ddydd Llun, 2 Mawrth 2015.

Drwy dynnu aelwydydd at ei gilydd, mae Cyd Cymru - sy’n cael ei gefnogi gan Gyngor Gwynedd - yn gallu bargeinio ar ran pawb sy’n cofrestru, a chael pris gwell am ynni i’r cartref.

Hyd yn hyn mae dros 1800 o gartrefi yng Ngwynedd eisoes wedi datgan diddordeb drwy ymweld â gwefan Cyd Cymru: www.cydcymru-ynni.com neu ffonio 0800 093 5902.

Bydd Cyd Cymru wedyn yn cysylltu gyda rheini sydd wedi cofrestru ym mis Mawrth gyda chynnig pendant. Os ydych yn penderfynu derbyn y cynnig – ac yn newid eich cyflenwr trydan a/neu nwy – bydd cymorth rhwydd a chyflym ar gael ar sut i wneud hyn. Ond os ydych yn penderfynu peidio bwrw ymlaen, ni fydd unrhyw orfodaeth arnoch i dderbyn y cynnig.

Dywedodd y Cynghorydd Peredur Jenkins, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Adnoddau:
“Mae llawer i’w ddweud dros yr hen ddywediad, mewn undod mae nerth. Braf felly yw gweld cynllun synnwyr cyffredin sy’n cryfhau ein gallu fel cwsmeriaid yng Nghymru i sicrhau’r pris gorau bosib gan y cwmnïau mawrion a sicrhau arbediad sylweddol i bobl Gwynedd.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Eirwyn Williams, aelod lleol Criccieth ar y Cyngor sydd wedi bod yn gefnogwr brwd o’r cynllun:

“Diolch i gynllun Cyd Cymru, arbedodd y bobl hynny oedd eisoes wedi ymuno â’r cynllun oddeutu £185 ar gyfartaledd ar ei biliau trydan a nwy yn 2014. Yn yr oes sydd ohoni lle mae sawl un yn poeni cyn rhoi’r gwres ymlaen, mae pob ceiniog yn cyfrif, a byddai arbediad o’r fath yma yn siwr o fod yn help garw i deuluoedd yma yng Ngwynedd.”

Mae ymgyrch Cyd Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gefnogi gan gynghorau drwy’r wlad. Am fwy o fanylion neu i gofrestru eich diddordeb, ewch i wefan Cyd Cymru: www.cydcymru-ynni.com neu ffoniwch 0800 093 5902.

line

Burglary Ifor's Meats

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn holi am gymorth y cyhoedd ar ol digwyddiad o byrgleriaeth o Cig Ifor, Glan y Mor, Port Dinorwig. Digwyddodd y achlysur yma rhwng dydd Mercher y 11 o Chwefror ac dydd Iau 12 fed o Chwefror 2015.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth ynglyn ar achlysur cysylltwch a Heddlu Gogledd Cymru ar 101 a dyfynnu cyfeiriad RC15023727.

line

Tai ac Iaith

TRIGOLION Y FELINHELI A’U BRYD AR DDYLANWADU AR Y CYFLENWAD TAI YN EU CYMUNED.

Mae Cyngor Cymuned y Felinheli yn gweithio yn agos gyda grŵp iaith lleol i adnabod camau ymarferol  gall y gymuned gyfan eu cymryd i sicrhau fod y cyflenwad tai sydd ar gael yn y pentref yn adlewyrchu anghenion pobl a fagwyd yn y Felinheli; sy’n gweithio yn lleol ac sy’n dymuno magu eu teuluoedd ei hunain yn y gymuned.

Fel cam ymarferol mae Grŵp Iaith y Felinheli, mewn cydweithrediad a Chyngor Cymuned y Felinheli yn trefnu cyfarfod agored i adnabod prosiectau a fydd yn cynyddu dylanwad lleol dros y cyflenwad fydd ar gael yn y Felinheli yn y dyfodol.  Cynhelir  y cyfarfod, a fydd ar agor i bawb o’r Felinheli, am 7.00 y.h. ar nos Fawrth, Mawrth 3ydd yn ysgol Gynradd y Felinheli.  Mi fydd yno gyfieithu ar y pryd ar gael.

Un syniad sydd eisoes wedi ei grybwyll ydi sefydlu ymddiriedolaeth tai lleol.  Byddai ymddiriedolaethau o’r fath yn codi arian yn lleol i brynu a gwella tai yn y pentref.  Byddai’r tai wedyn yn cael eu gosod i bobl sydd â chysylltiadau â’r pentref, sy’n dymuno aros yn yr ardal ond sy’n methu sicrhau cartref yn y pentref ar y farchnad agored.

tai ac iaith

Yn ôl y Cyng. Sian Gwenllian, aelod gweithgar o Grŵp Iaith y Felinheli “mae tai sy’n fforddiadwy ac addas ac sydd hefyd yn adlewyrchu anghenion pobl a’r economi leol yn allweddol i bentref tebyg i’r Felinheli”.  Aeth ymlaen i esbonio “mae cael dylanwad ar  y cyflenwad o dai yn y pentref fel ei fod yn adlewyrchu anghenion rheiny sy’n gweithio yn yr ardal yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno aros yn agos i’w gwreiddiau yn allweddol i roi seiliau cadarn i gymuned gynaliadwy”.

Fe fydd siaradwyr gwadd yn y cyfarfod yn esbonio sut aeth cymunedau erial yng Ngwynedd a thu hwnt ati i weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai a pherchnogion tir i sicrhau fod anghenion lleol yn dylanwadu'r cyflenwad tai yn hytrach na grym y farchnad agored.

line

Perchennog modurdy yn helpu’r Cylch Meithrin

Mae gwr busnes lleol yn cefnogi Apêl ariannol Cylch Meithrin Y Felinheli sy’n wynebu’r dasg anferth o godi £10,000 erbyn mis Gorffennaf.

Mae Kevin Wyn Jones o Central Garage yng nghanol y pentref yn cynnig rhoi £5 i’r Cylch o bob MOT car mae’n ei wneud hyd Mai 31.

"Roeddwn wedi darllen am y problemau ariannol sy’n wynebu’r Cylch ac fe gysylltais a’r Cynghorydd Sian Gwenllian,” meddai Kevin sy’n rhedeg y modurdy ers 30 mlynedd.

"O Ddydd Gŵyl Dewi ymlaen, byddaf yn cyfrannu £5 o bob MOT i’r Cylch. Bydd cwsmeriaid yn talu £35 am y gwasanaeth MOT gyda £5 o hwn yn mynd tuag at Apêl y Cylch.

“Rwyf wedi bod yn rhedeg fy musnes yn pentref ers 30 mlynedd bellach ac wedi cael cefnogaeth wych gan y pentrefwyr. Yn fan hyn y cychwynnais mewn busnes a dyma lle ydw i hyd heddiw! Roeddwn yn teimlo fod hyn yn un ffordd o roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.  

“Mi fyddai yn bechod mawr gweld y Cylch yn gorfod cau yn sgil problemau ariannol tymor byr a gobeithio y bydd fy arwydd o gefnogaeth yn eu helpu wrth iddyn nhw symud tuag at eu targed o £10,000.”

Meddai Cadeirydd Cylch Meithrin Y Felinheli, Ceri Ann Owen: “

Rydym yn ddiolchgar iawn i Kevin a Central Garage am eu cynnig caredig. Mae cael cefnogaeth busnes lleol yn hwb mawr i ni, yn dangos fod y Cylch yn cael ei werthfawrogi.

“Rydym wedi cynnal rhai digwyddiadau llwyddiannus yn barod gyda’r Parti Sant Ffolant yn codi £1,300 (wedi ei ddwblu gydag arian cyfatebol gan HSBC) ac fe werthwyd yr holl dicedi ar gyfer y Noson Gyri.

"Mae’r pentref cyfan yn ein cefnogi ac rwy’n optimistaidd y byddwn yn cyrraedd ein targed, er fod ffordd bell i fynd o hyd. Rydym wedi sefydlu cronfa ar-lein ble gall unigolion gyfrannu.”

Donate Via Paypal

Darllen yr erthygl lawn

line

Bingo Felinheli 26/02/15 Cwis Gŵyl Ddewi 27/02/15
poster bingo poster

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian

Cliciwch yma i ddarllen adroddiad Chwefror 2015

line

Brecwast Busnes

 

line

Ffilm Fer Am Bobl Ifanc Gan Bobl Ifanc Yn Y Felin

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

line

Digwyddiadau Microsglodynnu Cwn AM DDIM

 

Er gwybodaeth, gweler ynghlwm daflen am ddigwyddiadau microsglodynnu cwn AM DDIM. Manteisiwch ar y cyfleoedd hyn i gael microsglodynnu eich ci.

Digwyddiadau Microsglodynnu Cwn AM DDIM 2015 - cliciwch yma

 

 

 

line

Eisiau talu llai am ynni?

Cyd Cymru - Collective Energy Buying

Cyd Cymru Mae'r cyfnod cofrestru nawr ar agor ar gyfer y cam cydfargeinio ynni nesaf!

 

 

 

line

Recordio Talwrn y Beirdd 10.03.15

Fe fydd rhaglen radio Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos Fawrth 10/3/15 Capel Bethania. Trefnir gan Gymdeithas Heli'r Heulyn.


 

Bingo Felinheli

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

line

Dathlu Dwynwen, santes y cariadon

Fe fydd Y Felinheli yn dathlu Santes Dwynwen, santes cariadon Cymru, gyda noson arbennig yng Ngwesty'r Victoria.

Nos Wener, Ionawr 23, fe fydd yr awdur lleol a'r arbenigwr cyfryngau Phil Stead yn cynnal noson Cwis yn cael ei ddilyn gan lobs cows hyfryd y Fic.

"Pob blwyddyn, mae'r pentref yn dathlu Santes Dwynwen mewn rhyw ffordd ac eleni, dewisiwyd cynnal noson yn y Fic," meddai un o'r trefnwyr Cynghorydd Y Felinheli, Sian Gwenllian.

"Rydym wedi disgyn mewn cariad (!) gyda stori Dwynwen ac eleni eto, rwy'n gobeithio bydd pentrefwyr yn cefnogi ein digwyddiad. Trefnir y noson gan The Plaid Cymru Y Felinheli. Mae ticedi yn costio ickets £5 ac fe fydd y noson yn cychwyn am 7 p.m."

Pwy yw Dwynwen? Mae gwybodaeth yma

line

Bore Coffi i godi arian i Ymchwil Canser Cymru, Felin Sgwrsio, Sadwrn, Ionawr 17 11.30 tan 1.30. Croeso i bawb.

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Ionawr 2015

Blwyddyn Newydd Dda!

1) Rwyf wrth fy modd y bydd yr Afon Fenai eiconaidd yn cael ei diogelu rhag peilonau yn ardal Y Felinheli. Roedd pawb yn unfrydol eu gwrthwynebiad a diolch i chi am fy nghefnogi i a’r ymgyrch Dim Peilonau.
Fodd bynnag, rhaid ni wneud yn siŵr na fydd peilonau yn unman arall chwaith. Tra bo’r Grid wedi dweud y byddai’r gwifrau ‘o dan neu ar wely’r’ Afon Fenai, dydyn nhw ddim yn manylu be fydd yn digwydd ar y tir mawr yn ardal Bangor wrth i’r trydan gael ei drosglwyddo o lannau’r Fenai i’r is-orsaf ym Mhentir. Dyna pam mae rhaid i ni barhau i ymgyrchu am opsiwn o dan y môr o Ogledd Môn i Lannau Dyfrdwy. Byddai hynny yn sicrhau fod yr ardal gyfan yn rhydd o beilonau. Ond newyddion da i ni yn lleol!

Mwy...

line

Lladrata Beiciau - Trem Y Foel

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn lladrad o sied yn ardal Trem y Foel. Felinheli yn ddiweddar.

Digwyddodd hyn rhwng dydd Gwener 17:30 (09/01/15) ac fore dydd sadwrn 09:30 (10/01/15). Dau feic CLAUDE BUTLER wedi cael ei ddwyn o sied. Os welsoch chi unrhyw beth amheus neu os oes gennych unrhyw wybodaeth perthnasol i’r digwyddiad hwn, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru drwy ffonio 101 a dyfynnu cyfeirnod RC15004538 . Gellir hefyd ffonio Crimestoppers Cymru yn ddienw ar 0800 555 111. Hoffai Heddlu Gogledd Cymru annog trigolion i riportio unrhyw beth amheus cyn gynted â phosib.

line

DIM PEILONAU AR DRAWS Y FENAI

Erthygl Newyddion Daily Post

Neges gan Cynghorydd Sian Gwenllian: Rwyf newydd dderbyn llythyr gan y Grid Cenedlaethol. Mae nhw yn bwriadu codi llinell drydan uwchben y ddaear ( peilonau) o Sir Fôn i Pentir. OND bydd rhan ohono ‘ar wely Afon Menai neu oddi tano.’ Does gen i ddim manylion am lle yn union y bydd y cysylltiad tan-fôr ac rwyf yn disgwyl cael mwy o fanylion gan y Grid.
Mae hyn yn newyddion gwych i’r Felinheli a’r ardal cyfagos ac yn golygu DIM PEILONAU ar draws Y Fenai, sef dymuniad pawb yn lleol. Serch hyn, fel aelod o’r Ymgyrch Dim Peilonau sy’n cael ei gadeirio gan Hywel Williams AS, rwyf yn hynod siomedig fod y Grid i weld yn anwybyddu’n llwyr yr opsiwn o gysylltiad tan y môr o Ogledd Môn i Lannau Dyfrdwy.

Dyma'r llythyr:

"Annwyl Danysgrifiwr,

Gan eich bod yn ddefnyddiwr cofrestredig, roeddem am roi gwybod i chi am y gwaith y mae angen i ni ei wneud yng Ngogledd Cymru.

Ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl ymateb a gawsom yn ystod cam cyntaf yr ymgynghoriad a chynnal adolygiad manwl o’r holl wahanol ddewisiadau ar gyfer y cysylltiad, rydym yn cynnig y dylid cael llinell uwch ben newydd i gysylltu atomfa Horizon, Wylfa Newydd, ar Ynys Môn â’n rhwydwaith ni. Rydym hefyd yn cynnig y dylid rhoi’r ceblau ar wely Afon Menai neu oddi tano a’u rhoi o dan y ddaear yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Ynys Môn.

Rydym yn cynnig y dylid gwneud y cysylltiad yn y coridor llwybr Oren a bennwyd gennym. Mae hwn yn dilyn, yn fras, y llinell bresennol ar yr ynys sy’n cysylltu’r Wylfa â’n his-orsaf bresennol ym Mhentir, Gwynedd. Rydym wrthi yn awr yn gwneud rhagor o waith i bennu lle gallai’r cysylltiad fynd, ac yn ystyried yn ofalus yr effeithiau ar gymunedau a’r amgylchedd a sut orau i’w lleihau.

Mae rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau a’r dewisiadau yr ydym wedi’u hystyried i’w gweld ar wefan y prosiect, yn www.nationalgrid.co.uk/northwalesconnection

Fel arall, gallwch gysylltu â’n Tîm Cysylltiadau Cymunedol trwy ateb y neges ebost hon neu ar 0800 990 3567 (9am-5pm, Llun – Gwener) a byddant yn barod iawn i ateb eich cwestiynau.

Cofion gorau,

Tîm Cysylltiadau Cymunedol Gogledd Cymru"

line

Dŵr Cymru’n treialu pympiau newydd yng Ngorsaf Pwmpio Carthion y Felinheli.

dwr cymru

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn treialu system bwmpio newydd yng Ngorsaf Pwmpio Carthion y Felinheli.

Mae i’r dechnoleg bwmpio newydd ddyluniad unigryw ac mae eisoes wedi dangos ei bod yn help mawr i leihau nifer yr achosion o bibellau’n blocio. Caiff y pympiau parhaol ac offer arall eu gosod yn fuan a bydd y cwmni’n buddsoddi dros £60,000 yn y gwaith uwchraddio.

Gwnaed gwaith dadsiltio yng ngorsaf bwmpio’r Felinheli yn ddiweddar ac rydym wrthi’n ymchwilio i weld a allai dŵr y môr fod yn ymdreiddio i orsaf bwmpio’r Harbwr gan gyfrannu at broblem yr arogleuon.

Yn ogystal, mae timau’n dal i ymchwilio i broblemau arogleuon yng ngorsaf bwmpio’r Felinheli ac yn cadw golwg ar y sefyllfa. Pan fydd yr ymchwiliadau wedi’u cwblhau, cyflwynir argymhellion i’r cwmni a phenderfynir ar y camau nesaf i’w cymryd.

Gan ei fod yn “gwmni nid-er-elw”, nid oes cyfranddalwyr gan Dŵr Cymru ac mae unrhyw arian sydd dros ben yn cael ei ailfuddsoddi yn y busnes er budd y cwsmeriaid.

Llinell Gymorth Gwasanaethau Dŵr Gwastraff – 0800 085 3968

line

I Nepal i godi arian i ymchwil cancr

Mae dau berson ifanc o’r Felinheli yn mynd i Nepal i godi arian i elusen ac yn cynnal bore coffi  ar Ionawr 17 fel rhan o’u ymgyrch. Fydd 'na groeso cynnes i bawb yn Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli ar fore Sadwrn Ionawr 17 er mwyn codi pres at Ymchwil Cancr Cymru.
Ym mis Mawrth 2015 bydd Nia Jenkins a Carwyn Dafydd yn mentro i fyny i 'base camp' mynydd ucha’r byd, Everest.

“Bydd y daith yn digwydd dros 13 diwrnod a bydd gofyn i ni gerdded i fyny at uchder o 5,354m!” meddai Nia.

“Mi fydd lefel yr ocsigen yn gostwng i 40% ar yr uchder yma felly bydd gofyn i ni wneud digon o ymarfer cyn mis Mawrth! Rydym yn mynd i fyny’r Wyddfa a mynyddoedd eraill Eryri yn rheolaidd er mwy codi lefel y ffitrwydd ac mae Carwyn yn chwarae pêl-droed i Glwb Pêl- droed Y Felinheli ac yn hyfforddi yn rheolaidd.
               
“Byddwn ni’n gwneud y trec er budd yr elusen, Ymchwil Cancr Cymru. Bydd gofyn i ni godi cyfanswm o £7550 a ‘da ni wedi dewis yr elusen arbennig yma gan fod Carwyn wedi colli ei dad i'r salwch 16 mlynedd yn ôl. Mi fydd yr arian yn mynd tuag at yr ymchwil i ddileu y salwch ofnadwy yma. Mae’r holl arian yn mynd i’r elusen ac rydym yn talu ein costau teithio ein hunain.”
“Rydym wedi codi miloedd o bunnau yn barod ac yn agosáu at y nod. Codwyd £2,000 mewn twrnamaint pêl-droed 5 bob-ochr yng Nghaernarfon y flwyddyn diwethaf. Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu cyn belled a bydd cyfle bellach i bobl ein cefnogi drwy ddod i’r bore coffi ar Ionawr 17. Neu gallwch gyfrannu ar lein drwy’r linc yma.

Mwy o wybodaeth drwy ffonio Nia ar 07917190897

line

Erthygl Daily Post

Mae'r Cyngor Cymuned wedi penderfynu anfon at Gyngor Gwynedd i ddweud eu bod yn erbyn datblygu Cae Fodol ger cylchfan Y Faenol ar gyfer unedau byw parhaol. Mae hyn am nifer fawr o resymau cynllunio yn cynnwys fod y safle tu allan i'r ffiniau datblygu ac nad yw'r safle yn addas ar sawl cyfrif. Daeth tua 30 o drigolion i'r cyfarfod yn y Neuadd Goffa heno.

line

 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni:

 

  • 28.09.09 - Cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiadau ...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - Felin Sgwrio "Officially Open"...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - "Grandad's anger at foul problem" ...cliciwch yma