Iaith: Cymraeg | English

Newyddion

Yma mae'r newyddion o 2014 am fywyd y pentref, gan gynnwys newyddion gan y Cynghorydd Sir, Sian Gwenllian.



 

Cyfarfod arbennig o'r Cyngor Cymuned

Cyfarfod arbennig o'r Cyngor Cymuned i drafod ceisiadau cynllunio gan gynnwys yr un am safle sipsiwn yn Coed Fodol.

Nos Fawrth, Ionawr 6 am 7 o'r gloch yn y Neuadd Goffa.

line

Mae nifer o geisiadau cynllunio wedi eu cyflwyno.

Mae modd gweld y cyfan ar www.gwynedd.gov.uk a dilyn y ddolen cynllunio.

1) Rhif Cyfeirnod Cais Cynllunio: C14/1110/20/LL
Codi 5 ty tri ystafell wely
Location: TirGer - Oaklands, Penybryn, Y Felinheli, Gwynedd, LL564YQ

2) Rhif Cyfeirnod Cais Cynllunio: C14/1093/20/LL
Cais diwygiedig i ganiatad blaenorol o dan gyfeirnod C13/0950/20/LL ar gyfer codi ty
Location: Plot - 2, TirGer. - Oaklands, Penybryn, Y Felinheli, Gwynedd, LL56 4YQ

3) C14/1202/20/AM
TirGer. - 26 SNOWDON STREET, Y FELINHELI, GWYNEDD, LL56 4HQ 
Dymchwel modurdai presennol a chodi modurdai a storfa gychod newydd gyda uned byw uwchben

Mwy 

line

Cais Cynllunio

Rhif Cyfeirnod Cais Cynllunio: C14/1111/25/LL
Lleoliad y Safle: Coed Fodol, Y Felinheli, Gwynedd
Ward: Pentir
Darparu safle sipsiwn parhaol sy'n cynnwys 8 llecyn caled gyda unedau parhaol, creu mynedfa a trac gerbydol a phont, codi bloc toiledau a storfa biniau, ynghyd a gwaith draenio a gwaith trin carthffosiaeth a gwaith tirweddu

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

line

Adroddiad Blynyddol (2013/14) Cynghorydd Sian Gwenllian - Cliciwch yma

line

Taclo'r broblem baw ci yn Y Felinheli - cliciwch yma

line

Angen Adeiladwr - Builder Required

Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli yn gwahodd adeiladwyr lleol i gynnig pris am waith cynnal i do'r Neuadd Goffa. Mae llechi angen eu gosod yn eu holau ar gribyn y to. Am fwy o fanylion neu i gynnig pris anfonwch at y clerc Heather Jones, 3 Maes Padarn, Llanberis LL55 4TE; heatherjones37@aol.com; ffon 01286 872655; 07867 982518 erbyn y 12fed o Ragfyr 2014.

line

Cymorth Ariannol i Gymdeithasau Y Felinhlei

Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli yn gwahodd ceisiadau am gymorth ariannol oddi wrth gymdeithasau lleol y pentref. Am ffurflen cysylltwch ar Clerc Heather Jones, 3 Maes Padarn, Llanberis LL55 4TE; heatherjones37@aol.com; ffon 01286 872655; 07867 982518. Mae angen derbyn y ceisiadau erbyn 31 Rhagfyr 2014.

line

Ymgyrch Baw Cwn Y Felinheli

Dydd Mawrth nesaf, Rhagfyr 2il
Cychwyn o’r Ysgol am 11 a.m. a cerdded o gwmpas y pentref
Yn sgil y cyfarfod gafodd y Cyng Sian Gwenllian efo swyddogion Cyngor Gwynedd, cytunwyd i gynnal diwrnod arbennig i dynnu sylw at broblemau baw cwn yn y pentref.
A ydych chi yn rhydd i ddod i helpu? Bydd nifer ohonom yn mynd efo swyddogion o gwmpas y pentref i siarad efo perchnogion cwn ac yn rhoi taflenni iddyn nhw ac offer codi baw cwn (Poop Kits) am ddim.

Cliciwch yma i weld y poster a chrëwyd gan yr Ysgol

line

“Credir mai ymhlith yr henoed a phobl anabl y mae’r angen mwyaf am dai yn y gymuned.”
 Cyngor Cymuned yn cyhoeddi Adroddiad ar Anghenion Tai
Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli wedi derbyn tystiolaeth am anghenion tai trigolion y pentref drwy holiadur a ddosbarthwyd i bob tŷ.  Credir mai ymhlith yr henoed a phobol anabl y mae’r angen mwyaf am dai yn y gymuned. I’r dyfodol, dylid ystyried unrhyw geisiadau cynllunio ar gyfer Y Felinheli yn sgil y dystiolaeth diweddaraf yma ac fe ddylid datblygu’r  Cynllun Datblygu Lleol er mwyn ymateb i anghenion y trigolion anabl a’r boblogaeth gynyddol hŷn yn y pentref.

  • Mis Gorffennaf  2014, dosbarthwyd 1180 o ffurflenni i bob tŷ yn y pentref.
  • Cafodd 128 o ffurflenni eu dychwelyd, 11% o’r cyfanswm.
  • O’r rhain mae 29% angen tŷ yn Y Felinheli.
  • Roedd 11% yn drigolion hŷn oedd angen annedd llai neu un heb risiau.
  • Roedd 8% angen tŷ mwy ar gyfer teulu sy’n tyfu.
  • Roedd 4% yn byw gyda rhieni ond am gael byw yn annibynnol.

Mae nifer o dai i’w codi eto yn Y Felinheli gan fod llawer o ganiatâdau cynllunio heb eu gweithredu.
Yn anffodus, mae’r Cyngor Cymuned yn ansicr a fydd y datblygiadau sydd ar y gweill yn ymateb anghenion yr henoed a’r anabl yn sgil y ffactorau canlynol:

  • Does dim tai gofal ychwanegol/cysgodol yn y pentref a dim cynlluniau i adeiladu y math yma o lety
  • Does dim digon o fflatiau llawr isaf yn y sector tai cymdeithasol na’r sector breifat
  • Does dim digon o dai un-llawr mewn llefydd addas o fewn y pentref

Dymuna Cadeirydd y Cyngor Cymuned, Cynghorydd Ken Brown ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr arolwg ac i’r Cynghorwyr Cymuned Nerys John  a Pat Ashley am eu gwaith trylwyr.

I weld yr adroddiad cyflawn, cliciwch yma

line

Am Ddrama

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

line

Microsglodynnu gorfodol erbyn 2015

Rydym yn dymuno atgoffa pawb bod angen i bob ci gal ei ficrosglodynnu erbyn 2015.

Amcangyfrifir y bydd angen i 190,000 o g?n yng Nghymru gael eu microsglodynnu cyn Mawrth 2015.

Mae rhai elusennau yn cynnig y gwasanaeth hwn am ddim ond mae'n costio tua £20-£30 os byddwch yn mynd â'ch ci at y milfeddyg lleol. Mae'n golygu rhoi microsglodyn maint gronyn o reis o dan groen y ci, rhwng ei ysgwyddau, I'r bobl hynny sydd wedi cael eu ci wedi'i ficrosglodynnu, gwnewch yn siwr bod eich manylion wedi'u diweddaru.

Mae rhai digwyddiadau microsglodynnu wedi eu nodi yma

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Tachwedd 2014

Rhyd Y Fenai : Bum mewn cyfarfod gyda rhai o drigolion Rhyd Y Fenai a swyddog o Gartrefi Cymunedol Gwynedd i drafod gwelliannau i’r stad. mwy...

line

Y Felin Gylchu

Yn ddiweddar trosglwyddwyd siec am £12,000 gan Y Felin Gylchu i'r adeiladwr sydd yn atgyweirio Eglwys hynafol Llanfairisgaer. Diolch i bawb sydd yn cefnogi ein siop ailgylchu yn Neuadd yr Eglwys.

 

 

line

Ffair Nadolig

Ffair Nadolig

Y Felin Gylchu a Cyfeillion Ysgol Felin
Mawrth Tach 25 6.30
Neuadd yr Eglwys Y Felinheli

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

NEGES BWYSIG am y SEFYLLFA ARIANNOL sy'n wynebu Cyngor Gwynedd

"Nodyn byr i’ch atgoffa bydd digwyddiadau Her Gwynedd yn ardal Bangor ddydd Iau 20 Tachwedd, gyda sesiwn galw i fewn rhwng 1.30 a 4.30 yn Nhy Cwrdd y Crynwyr a cyfarfod gyda’r nôs rhwng 6 a 8 yn Neuadd yr Esgob . Gallwch gael fwy o wybodaeth am Her Gwynedd yma www.gwynedd.gov.uk/hergwynedd .

Yn y cyfarfod byddwn yn ennyn dealltwriaeth a chodi ymwybyddiaeth trigolion Gwynedd o’r her arianol a chymdeithasol sydd o’n blaenau, ennyn dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y Cyngor o’r pethau sy’n bwysig i bobl yn lleol a dechrau trafod y pethau allai gael eu gwneud yn lleol i gwrdd a’r her."

line

Ymateb Cyng. Sian Gwenllian i gyhoeddiad Y Grid Cenedlaethol y byddant yn lleihau effaith gweledol peilonau trydan mewn rhai mannau - [erthygl llawn]

Y Cyng. Sian Gwenllian yw cynghorydd lleol Y Felinheli, pentref a fydd yn cael ei effeithio gan gynigion y Grid i osod ceblau ar draws y Fenai o Ynys Môn i’r tir mawr yng Ngogledd Orllewin Cymru. Mae hi hefyd yn un o sylfaenwyr y grwp lobio Dim Peilonau.

“Tra fod hyn yn newyddion ardderchog ar gyfer rhannau o Eryri, dw i’n rhyfeddu bod y Grid ar yr un pryd yn ystyried rhoi peilonau NEWYDD ar draws un o dirweddau mwyaf prydferth y DU! Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr gwario hanner biliwn o bunnoedd ar unioni hen gamgymeriadau, gan gynnwys rhai yn Eryri ac ar yr un pryd gwneud camgymeriad enfawr mewn ardal drws nesaf! A fydd y Grid hefyd yn gwario symiau enfawr o arian yn yr ardal hon yn y dyfodol er mwyn tynnu peilonau lawr?

“Mae rhan fawr o Ogledd Orllewin Cymru, gan gynnwys y cyfan o Ynys Môn, y Fenai a thir sy’n ffinio ag Eryri yn ardal Bangor yn mynd i fod yn gartref i gannoedd o beilonau er gwaethaf gwrthwynebiad llethol gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hyn. Mae llawer o'r ardal hon gyda nodweddion tirwedd unigryw a statws cadwraeth, fel yr ardaloedd yma sydd bellach yn cael gwared â pheilonau’r Grid.

“Yn ôl ymgynghoriad diffygiol y Grid, mae 92% o’r rhai wnaeth ymateb a phob cynrychiolydd democrataidd yn Ynys Môn a Gwynedd, ar ran eu hetholwyr, yn gwrthwynebu peilonau. Ond mae'r Grid yn ymddangos fel petaent am anwybyddu'r opsiwn amgen ymarferol sef rhoi'r ceblau o dan y môr. Yn dilyn y newyddion hyn heddiw bydd pobl fy ardal i yn fwy rhwystredig nag erioed am y diffyg ystyriaeth a ddangosir tuag at farn y mwyafrif llethol o bobl.

“Ar hyn o bryd, mae'r Grid Cenedlaethol yn tanseilio ein hawl i wrandawiad teg drwy anwybyddu'r opsiwn yr ydym ni yn ei ffafrio sef yr opsiwn o dan-y môr. Rydym am weld y costau llawn ar gyfer cysylltiad dan-y môr a'r costau cudd i’r gymuned a'r economi leol pe bai peilonau yn cael eu gosod.

“Rydym yn gwerthfawrogi ein tirwedd. Mae'n rhan bwysig o bwy a beth ydym ni. Mae hefyd yn un o'n hasedau economaidd mwyaf gwerthfawr. "

line

Help ar gael i greu a rhannu newyddion digidol y Gymraeg

Dros y chwe mis nesaf fe fydd Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn cynnal ymgyrch i helpu unrhyw un sydd am greu a rhannu newyddion a gwybodaeth amserol yn ddigidol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd pytiau pwrpasol ar gael yn gyson ar ddefnyddio rhwydweithiau cymdeithasol poblogaidd megis Facebook a Twitter; gwybodaeth am ddeunyddiau digidol sydd wedi eu creu yn benodol ar gyfer y Gymraeg; a chanllawiau mwy eang ar sut i fynd ati i sefydlu gwefannau a newyddion cymunedol yn Gymraeg.

Dan nawdd Llywodraeth Cymru, fe fyddwn hefyd yn cynnal hyfforddiant am ddim mewn sawl lleoliad ac yn creu pecynnau gam-wrth-gam yn gymorth i newyddiadurwyr cymunedol ac eraill sydd am greu a rhannu eu newyddion yn fwy effeithiol.

Rydym yn awyddus i sicrhau fod gymaint â phosib o bobl yn gwybod am, ac yn defnyddio, yr adnodd newydd ac yn cael cyfle i gael eu hyfforddi a'u mentora - boed yr unigolyn, grwp gwirfoddol neu gorff.

Os oes gennych gysylltiadau o fewn cymunedau Cymraeg rhannwch y tudalennau canlynol i helpu i dyfu iaith Cymraeg ar-lein.

line

Nadolig Felinheli
Sul 21 Rhagfyr am 5 pm
Neuadd Goffa Felinheli

Band Porthaethwy
Canu Carolau
Stondinau Nadoligaidd
Siôn Corn

£2 yn cynnwys mins pei a gwin cynnes (plant am ddim)

Noson Gymraeg wedi ei threfnu gan Gwyl Y Felin a'i noddi gan Hunaniaith

line

Gwasanaeth Sul y Cofio
Sul yma am 10.30
Neuadd yr Eglwys (+ ger y Cofeb Coffa)
Bydd y FFORDD ar GAU 10.45 a.m. - 11.15 a.m.
Croeso cynnes i bawb

line

Cynllun Hanes Y Felinheli yn dod â'r gymuned ynghyd

Mae prosiect cymunedol hanesyddol yn y Felinheli, yn ennyn diddordeb llawer o'r trigolion yn ôl Y Cynghorydd lleol Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

"Mae gan bobl ddiddordeb go iawn yn y cynllun yma sy’n dod â’r gymuned gyfan ynghyd i ddathlu ac archwilio i hanes ein pentref yma yn Y Felinheli,” meddai’r Cynghorydd Gwenllian.

“Rydym wedi sicrhau nawdd a bwriad y cynllun sy’n cael ei baratoi ar y cyd rhwng Cyngor Cymuned Y Felinheli a’r Felin Sgwrsio (menter gymunedol) yw creu taflen a map yn dangos y llwybrau a’r teithiau cerdded a lleoliadau hanesyddol diddorol yn Felinheli.

“Rydym yn ddiolchgar i Gist Gwynedd (Cronfa Gymunedol Cyngor Gwynedd) am yr arian grant o £4,000 i weithredu’r gwaith. Gwaith caled Cynghorydd Cymuned, Nerys John ddaeth â’r cais llwyddiannus i’r ardal ar gyfer cychwyn ar y cynllun ei hun. Mae’r cydweithio sydd ar y cynllun i’w glodfori’n fawr!”

Mae gan Y Felinheli hanes a threftadaeth gyfoethog. Yn eu mysg mae cyfnod yr Oes Rufeinig a’r Chwyldro Diwydiannol pan oedd llongau’n cario llechi o’r porthladd prysur i leoliadau ledled y byd. Bydd rhai nodweddion diddorol i’w rhannu wrth fynd ar y teithiau cerdded hamddenol gaiff eu darlunio yn y daflen liwgar a’r map.

“Mae’r broses o greu’r daflen / map yr un mor bwysig â’r cynnyrch gorffenedig, ac mae pobl yn mwynhau’n arw bod yn rhan o’r gweithgareddau amrywiol sy’n digwydd o fis Hydref tan ddechrau’r flwyddyn newydd,” meddai’r Cynghorydd Siân Gwenllian.

Cyd-lynydd y Prosiect Hanes yw Gareth Roberts, Menter Fachwen. Bydd Gareth yn ymweld â’r ysgol a bydd arddangosfeydd lleol, taith gerdded, bore coffi a digwyddiadau eraill yn cael eu trefnu.

Os oes gan unrhyw un gyfraniad i’w wneud neu syniadau am beth yn union ddylid eu cynnwys yn y daflen neu am gael gwybodaeth bellach, cysylltwch â’r Felin Sgwrsio ar ddydd Mercher (10-4) tan y Nadolig. Neu ffoniwch am sgwrs â’r Cyd-lynydd, Gareth Roberts 01286 872014.

Digwyddiadau

  • Taith Gerdded, Dydd Gwener 24 Hydref, Gelli Gyffwrdd i Penscoins (dechrau am 10 y bore o Gelli Gyffwrdd)
  • Bore Coffi, Dydd Mercher, 5 Tachwedd, Felin Sgwrsio (10.30)


Bydd Amser Haf Prydain yn dod i ben y penwythnos hwn a hoffai Heddlu Gogledd Cymru atgoffa defnyddwyr y ffyrdd i gymryd gofal arbennig pan fyddant allan gyda’r nos. 

Dyma ychydig o gyngor i ddefnyddwyr ffyrdd:

Gyrwyr

  • Gwnewch yn siwr bod eich goleuadau’n lân ac yn gweithio’n iawn.
  • Gwnewch yn siwr bod y ffenestr flaen yn lân tu mewn a thu allan.
  • Defnyddiwch eich goleuadau pan na fydd hi mor hawdd gweld – er enghraifft yn gynnar yn y bore neu gyda’r nos neu pan fydd hi’n bwrw glaw. Bydd yn helpu pobl eraill i’ch gweld chi.
  • Arafwch. Dylech allu stopio o fewn y pellter yr ydych yn ei weld.
  • Gofynnwch i rywun edrych ar eich brêcs – ar  ffyrdd gwlyb mae hyd yn oed yn fwy hanfodol bod y brêcs yn gweithio’n iawn a bod y teiars yn gyfreithlon.
  • Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr, dewch oddi ar y ffordd cyn belled a bo hynny’n bosibl a rhowch eich goleuadau rhybudd ymlaen
  • Cymerwch ofal ac edrychwch allan am feicwyr pan fyddant yn troi mewn cyffordd.

Beicwyr

  • Fe ddylech gael goleuadau da ar eich beic. Mae reidio heb olau gwyn ar du blaen eich beic, golau coch ar gefn y beic ac adlewyrchydd coch ar gefn y beic yn drosedd.
  • Fe ddylech roi’r goleuadau mewn mannau amlwg, ni ddylech eu cuddio tu ôl i’r sêt neu’r ffrâm.
  • Mae’n syniad da cario batris a bylbiau sbâr gyda chi rhag ofn y byddwch angen eu newid yn ystod eich taith.
  • Gwnewch ymdrech i gael eich gweld – dillad llachar sydd orau yn ystod y dydd a dillad adlewyrchol sydd orau yn y nos.
  • Gwyliwch allan am yrwyr ceir. Cofiwch fod llai o feicwyr ar y ffyrdd yn y gaeaf felly efallai y bydd gyrwyr yn meddwl llai amdanynt.

Cerddwyr

  • Gwnewch yn siwr eich bod yn hawdd i’ch gweld bob amser, yn enwedig yn y nos, ar ddyddiau tywyll ac mewn tywydd garw.
  • Dillad llachar sydd i’w gweld orau yn ystod y dydd, yn enwedig pan fydd hi’n ddwl neu’n niwlog.
  • Gyda’r nos, dillad adlewyrchol sydd orau ac sy’n dangos mewn goleuadau ceir – nid yw dillad llachar yn gweithio ar ôl iddi dywyllu.
  • Croeswch y ffordd yn y man mwyaf diogel posibl er enghraiff

 

line

Pentref yn codi dros £800 ar gyfer Macmillan

Ymunodd Cynghorydd Y Felinheli, Siân Gwenllian â staff yng Nghanolfan Feddygol Felinheli ar gyfer Bore Coffi Macmillan eleni a chodwyd dros £800.

Yn nigwyddiad 'Bore Coffi Mwyaf y Byd' Y Felinheli llwyddwyd i godi cyfanswm o £843.43 tuag at yr elusen gancr. Codwyd y £396.38 yn ystod y bore coffi ei hun a derbyniodd Y Cynghorydd gyfraniad o £447.05 gan Gronfa Goffa Sian Ifor White yn dilyn y bore coffi.

Dyma’r bumed flwyddyn i Siân gynnal y Bore Coffi Macmillan yn Y Felinheli.

"Cynhaliwyd y bore coffi yn y Ganolfan Feddygol ac roedd hefyd yn gyfle i bobl dderbyn eu pigiad rhag y ffliw yr un pryd.

"Roedd yn llwyddiant ac yn boblogaidd gyda’r Ymwelwyr Iechyd wrth iddynt hyrwyddo'r
brechlyn newydd ar gyfer plant 2, 3 a 4 mlwydd oed yn ogystal ag annog rhai dros 65 oed a’r rhai sy’n dioddef o salwch cronig i gael eu himiwneiddio. Rydym yn bwriadu cynnal digwyddiad tebyg i godi arian ar gyfer Macmillan y flwyddyn nesaf.

“Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac yn arbennig i deulu y diweddar Sian Ifor White am eu caredigrwydd yn rhannu eu rhoddion gyda chasgliad Y Felinheli,” meddai’r Cynghorydd Siân Gwenllian.

line

Parch Eric Jones yn ymddeol

Diolch i'r Parch Eric Jones sydd yn ymddeol fel gweinidog Capel Bethania. Hefyd i'w wraig Val.

line

Eluned Owen yn ymddeol

Diolch o galon i Eluned Owen, sydd wedi ymddeol fel gofalwraig Capel Bethania ar ol bron i 30 mlynedd. Diolch iddi hefyd am dros 20 mlynedd o wasanaeth yn dosbarthu papur bro'r Goriad yn y pentre.


line

Gwybodaeth am gyfarfodydd i drafod problemau ariannol a chymdeithasol sy'n wynebu Cyngor Gwynedd

 

Mwy o wybodaeth - cliciwch yma

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

line

Gêm Bêl-Droed llawn hwyl

Cae Seilo, Y Felinheli.
Sul 19eg Hydref,
Cic gyntaf 2y.h

Gêm rhwng timau cymysg o'r pentre a CPD Y Felinheli.

Bydd y chwaraewyr yn talu £5 i gymeryd rhan, a bydd cost mynediad o £2 wrth y giat.

Mi fydd y caffi ar agor, yn ogystal a raffl yn cael ei werthu ar y diwrnod.

Dewch yn llu I gefnogi achos da.

line

Cais Cynllunio Half Way - cliciwch yma

line

Galw ar y Grid Cenedlaethol i Ymgynghori’n gywir

Beirniadwyd arferion ymgynghori'r Grid Cenedlaethol yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol Un Llais Cymru yn Llanfair ym Muallt ar 4 Hydref 2014. Y neges gan Gynghorau Tref a Chymuned Cymru i'r Grid Cenedlaethol oedd y dylent ymgynghori'n agored, darparu opsiynau trosglwyddo cyfoes dilys ar gyfer ymgynghori yn hytrach na gosod yr opsiwn peilon oesol fel y dewis sengl, ac wrth gymharu "costau" y gwahanol opsiynau y dylid cynnwys y gost i'r gymuned, busnesau, amaethyddiaeth, gwerth eiddo a'r amgylchedd er mwyn caniatáu i'r cyhoedd gymharu un yn erbyn y llall o ran effaith.

Esboniodd Hywel Williams AS, Cadeirydd Grwp Gwrth-Peilon Gogledd Cymru:
"Mae angen edrych ar drosglwyddo ynni’n strategol gan fod cydweithwyr o Gymru wedi nodi problemau tebyg gyda'r Grid Cenedlaethol yn eu hardaloedd hwy. O ran Gogledd Cymru, bu gwrthwynebiad cryf yn lleol yn dilyn "ymgynghoriad" diweddar ar gyfer coridorau peilonau newydd ar draws Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Afon Menai, Gwynedd a’r Parc Cenedlaethol. O'r ymatebwyr, roedd 92% yn anghytuno gyda'r opsiwn peilon, gyda ‘r Grid yn cyfaddef hynny yn eu hadborth ac yn nodi: "Mae'r ymgynghoriad yn dweud wrthym y byddai'n well gan bobl opsiwn tanfor yn hytrach na chysylltiad uwchben ar draws Ynys Môn". Fodd bynnag, mae'r Grid wedi anwybyddu’r adborth sylweddol hwn ac wedi dod i'r casgliad canlynol: "Ein bwriad presennol yw cael llinell uwchben newydd rhwng Wylfa a Phentir". Ar ben hyn nid yw eu dogfennau yn cyfeirio at y ffaith bod yr holl gynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd yng Ngwynedd a Môn, gan gynnwys Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad, Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned yn gwrthwynebu cynigion peilon y Grid. Mae'r Grid wedi diystyru'r broses ymgynghori ac wedi diystyru democratiaeth leol felly dydw i ddim o gwbl synnu bod cynghorwyr lleol yn cael cefnogaeth eu cyfoedion Cymreig yng nghyfarfod cenedlaethol Un Llais Cymru.”


Dywedodd Cyng. Gwynedd Sian Gwenllian, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Felinheli a gyflwynodd y cynnig: “Mae'n arwyddocaol bod ein cyfoedion ledled Cymru yn cydnabod ein pryder am arferion ymgynghori ddiffygiol y Grid Cenedlaethol. Rydym yn gweld trafodaethau yn Ewrop am Supergrid, o'r Alban i Gymru darperir cysylltiad tanfor, ond eto yng Nghymru nid oes ewyllys gwleidyddol i gymryd golwg strategol a mynd i'r afael â'r costau gwirioneddol o'r cynigion peilon tameidiog i'n heconomi. Mae'r Grid yn anwybyddu'r gostyngiad yng ngwerth eiddo a'r effaith ar ein hasedau amgylcheddol a thwristiaeth. Mae Un Llais Cymru wedi darparu llais unedig ar gyfer ein pryderon tra bod senarios tebyg yn digwydd ar draws y wlad. Mae'r cwestiwn yn un o gost ac a yw Cymru werth y buddsoddiad o'i gymharu â'r ynni y mae'n ei gynhyrchu ar gyfer y rhannau eraill o'r DU. I mi ac yn amlwg i gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, yr ateb syml yw “Ie, wrth gwrs ein bod werth hynny!”

"Mae Un Llais Cymru yn galw ar y Grid Cenedlaethol i sicrhau bod
• ei arfer ymgynghori yn agored ac yn dryloyw ac i sicrhau
• yr ymgynghorir ar yr holl opsiynau trosglwyddo gan gynnwys y cyfanswm y costau ar gyfer pob opsiwn (uniongyrchol ac anuniongyrchol) wrth ystyried cynlluniau llwybr trosglwyddo. "...

Pasiwyd y cynnig yn ddiwrthwynebiad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Un Llais Cymru. Fe'i cyflwynwyd gan Mair Bebb Jones ar ran Cyngor Cymuned Y Felinheli, a eiliwyd gan y Cyngor Cymuned Llanfairpwll.

Am fwy o manylion:
Hywel Williams 01286 672076 / alun.roberts@parliament.uk neu Sian Gwenllian 07775642202
http://www.onevoicewales.org.uk/

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Hydref 2014

Parcio, Goleuadau traffig Ffordd Caernarfon, Cynllun Llifogydd ger y Clwb Hwylio/Cae chwarae plant, Arogl drwg o’r Orsaf Bwmpio a mwy... cliciwch yma

line

Cynllun Mapio Hanes Y Felinheli




Cliciwch y llun am fwy o wybodaeth

 

 

 

 

 

 

 

line

Bore Coffi Macmillan, Y Felinheli
26/9/2014

Talwyd mewn i gyfrif Macmillan: £843.43

Bore coffi = £396.38

Rhoddion er cof am y diweddar Sian Ifor White = £447.05

 

line

Geraint Lovgreen fydd gwestai Cymdeithas Heli'r Heulyn
7:30 o'r gloch, Nos Iau 9fd o Hydref 2014

Geraint Lovgreen fydd gwestai Cymdeithas Heli'r Heulyn

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

NODYN PWYSIG - GOHIRWYD:

Sgwrs am Waith y Diweddar Geraint Owen ar y Pentref
Am 2:00yh Dydd Mawrth, 7 Hydref

Sgwrs am Waith y Diweddar Geraint Owen ar y Pentref

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Arwydd newydd
Gosodwyd yr arwydd yma ger yr ysgol.

Arwydd newydd

line

Ydych chi yn awyddus i redeg busnes dwyieithog?
Mae help ar gael.
Gwelwch y taflenni isod am wybodaeth.

Templed Polisi Iaith - cliciwch yma

Taflen prawf-ddarllen drafftiau dwyieithog - cliciwch yma

Cefnogaeth i Fusnesau Bach a Chanolig - cliciwch yma

line

Neges gan yr Heddlu

Mae’r Heddlu yn rhybuddio pobl i beidio â gadael eitemau gwerthfawr yn y golwg yn eu ceir yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ym Mangor a Chaernarfon yn ddiweddar.

Yn ystod y pythefnos diwethaf mae cerbydau sydd wedi bod yn cael eu gadael mewn meysydd parcio a ger adeiladau’r Brifysgol yng Nghaernarfon a Bangor wedi bod yn cael eu targedu gan ladron sy’n bachu ar gyfle.

Er mwyn darllen y stori yn llawn cliciwch yma

line

Wales Coast Path plans to reroute across Faenol Estate provoke row - Wales Online

Erthygl - cliciwch yma

line

Llwybr yr Arfordir a Pharc Ynni Haul Parcia

Bydd dwy eitem o ddiddordeb i'r Felinheli yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Cynllunio nesaf ar Medi 22.

1)Cynnig i greu Llwybr Cyhoeddus yng nghymuned Pentir ( ger Glan y Mor Lodge) dan Adran 26 Deddf Priffyrdd 1980. (Fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru drwy'r Felinheli a Glan Faenol)

2)Cais Cynllunio i greu parc ynni haul ar dir Parcia.

Bydd y Cynghorydd Sian Gwenllian yn mynychu'r cyfarfod.

Rhaglen y Pwyllgor Cynllunio - cliciwch yma

line

Arogl Drwg

Mae llawer wedi bod yn cwyno am yr oglau drwg yn ardal yr Orsaf Bwmpio Dwr ger y Gardd Fon.

Dywedodd y Cynghorydd Sian Gwenllian; "Mae hyn yn broblem sydd wedi bod yn mynd mlaen llawer rhy hir, er fy mod wedi codi'r mater gyda Dwr Cymru sawl gwaith. Mae Hywel Williams, AS, wedi codi'r mater efo nhw hefyd.

Y diweddaraf gan Dwr Cymru yw eu bod wedi bod yn glanhau pibelli yn yr orsaf ac wedi gosod pwmp newydd. Gobeithio fydd hynny yn rhoi stop ar yr arogl drwg... byw mewn gobaith."

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Medi 2014

Yr iaith Gymraeg yn Y Felinheli, Grant i hyrwyddo teithiau cerdded a hanes y pentref, Ymgyrch Baw Cŵn a mwy ... cliciwch yma

line

Dewch i fore coffi a derbyn eich pigiad ffliw yr un pryd!

Mae cynghorydd Y Felinheli Sian Gwenllian wedi ymuno â staff y Ganolfan Feddygol yn Y Felinheli i drefnu bore coffi Macmillan eleni.

Bydd ‘Bore Coffi Mwya’r Byd’ Y Felinheli yn cael eu cynnal yn y Ganolfan Feddygol yn Rowen am 10.30 a.m. dydd Gwener Medi 26 ac mae croeso i bawb. Bydd boreau coffi tebyg ar hyd a lled Cymru i godi arian i’r elusen sy’n cefnogi pobl gyda chanser.

Dywedodd Sian Gwenllian : “Dyma’r bumed flwyddyn i ni drefnu Bore Coffi Macmillan yn Y Felinheli,

“Y llynedd, cynhaliwyd y bore coffi yn y Ganolfan Feddygol am y tro cyntaf ac roedd cyfle hefyd i bobl gael eu pigiadau ffliw. Roedd hyn yn llwyddiannus a phoblogaidd ac rydym wedi penderfynu cynnal yr un math o fore eto eleni.

Dywedodd Sally Lloyd-Davies, Rheolwraig Meddygfa: “Byddwn yn cynnal clinig ffliw ar fore Medi 26 i gyd-fynd efo’r Bore Coffi. Gall unrhyw un o’n cleifion ni, ifanc a hen, droi fyny yn y feddygfa.

“Bydd ein Ymwelwyr Iechyd yn hyrwyddo brechlyn ar gyfer plant 2, 3 a 4 oed. Mae’r staff hefyd yn annog pobol dros 65 a’r rhai sydd efo salwch tymor hir i dderbyn y brechiad.

“Mae pob aelod o staff wedi gwirfoddoli i wneud cacen a dod ag eitemau ar gyfer raffl. Mae’n gyfle i’r Feddygfa a’r gymuned leol ymuno efo’i gilydd i gefnogi elusen bwysig,” meddai Sally.

Ychwanegodd Sian : “Mae’r Felin Sgwrsio hefyd yn trefnu raffl a gwirfoddolwyr ar gyfer gwneud paneidiau. Os hoffech helpu, codwch y ffon (07775642202.)

“Gobeithio y gallwn godi llawer o arian i’r elusen bwysig yma ac fe fyddem ni’n falch o gael cacennau tuag at y bore coffi o 9 o’r gloch ymlaen ar Fedi 26 yn y feddygfa.”

Bore Coffi Mwya'r Byd ( Macmillan)

Canolfan Feddygol Y Felinheli
Medi 26 am 10.30 a.m.
Ydach chi ar gael i helpu?

line

Manylion am ein cais llwyddiannus ar gyfer grant i hyrwyddo teithiau cerdded yn Y Felin - cliciwch yma

line

Arwyddion newydd

Yn ein hymdrech i sicrhau fod perchnogion cwn yn codi baw eu cwn, gosodwyd 4 arwydd newydd yn Y Felinheli.

sign

line

Ymgynghori gan Lywodraeth Cymru ar wella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol

Rydym yn gwahodd eich barn ar gynigion i wella argaeledd tir ar gyfer rhandiroedd, i ddiogelu tir ar gyfer rhandiroedd ac i wella cyfleoedd i dyfu yn y gymuned. - cliciwch yma

line

Yr iaith Gymraeg yn Y Felinheli
Cyfle i gymryd rhan mewn arolwg pwysig

Achosodd y newyddion fod canran y siaradwyr Cymraeg yn Y Felinheli wedi disgyn o 72.1% yn 2001 i lawr at  64.3% yn 2011 dipyn o fraw  ymysg trigolion y Felin.  Yn dilyn y cwymp daeth grŵp at ei gilydd i sicrhau na fyddai dirywiad pellach.  I gynllunio’r gwaith  mae’r grŵp wedi llunio  holiadur  sy’n mesur agweddau at y Gymraeg.  Byddai’n gymorth mawr petai cymaint o bobl y Felin a phosib yn ei lenwi.  Dilynwch y ddolen at yr holiadur yma

Mi fydd yr holiadur ar agor hyd at ddiwedd mis Medi. Cofiwch annog eich teulu a’ch ffrindiau sy’n byw yn y Felin i’w gwblhau hefyd.  Os hoffech fwy o wybodaeth am y grŵp mae croeso i chi gysylltu â Siân Gwenllian ar cynghorydd.siangwenllian@gwynedd.gov.ukneu Ifan Jones ar Hunaniaith@gwynedd.gov.uk.

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad. 

line

Pa fath o dai fydd eu hangen yn Felin?
Llenwch y ffurflen Arolwg Anghenion Tai

Mae trigolion Y Felinheli yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn arolwg pwysig fydd yn helpu wrth gynllunio anghenion tai y pentref i’r dyfodol.

Dywedodd Cynghorydd Sir Y Felinheli  Cyng. Sian Gwenllian sy’n aelod o Gyngor Cymuned Y Felinheli : “Mae Cyngor Gwynedd wrthi’n datblygu Cynllun Datblygu Lleol fydd yn penderfynu faint o dai a sut fath o dai fydd yn cael eu hadeiladu dros y 15 mlynedd nesaf ar draws y sir.

“Mae Cyngor Cymuned Y Felinheli wedi penderfynu cynnal Arolwg Anghenion Tai Lleol gyda’r dyddiad cau dydd Gwener yma, Gorffennaf 31. Mae nifer wedi ymateb ers i’r arolwg gychwyn 3 wythnos yn ôl ac rydym yn awyddus i atgoffa pawb i ddychwelyd eu ffurflen.

“Cynhaliwyd yr arolwg diwethaf yn 2005 gan ddangos yr angen am dai fforddiadwy i brynwyr tro cyntaf a’r angen i gynyddu tai rhent cymdeithasol.

“Mae’n rhaid i’r cynllun newydd fod yn seiliedig ar dystiolaeth glir a dyna bwrpas yr arolwg yma. Mae’r cyngor cymuned yn ymwybodol fod yr angen am dai rhent cymdeithasol a thai fforddiadwy yn parhau ac rydym yn tybio hefyd fod angen tai ar gyfer pobol hŷn a phobol anabl. Bydd yr arolwg yma’n helpu wrth gasglu’r dystiolaeth.

“Cafodd y ffurflenni eu dosbarthu yn eang yn y pentref ond os rydym wedi methu unrhyw un, mae ffurflenni ychwanegol ar gael gan Ken Brown, Cadeirydd y Cyngor Cymuned yn 70 Stryd Bangor.

“Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu rhannu gydag Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd ond ni fydd enwau na manylion personol yn cael eu datgelu.

“Hoffwn annog pawb i lenwi’r ffurflen a’i roi drwy flwch post 70 Stryd Bangor erbyn dydd Gwener (neu dros y Sul). Bydd y canlyniadau yn cael eu dadansoddi a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gyngor Gwynedd ym mis Medi. “

Ffurflen: gallwch argraffu hon a'i hanfon at Ken Brown, 70 Stryd Bangor erbyn Awst 2.

Mae grwpiau cymunedol wedi bod yn cynnal arolygon tebyg mewn rhannau eraill o Wynedd gan gynnwys Dyffryn Ogwen a  Dyffryn Nantlle.

line

Felin Sgwrsio dros yr Haf 2014

Fe fydd Y Felin Sgwrsio ar agor am baned a sgwrs o 22 Gorffennaf tan 2 Medi ar yr adegau canlynol:
pob dydd Mawrth 2 tan 4
Iau 10 tan 12
Gwener 10 tan 12
Sadwrn : Brecwast y Dysgwyr am 9.30.

Bydd 'Wythnos Cymraeg' i ddysgwyr yn cael ei chynnal Awst 11 tan 16. Mwy o wybodaeth gan
Pat Jones neu Dilys Myfanwy 07767210825
Bydd y gweithgareddau arferol yn ail gychwyn ym mis Medi gan gynnwys Seshiwn Galw Heibio'r Cynghorydd Sian Gwenllian, 10.30-11.30 bob dydd Gwener.

line

Y Grid yn anwybyddu llais y bobl!
Protest gweledol i wrthdystio yn erbyn safbwynt trahaus y Grid

dim peilonau

Dydd Mawrth 22/7/2014
9:30-10:15 tu allan i Swyddfa Cyngor Sir Môn, Llangefni
Posteri parod ar gael – dewch a’ch ffrindiau.
(Bydd y Grid Cenedlaethol yn mynychu cyfarfod caeedig gydga Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn am 10:00 y.b.)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

line

Brwydyr rhwng Rob ac Alun eto.

ras 10k felinCafodd râs boblogaidd 10K Elim/Madoc ei chynnal unwaith eto eleni, fel rhan o Wyl y Felinheli. Bu’r tywydd yn garedig i’r rhedwyr a’r cefnogwyr i sicrhau fod pawb yn cael amser da (mewn mwy nac un ystyr!). Yr ennillydd amlwg am y 5ed tro yn olynol oedd ‘ceffyl blaen’ Gogledd Cymru - Rob Samuel o glwb Rhedwyr Eryri, gyda Alun Vaughan ei gyd aelod clwb ac ein prif redwr lleol sydd wedi ennill y râs 6 gwaith o’r blaen yn y gorffennol (2002 – 2007) yn ei erlid yr holl ffordd.

Dyn arall o Eryri mewn cyflwr da ar hyn o bryd yw Dylan Wynn Jones o Drefor, a ddaeth yn 3ydd, ond yn ennill gwobr y 1af dros 40. Yr ennillydd categori nesaf i groesi’r llinnell oedd Rhys Llewelyn James o Ddeiniolen (17oed) yn cael gwobr y bachgen dan 18 cyntaf, gyda Garn Owain Jones o Landegfan (15oed) yn dynn ar ei sodlau ac yn curo y cyntaf dros 50 yn y broses sef Arwel Lewis eto o Eryri.

Nid oedd y godwm a gafodd Eurwyn Edwards tra’n ymarfer ar y Wyddfa 10 diwrnod ynghynt yn ei ddal yn ol rhag ennill y 1af dros 60 mewn amser o dan 45 munud. Tra bod amser y 1af dros 70 – Emyr Davies (Eryri), 47m 32e yr un mor drawiadol.

Roedd cryfder clwb Rhedwyr Eryri yn y râs yn cael ei arddangos ymhellach gan y ferch 1af, sef Helen Teasdale gyda Tracey Llewellyn o glwb Cybi Striders yn cael ei gwthio i’r ail safle (y ddwy yn y categori dros 35). Ennillydd y merched dan 35 a thrydydd yn ras y merched oedd Elliw Haf o Gaernarfon, yn gorffen yn gryf a bron a dal Llewellyn ar y llinell derfyn. Danghosodd Chris Birch o Abergele Harriers nad oes raid i oed hŷn eich arafu gormod drwy ennill y categori merched dros 60 cyn i’r ferch gyntaf dros 50 (Kay Hatton – NWRR) ddod i mewn.

Yr ennillwyr lleol oedd Gwion Williams a oedd yn 13fed a Lauren Hassett oedd yn 10fed merch allan o’r 123 a wnaeth gystadlu. Cyfanswm y rhedwyr a orffenodd y cwrs oedd 277, yn cynnwys y dyn prysur ‘Mr Gwyl Felinheli’ - y cadeirydd Islwyn Owen a oedd yn gwisgo rhif 1 ac yn cymeryd rhan am y tro cyntaf yn hanes hîr y râs. Da oedd gweld cymaint o dîm llwyddianus C.P. Felinheli yn cystadlu hefyd.

Dymunir y trefnwyr ddiolch yn fawr iawn i bawb roddodd gymorth ar y noson yn enwedig y ‘marshals’ o amgych y cwrs ac yn ogystal modurdy Elim/Madoc am eu cefnogaeth unwaith eto.

 

Cliciwch yma i weld y lluniau

Prosiect Cymunedol Ysgol Y Felinheli 2014

plantErs i'r Cynghorydd Sian Gwenllian gael ei hethol fel cynghorydd Y Felinheli yn 2008, mae hi'n ymweld ag Ysgol Felinheli yn rheolaidd ac mae'n un o'r llywodraethwyr yno. Yn ystod tymor yr haf mae'n cyfarfod disgyblion Blwyddyn 6 i drafod a chytuno ar brosiect cymunedol ac mae nhw'n gweithio ar hwnnw gyda'i gilydd. Maen nhw wedi bod yn casglu sbwriel mewn nifer o lefydd, wedi cynnal arolwg parcio, ac un flwyddyn fe gynhyrchwyd posteri metal wedi eu dylunio gan y plant i geisio atal baw cwn. Mae'r posteri yma i'w gweld o gwmpas y pentref.

Cafodd y cynghorydd gyfarfod efo'r 21 o ddisbylion sydd ym Mlwyddyn 6 yr wythnos diwethaf. Ar ol trafod gwaith Cyngor Gwynedd a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu a hefyd gwaith y cynghorwyr, cafwyd trafodaeth am ffyrdd y gellid gwella'r pentre.

Eleni, mae'r plant am weld a oes modd gwella cae chwarae'r plant ar Lan y Môr. Codwyd ffens dadleuol o amgylch yr ardal sy'n cael ei nabod yn lleol fel 'swings.' Mae'r plant yn credu y gellid gwneud y ffens yn fwy deniadol ac maen nhw yn trefnu i ymweld a'r safle a bydd y syniad yn cael ei drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd a'r trigolion lleol. Mae ymweliad safle ar y gweill ar gyfer Mehefin 25ain (tywydd yn caniatau) a bydd y plant a'r cynghorydd hefyd yn ymweld ag ardal y Doc i gyfarfod y perchennog newydd, galw heibio'r caffi newydd ac fe fyddan nhw hefyd yn taro heibio Felin Sgwrsio.

Adroddiad Cynghorydd Siân Gwenllian Mai 2014

Cae’r Ysgol: Cafwyd cwynion am gyflwr y cae ac rwyf wedi gofyn i’r Cyngor Sir edrych mewn i hyn.

Llwybr Allt Gam ger Trem y Foel:
rwyf wedi gofyn i swyddogion y Cyngor edrych ar ddiogelwch y llwybr ger y llethr newydd sydd wedi ei chreu.

Arafu traffig yn Y Wern: Mae’r Aelod Seneddol yn ceisio cael mesurau arafu traffig mewn rhan ble mae llawer o blant yn chwarae.

Biniau sbwriel Stryd Bangor: Mae’r Cyngor Cymuned wedi cael sicrwydd y bydd y tri bun newydd yn cael eu gosod yn lle’r rhai sydd wedi diflannu yn ddiweddar.

Lan y Mor : mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn edrych ar ffyrdd o wella rhan o Lan y Mor ger y llithrfa gyferbyn a Gardd Fon. Mae ceir yn parcio ar y gwair yma. Fe fydd y Cyngor Cymuned yn trafod y cynllun sydd wedi ei gyflwyno a byddaf yn gofyn am drafodaeth llawn efo pobol yr ardal hon cyn i unrhyw beth ddigwydd.

  • Ffens rownd y cae chware ar Lan y Mor: Mae rhai problemau wedi codi gyda pherchnogion cŵn yn gollwng eu cŵn i’r cae chwarae tra mae nhw yn eistedd yn y car. Mae’r Cyngor Sir wedi addo arwyddion newydd a hefyd bydd y wardeniaid yn cadw golwg ar y sefyllfa. Rydym yn disgwyl am ddyddiad ar gyfer ymweliad gan swyddogion yn ôl yr addewid. Mae angen clirio darnau o goncrid.

Lon Las Menai ger Cerrig yr Afon: Cafodd y bont uwchben y Lon Las ei thrwshio.

Llwybr yr Arfordir drwy’r marina a Faenol: Mae’r gwaith cyfreithiol yn mynd mlaen er mwyn dynodi’r darn ger y Lodge yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru fydd yn golygu y bydd mynediad unwaith eto o’r marina i’r Faenol..

Half Way: Cefais gyfarfod rhwng swyddogion cynllunio a pherchennog newydd yr Half Way ar ôl i’r y cais i drosi’r Half Way yn 6 uned (C14/0042/20/LL) gael ei wrthod gan y Pwyllgor Cynllunio. Mae’r tri cais arall ar gyfer y safle yma wedi eu tynnu yn ôl. . Rhaid marchnata y dafarn fel busnes am 12 mis. Mae hawl i gyflwyno cais ar gyfer tai ar ran o’r maes parcio i ochr Caernarfon ond does dim i law hyd yma.

Llifogydd: Mae’r Cyngor Cymuned yn aros i weld manylion cynllun atal llifogydd ger y cae chwarae ar Lan y Mor.

27 Brynffynnon: Gohiriwyd trafodaeth ar gais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer 27 Brynffynnon er mwyn i’r Pwyllgor Cynllunio gynnal cyfarfod ymweld. Bydd yn cael ei drafod yn y Pwyllgor Cynllunio ar Mehefin 16. Mae’r Cynghorydd John Wyn Williams ( Pentir) yn gweithredu ar rhan y pentref gan fy mod wedi datgan diddordeb yn y cais hwn.

Llwybr Stepiau Cei: mae Cyngor Gwynedd yn monitro’r wal ger y llwybr. Mae proses gyfreithiol yn mynd mlaen ynglŷn a’r wal/tir-lithriad uwchben Hen Gei Llechi er mwyn symud at sefyllfa lle bydd mod ail agor y rhan o’r lon sydd wedi cau islaw. Mae’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, wedi sicrhau dyddiad cyn diwedd Mai ar gyfer cynnal cyfarfod efo Mr Iwan Evans o Gyngor Gwynedd er mwyn ceisio symud pethau ymlaen yn gynt. Mae arafwch y broses yn rhwystredig i bawb.

Y Doc : Mae caffi’r Swellies wedi agor ger y Doc ac fe fydd bar gwin yn agor ger siop Harddwch Maryam. Mae’n braf gweld gwelliannau yn y rhan yma o’r pentref. Gofynnais am arwyddion baw cŵn (doedd dim yn y rhan ym o’r pentref) ac fe fydd sbwriel yn cael ei gasglu o du allan i’r tai yn Porth y Llechen ( ar ôl cryn bwyso) yn hytrach na bod y biniau yn flêr ger y bont yn y Doc.

Gwefan: Mae gwefan www.felinheli.org yn parhau i fod yn boblogaidd efo 50,499 hits yn mis Ebrill. Cofiwch anfon eich lluniau a newyddion am ddigwyddiadau i post@felinheli.org.

Gwyliau : tra rwyf ffwrdd (tan Mai 20) gellwch drafod unrhyw fater yn ymwneud a’r pentref gyda Cadeirydd y Cyngor Cymuned Ken Brown. Diolch Ken a diolch am dy gefnogaeth a dy waith dros y pentref. kennethbrown445@btinternet.com ; 07831400139.

WYTHNOS ARFORDIROEDD GLÂN: 10-18FED MAI
Helpwch i Lanhau ein Harfordir sydd wedi’i Daro gan Stormydd

posterGadawodd y stormydd diweddar a darodd Cymru ein harfordir mewn llanast, a chyda’r haf yn agosáu, mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am wirfoddolwyr drwy Gymru i helpu i gael ein traethau yn ôl i’w cyflwr hardd!

Bydd ail Wythnos Arfordiroedd Glân blynyddol, sydd wedi cael ei noddi gan
McDonald’s Restaurants Cyf, yn digwydd o’r 10fed-18fed Mai 2014.

Bydd Cadwch Gymru’n Daclus ynghyd â staff bwytai McDonald’s, grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau yn cymryd rhan mewn digwyddiadau glanhau drwy’r wlad, ar ôl i wyntoedd cryfion a llifogydd difrifol daro ein harfordiroedd a gadael rhai traethau mewn cyflwr fel na ellir eu hadnabod.

Trefnwyd sawl digwyddiad eisoes i helpu i adfer ein traethau i’w gogoniant blaenorol, ond mae Cadwch Gymru’n Daclus angen mwy o wirfoddolwyr i ymuno. Cliciwch yma am restr o'r digwyddiadau.

Dywedodd Peter Schroeder, Rheolwr yr Amgylchedd yn McDonald’s:

“Mae gan McDonald’s fwytai mewn cymunedau drwy Gymru ac rydym wedi gweld drosom ein hunain effeithiau amodau tywydd diweddar ar arfordir eiconig Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth gyda Cadwch Gymru’n Daclus yn gyfle gwych i gefnogi’r gymuned ac adfer rhai o leoliadau mwyaf pictiwrésg er mwyn i bawb eu mwynhau. Bydd timau o’n bwytai drwy Gymru yn gwirfoddoli fel rhan o’n hymrwymiad i gadw ein hamgylchedd lleol yn lân a heb sbwriel a byddem yn hoffi gweld cymaint o bobl ag sy’n bosibl yn ymuno â’n gwirfoddolwyr yn y digwyddiadau ym mis Mai.”

Mae gan Gymru rhai traethau gwefreiddiol, llawer ohonyn nhw wedi derbyn y Faner Las sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ac sy’n cael ei gweinyddu gan Cadwch Gymru’n Daclus. Yn ogystal, dyfarnwyd arfordir Cymru gan y teithlyfr Lonely Plant fel y ‘Rhanbarth Orau’ ar y Ddaear i ymweld â hi yn 2012.

Ond trawsnewidiodd y tywydd garw diweddar draethau hardd Cymru - gan ddifrodi ardaloedd arfordirol, malurio amddiffynfeydd môr a gadael pentyrrau o sbwriel a gweddillion llifogydd.

Mae Wythnos Arfordiroedd Glân 2014 yn gyfle gwych i bawb ymuno mewn glanhau ein harfordir - o drwsio ffensys sydd wedi’u hysgubo gan y gwynt i glirio gweddillion a adawyd ar ein traethau gan lifogydd.

Cafodd rhai digwyddiadau glanhau eu trefnu ar gyfer Wythnos Arfordiroedd Glân 2014. Yn Sir y Fflint bydd Cadwch Gymru’n Daclus a staff McDonalds yn ymuno â wardeniaid arfordirol Cyngor Sir Fflint, BHP Billiton, Parc Gwyliau Traeth Talacre a gwirfoddolwyr i ymgymryd â glanhau’r traeth a’r twyni tywod. Mae digwyddiadau eraill yn cynnwys:

• Saundersfoot (Sir Benfro) ar 12fed Mai am 11am
• Llithrfa Traeth Aberafon (Castell Nedd Port Talbot) ar 10fed Mai am 10am
Traeth Dinas Dinlle (Gwynedd) ar 11eg Mai am 10am
• Caergybi (Ynys Môn) ar 15fed Mai i roi sylw arbennig i draeth Penrhos

Datganodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae’r arfordir yn bwysig iawn i Gymru oherwydd gall roi hwb i economïau lleol a’r diwydiant twristiaeth ac mae’n caniatáu inni arddangos ein gwlad hardd. Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi trefnu Wythnos Arfordiroedd Glân ar ôl i stormydd ddifrodi traethau yng Nghymru. Mae’n bwysig ein bod yn dod ynghyd i adfer ein traethau a chynnal safon uchel ein harfordir. Dw i’n gobeithio y gall pobl ar hyd a lled Cymru dreulio ychydig oriau yn eu hardal arfordirol agosaf er mwyn sicrhau bod pobl leol ac ymwelwyr yn gallu parhau i fwynhau ein hamgylchedd naturiol.”

Mae Wythnos Arfordiroedd Glân 2014 yn dilyn llwyddiant yr wythnos ddechreuol y llynedd a gafodd ei noddi gan McDonald’s yn ogystal. Yn 2013, bu 110 o ddigwyddiadau drwy Gymru, gyda 2461 o gyfranogwyr a gasglodd 2104 o fagiau sbwriel!

Os hoffech ymuno yn un o’r digwyddiadau glanhau sydd wedi cael eu trefnu neu os hoffech drefnu’ch digwyddiad eich hun, ewch i www.keepwalestidy.org neu anfonwch e-bost at events@keepwalestidy.org am fwy o wybodaeth.

line

Gŵyl y Felinheli 2014 - Ras 10k Gorffennaf 2

poster ras 10k

line

Adroddiad Cynghorydd Ebrill 2014

1)Ffens rownd y cae chware ar Lan y Mor: mae’r gwaith yma wedi bod yn mynd mlaen wythnos yma. Tra’n cytuno efo’r angen am ffens mae’n siomedig na chafodd y cyngor cymuned, y trigolion lleol na minnau gyfle i drafod y math o ffens sydd yn cael ei chodi. Mae Cyngor Gwynedd wedi ymddiheuro ac wedi addo trafod efo ni ar ôl gorffen y gwaith i weld os oes modd ymateb i sylwadau y trigolion lleol.

2)Lon Las Menai ger Cerrig yr Afon: daeth y newyddion fod Cyngor Gwynedd wedi gorfod cau y llwybr tra fod gwaith trwsio yn digwydd i’r bont uwchben y Lon Las.

3)Llwybr yr Arfordir dryw’r marina a Faenol: Mae cyfreithwyr Cyngor Gwynedd wedi gwneud gorchymyn creu llwybr cyhoeddus newydd o dan y Ddeddf Priffyrdd yn Glan y Mor Lodge. Pwrpas y darn yma o lwybr yw cysylltu efo llwybrau cyhoeddus eraill sydd yn cael eu creu yn Ffordd Heulyn a Stad Y Faenol drwy gytundeb â pherchnogion y tir. Mae’r gwaith cyfreithiol yn mynd mlaen. Mae’r Cyngor Cymuned wedi anfon gwrthwynebiad i’r cais i godi modurdy yma rhag ofn ei fod yn peryglu creu Llwybr yr Arfordir.

4)Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd wedi gwrthod y cais i drosi’r Half Way yn 6 uned (C14/0042/20/LL) . Roedd hyn ar sail nad oedd wedi ei farchnata fel busnes am 12 mis ac nad oedd asesiadau iaith, cymuned a thai fforddiadwy i law. Gallwch weld y cynlluniau ar www.gwynedd.gov.uk/cynllunio

5)Llifogydd: Rwyf wedi cyfarfod peirianwyr o Gyngor Gwynedd i drafod pa gamau ellir eu cymryd i atal llifogydd yn ardal Lan y Mor i’r dyfodol. Mae cynllun i’w gyflwyno i’r cyngor cymuned am ei sylwadau.

6)Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg yn Y Felinheli: mae grwp o bobl leol yn cydweithio efo Hunaniaith (Menter Iaith Cyngor Gwynedd) i greu cynllun yn sgil y cwymp o 8% mewn siaradwyr Cymraeg yn y pentref. Bydd y pwyslais ar gryfhau’r gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ac mae trafodaethau ar y gweill i gynnal gig yn yr haf.

7)Gwrthodwyd y cais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer arwydd ar y llain tir gyferbyn a’r Half Way. Deallir fod apêl wedi ei gyflwyno. Cais Cynllunio C13/1295/20/HY

8)Llwybr Stepiau Cei: mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn monitro’r wal ac mae’r llwybr yn dal ar gau ond fe ddisgwylir penderfyniad cyn hir allai arwain at ail-agor y llwybr. Deallir fod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno llythyrau i berchnogion tir yn ymwneud a’r wal/tir-lithriad uwchben Hen Gei Llechi. Mae’r Aelod Seneddol, Hywel Williams, yn dal i bwyso am gael datrys y problemau yn y rhan yma o’r pentref.

9)Cafodd cais i drosi’r swyddfeydd yn fwyty a chaffi yn y Doc ei basio yn unfrydol gan Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd ym mis Mawrth. Deallir mai’r bwriad yw agor y caffi erbyn y Pasg.

10)Mae gwefan www.felinheli.org yn parhau i fod yn boblogaidd efo 49,832 hits yn mis Mawrth. Cofiwch anfon eich lluniau a newyddion am ddigwyddiadau i post@felinheli.org.

11)Mae’r arwyddion newydd wedi eu codi yn Aberpwll o’r diwedd. Cofiwch mai 40 mph yw’r cyflymder uchaf rhwng y cae pêl-droed a gwaelod Nant y Garth.

12)Efallai bydd rhai ohonoch wedi darllen fy mod yn sefyll lawr o Gabinet Cyngor Gwynedd o Fai 1 ymlaen. Ond fydd dim yn newid o safbwynt fy ngwaith fel aelod lleol yn Y Felinheli. Cofiwch gysylltu os ydych am drafod unrhyw fater yn ymwneud a’r pentref.

13)Ffordd Osgoi Bontnewydd/Caernarfon: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fod y gwaith o benodi cwmni i adeiladu’r ffordd osgoi gwerth £100m A487 Caernarfon i Bontnewydd wedi cychwyn. Penodwyd EC Harris fel yr asiant ac mae’r tendr ar gyfer y gwaith wedi ei gyhoeddi.

line

bus users cymru

Rhwng y 1af Ebrill a’r 31ain o Fai 2014 fe fydd Cyngor Gwynedd yn ymgymryd ag arolwg i fesur bodlonrwydd teithwyr gyda gwasanaethau bws lleol yn y Sir.

Y bwriad ydi casglu gwybodaeth ynglyn â phatrymau a barn defnyddwyr y gwasanaethau presennol yn ogystal ag adnabod blaenoriaethau a dyheadau bobl ar gyfer rhwydwaith y dyfodol.

Darperir y gwasanaethau bws lleol mewn dwy ffordd nai llai ar sail fasnachol gan gwmnïau lle maent wedi adnabod cyfleoedd hyfyw i wneud hynny neu o dan gontract i’r Awdurdod.

Sut allai ddweud fy nweud?

Gallwch gymryd rhan yn arolwg bysiau lleol Gwynedd mewn sawl ffordd;
• Ar-lein – cliciwch yma
• Dros y ffôn - cysylltwch gyda Galw Gwynedd ar 01766 771000
• Wyneb yn wyneb – mewn cymhorthfa defnyddwyr (gweler isod).

Bydd rhaid i chi gwblhau’r arolwg cyn dydd Sadwrn 31 Mai 2014.

Am ragor o wybodaeth am Arolwg Bysiau Lleol Gwynedd 2014 cysylltwch gyda’r Uned Cludiant Integredig Cyngor Gwynedd drwy ffonio 01766 771 000 neu cysylltwch drwy anfon e-bost at cludiant@gwynedd.gov.uk

Yn ogystal, bydd yr Uned Cludiant Integredig ar y cyd â Bus Users UK Wales yn cynnal cymhorthfa defnyddwyr rhwng y 7fed a’r 9fed o Ebrill yn y lleoliadau canlynol:

Dydd Llun, 7fed Ebrill:
• 10yb – 12yh: Porthmadog
• 1yh – 3yh: Pwllheli
Dydd Mawrth, 8fed Ebrill:
• 10yb – 12yh: Bangor
• 1yh – 3yh: Caernarfon
Dydd Mercher, 9fed Ebrill:
• 10yb – 12yh: Dolgellau
• 1yh – 3yh: Blaenau Ffestiniog

Posteri a gwybodaeth pellach - cliciwch ar y linciau uchod.

Estynnir croeso cynnes i bawb a bydd cyfle i chi drafod materion am eich gwasanaeth bws lleol gyda cynrychiolwyr gweithredwyr bws yn ogystal â swyddogion Awdurdod Lleol.

line

Calendr y Felin sgwrsio - beth sydd ymlaen?

Diolch i arweinydd Portffolio Gwynedd am ei chyfraniad wrth gyhoeddi ei bod yn camu lawr

llun  

13/03/2014

Wrth i aelod o gabinet Cyngor Gwynedd gyhoeddi ei bwriad i gamu lawr o’i swydd, mae grŵp Plaid Cymru Gwynedd yn diolch iddi am ei chyfraniad aruthrol, ei harweinyddiaeth a’i gwaith caled dros y blynyddoedd diwethaf.

Y Cynghorydd Siân Gwenllian sy'n arwain ar addysg, plant a phobl ifanc yng Ngwynedd sydd wedi cyhoeddi ei bwriad i gamu i lawr o’i swydd.

Bydd y Cynghorydd Siân Gwenllian yn parhau i gynrychioli trigolion y Felinheli ar Gyngor Gwynedd, ond mae’n awyddus i ganolbwyntio ei hymdrechion dros y ddwy flynedd nesaf ar ei hymgeisyddiaeth fel cynrychiolydd Arfon Plaid Cymru yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Wrth dalu teyrnged iddi, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rydyn ni’n ddyledus i Siân am e hymrwymiad a’i harweiniad o fewn y maes dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mai wedi bod yn allweddol wrth osod yr agenda, gan symud materion addysg yn eu blaenau o fewn Gwynedd gan gydweithio â chynghorwyr, swyddogion, partneriaid, sefydliadau a thrigolion Gwynedd i ddatblygu a chynllunio ymhellach ar gyfer y dyfodol. Bydd Siân, yn ddi-os, yn parhau i gymryd diddordeb brwd yng ngwaith yr awdurdod fel cynrychiolydd lleol o fewn ei ward.

”Wrth agosáu at ddwy flynedd wrth y llyw, roedd gennym eisoes gynllun i drafod ad-drefnu’r cabinet yng Ngwynedd. Byddwn felly’n dechrau’r gwaith hwnnw o drafod gyda chynghorwyr," meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.
Bydd y broses o ddewis aelod cabinet newydd i lenwi’r bwlch yn cychwyn yn y dyddiau nesaf.

line

Manylion am grantiau

www.assemblywales.org/cy/faq11-005.pdf

line

CHWILIO AM FENTORIAID LLEOL I HELPU DYSGWYR

MAE pentrefi Y Felinheli a Phenygroes yn dod at ei gilydd i ffurfio menter newydd i hybu'r Gymraeg yn lleol.

Pwrpas CEFNOGI, a fydd yn cael ei lansio fis Ebrill, yw sefydlu rhwydwaith o fentoriaid Cymraeg a fydd yn helpu dysgwyr ar lefel un-i un i ymarfer eu Cymraeg yn y ddwy gymuned.

Fel rhan o'r fenter, dan ni'n chwilio am 10 gwirfoddolwr yn Y Felinheli a fyddai'n fodlon ymrwymo i gyfarfod gydag un o'n dysgwyr lleol am awr pob wythnos. Nid tiwtoriaid iaith sydd eu hangen o gwbl, ond yn hytrach pobl sydd yn fodlon siarad mewn Cymraeg naturiol bob dydd hefo'r dysgwyr.

Y gobaith ydi y gellid paru pobl i fyny ar sail eu diddordebau hamdden, e.e cerdded, ioga, coginio, garddio, arlunio, chwaraeon, cerddoriaeth, cadw'n heini, teithio, darllen ayb, ayb, ac y gellid trefnu'r awr wythnosol i siwtio'r mentor a'r dysgwr.

Bydd gwefan CEFNOGI yn rhoi gwybod i bawb sy'n rhan o'r cynllun ynghylch yr hyn sy'n digwydd yn y ddwy ardal o wythnos i wythnos a sut mae'r dysgwyr yn dod yn eu blaen.

Mae CEFNOGI yn anelu i ennyn cefnogaeth i'r cynllun gan nifer o asiantaethau lleol, megis yr Heddlu, Gwasanaeth Tan/Ambiwlans, Y Feddygfa, Yr Ysgol Gynradd, Ysgolion Uwchradd Tryfan/Syr Huw, Cyngor Sir, Cyngor Cymuned.

Mae'r fenter wedi derbyn cymorth ariannol o 500 gan Gyngor Cymuned Y Felinheli a 500 gan Gyngor Cymuned Dyffryn Nantlle a gobeithir hefyd y byddwn yn derbyn cymorth gan Gronfa Park Jones sy'n rhoi arian i fentrau sydd yn hybu'r Gymraeg yn gymunedol.

"Pwrpas Cefnogi ydi trio cynnal a datblygu'r iaith mewn dwy ardal Gymraeg yng Ngwynedd, yn dilyn ffigyrau siomedig Cyfrifiad 2011. Rhaid i ni fel Gymry Cymraeg wneud llawer mwy ein hunain ynghylch y sefyllfa yma erbyn hyn, ac mae hwn yn un ffordd ymarferol y gall pobl wneud cyfraniad mawr" meddai un o'r trefnwyr, Craig ap Iago.

Bydd mwy o fanylion am y noson lansio maes o law, ond y cwbl dan ni'n chwilio amdano ar hyn o bryd yw cael hyd at 10 o bobl yn Y Felinheli i fynegi diddordeb yn y syniad..

Cysylltwch hefo Aled : aled.job@btopenworld.com

line

SGWRS AM Y LYDAWEG A'R GYMRAEG

Mae un o ddysgwyr y Felinheli yn paratoi sgwrs gyhoeddus am yr iaith Lydaweg a'i chysylltiadau hanesyddol gyda'r Gymraeg.

Fel rhan o'i waith ar gyfer Lefel "A" Cymraeg, mae'n rhaid i Mathieu Le Carff, Stryd Bangor, roi cyflwyniad Cymraeg gerbron grwp lleol ac mae Mathieu, sydd o Lydaw yn wreiddiol, wedi dewis gwneud hynny yn y Felin Sgwrsio nos Iau nesaf Mawrth 27ain am 7.00.

Yn ei gyflwyniad, bydd Mathieu yn olrhain datblygiad yr iaith Lydaweg o'r 4edd ganrif ac yn esbonio'r cysylltiadau agos sydd ganddi hyd heddiw gyda'r Gymraeg.

Bydd hefyd yn trafod cyflwr yr iaith yn Llydaw erbyn hyn gan son am Y Rhedadeg- sef ras sy'n cael ei redeg trwy Lydaw i godi ymwybyddiaeth am yr iaith.

Dowch draw i ddangos eich cefnogaeth i un o'n dysgwyr brwd yma yn Y Felinheli.

line

Gwiethhdy Dawns a Drymio ar gyfer plant a phobol Ifanc - dydd Sul yma 16fed.

poster

Dydd Sul- 16 / 3 /2014
1-3pm Pobol Ifanc 11-16 Oed £10
3-5pm Plant 5-11 Oed £10

Neuadd Goffa Felinheli
Monitor Colin Daimond (Bangor) & Formada Vicky Hawkesford (Birmingham)


Llawer o ddigwyddiadau - Drymio - Dawns - Capoeira digwydd dros y wythnosa nesa. Rhywbeth ar gyfer pob Oedran - gweler

www.capoeiramocambo.co.uk neu "Capoeira Mocambo" ar Facebook

 

Clwb Gwawr Newydd - Clwb Gwawr Y Felin (ardal Y Felinheli).

Ar nos Iau 20fed o Chwefror daeth criw o ferched at ei gilydd yn Nhafarn Y Fic, Y Felinheli i glywed mwy am Glybiau Gwawr.

Rhan o Ferched Y Wawr ydynt, yn rhoi cyfle i ferched ifanc (ac ifanc eu hysbryd) gyfarfod unwaith y mis i gymdeithasu a chael hwyl trwy gyfrwng y Gymraeg. Dros yr ugain mlynedd diwethaf mae'r rhwydwaith o Glybiau Gwawr wedi lledaenu ar draws Cymru, ac erbyn heddiw mae dros 40 clwb efo bron 600 aelod yn mwynhau gweithgareddau cyffrous bob mis.

Yn dilyn sgwrs efo Bronwen Wright (Swyddog Hyrwyddo Clybiau Gwawr y Gogledd), roedd pawb yn unfrydol bod eisiau dechrau "Clwb Gwawr Y Felin".

Mi fydd y noson nesaf "Pwdin a Pheint" yn Nhafarn Y Fic, Y Felinheli ar nos Iau 27fed o Fawrth o 7.30yh ymlaen. Dewch â'ch hoff bwdin (wedi'i gwneud adref neu ei phrynu!!) a chewch noson o gymdeithasu a hwyl efo merched yr ardal. Croeso cynnes i bawb.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Ricky a'r holl dîm yn Y Fic am eu cefnogaeth, ac i Siwan Haf am drefnu'r noson nesaf.

Am fwy o wybodaeth ewch i Facebook "Clybiau Gwawr - Y Clwb i Ferched Cymru" neu www.clybiaugwawr.com

Dewch a Mwynhewch!

line

CASH WINDFALL FOR GWYNEDD COMMUNITY GROUPS (Saesneg yn unig)

A cash windfall is on its way to community groups in North Wales, thanks to the Watkin Jones Community Fund.

The latest successful applicants include two projects based in the Gwynedd area.

A grant of £500 awarded to Bangor City Community Sports will be used to run reading and football sessions for pupils in Years 4, 5 and 6 at Ysgol Glancegin. The aim of the project is to utilise the motivational and inspirational power of sport to engage children within educational development. The project consists of 6 weeks of 2 hour reading and football sessions per year group.

Ethan Ray, Community Officer at Bangor City Community Sports, said: “It is great to receive funding from an organisation like Watkin Jones especially to deliver such a beneficial project as one which helps to develop literacy among local children. We at Bangor City are very excited about delivering ‘Love Football Read the Game’ with Ysgol Glancegin and cannot wait to get the project started.”

cheque

Meanwhile, Felin Sgwrsio received £300 towards the cost of furnishing their community centre.

Presenting cheques to the successful projects, Watkin Jones Communications Manager, Kerry Williams said: “We’ve seen a dramatic increase in the number of applications received recently, which has only made the selection process harder! We have therefore decided to now run the fund on a quarterly basis and would encourage everyone who was unsuccessful on this occasion to re-submit an application.”

The closing date for the next funding round is Monday 31st March 2014. Application packs are available to download from www.watkinjonescommunityfund.com/ www.cronfagymunedolwatkinjones.com or can be obtained by contacting Kerry Williams on 01745 538 200.

line

AGRO - Mudiad Adfer Môn a Gwynedd

poster agro

Amserlen Gweithgareddau - cliciwch yma

Amserlen Gweithgareddau Cylch Bangor - cliciwch yma

line

Dewch i gefnogi Nos Wener yma! (28.02.14)

poster cyngerdd

line

26.02.14 Hwyl Ddewi

Hwyl Ddewi

line

Adroddiad Cynghorydd Sian Gwenllian Chwefror 2014

Gobeithio fod pawb yn iawn ar ol y storm. Gadewch mi wybod os ydych eisiau help. Roedd traffig ar stop am gyfnod bore ma gan fod ffyrdd eraill yr ardal ar gau.

Gig Gwyl Dewi - Dafydd Iwan + Dylan a Neil £5
Dydd Gwener, Chwefror 28 am 7:00yh
Neuadd Goffa, Felinheli
Bar llawn gan Tafarn y Fic.
Ticedi o Palas Print C'fon a Bangor, Siop Na Nog C'fon neu Londis Felinheli.
Codi arian i elusen Gafael Llaw

1) Bydd gwaith ail-wynebu yn digwydd ar ran o’r ffordd osgoi yn cychwyn dydd Llun nesaf am 3 wythnos rhwng 0700 a 1700. Mwy

2) Llwybr yr Arfordir drwy’r marina a Faenol: Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud gorchymyn creu llwybr cyhoeddus newydd o dan y Ddeddf Priffyrdd yn Glan y Mor Lodge. Pwrpas y darn yma o lwybr yw cysylltu efo llwybrau cyhoeddus eraill sydd yn cael eu creu yn Ffordd Heulyn a Stad Y Faenol drwy gytundeb â pherchnogion y tir. Gellir anfon unrhyw sylw ynglyn â’r gorchymyn at Bennaeth Democratiaeth a Chyfreithiol, Gyngor Gwynedd, Stryd y Jêl, Caernarfon (cyfeirnod CAT,2227.drj) dim hwyrach na Chwefror 28. Os ydych am sgwrs am y rhybudd yma, croeso i chi ffonio Rhys Roberts ar 01758 704083.

3) Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn 4 o geisiadau cynllunio ynglyn a safle’r Half Way. 1(Trosi’r Half Way yn 6 uned (C14/0042/20/LL) 2)codi rhes o 5 ty( C13/1285/20/LL) 3) codi rhes o 3 ty (C13/1287/20/LL) 4) codi un ty (C13/1288/20/LL)ar y maes parcio. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o 15 ty. Byddaf yn cyfarfod swyddogion cynllunio i drafod y manylion. Gallwch weld y cynlluniau ar www.gwynedd.gov.uk/cynllunio a chyflwyno sylwadau.

4) Casglu bun gwyrdd bob 3 wythnos er mwyn annog mwy o ail-gylchu: beth yw eich barn? Mwy o wybodaeth ar www.gwynedd.gov.uk

5) Anghenion tai y dyfodol yn Felin : gallwch ddarllen mwy am y Cynllun Datblygu lleol a’r effaith posib ar Felin ar www.felinheli.org. Rwyf wedi trafod y safleoedd posib efo’r Cyngor Cymuned a nifer o bobl y pentref ac wedi cyflwyno barn i’r Uned Cynllunio. Mae’r sylwadau ar wefan y pentref.

6) Llifogydd: Rwyf yn trefnu i gyfarfod peirianwyr o Gyngor Gwynedd i drafod pa gamau ellir eu cymryd i atal llifogydd yn ardal Lan y Mor i’r dyfodol. Mae’r Cyngor Cymuned yn gweithio efo Cyfoeth Naturiol Cymru i sefydlu cynllun wardeniaid llifogydd yn y pentref. Penodwyd Cyng Daniel Williams yn Brif Warden.

7) Bws Padarn yn Y Wern: Mae dryswch am y gwasanaeth yma. Yn ol Cyngor Gwynedd, mae'r bws yn dal i fynd rownd rhan o'r Wern. Dywed Bws Padarn fod gyrwyr yn cael problemau mynd o gwmpas rhan arall gan fod ceir wedi parcio ar y ffordd a’u bod yn poeni iechyd a diogelwch.

8) Elyrch ar Lan Y Mor : mae rhain yn creu niwsans ar adegau a gofynnwn yn garedig i chi BEIDIO a rhoi bwyd iddyn nhw gan mai dyna sydd yn eu denu at y tai. Mae PCSO Ian Rooksby yn edrych mewn i’r sefyllfa gyfreithiol. Mae’r Cyngor Cymuned wedi holi am arwyddion ‘ peidiwch a bwydo’r adar’.

9) Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg yn Y Felinheli: mae grwp o bobl leol yn cydweithio efo Hunaniaith (Menter Iaith Cyngor Gwynedd) i greu cynllun yn sgil y cwymp o 8% mewn siaradwyr Cymraeg yn y pentref. Bydd y pwyslais ar gryfhau’r gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ac mae trafodaethau ar y gweill gyda grwp o bobl ifanc, Gwyl y Felin a’r Clwb Pêl-droed. Gallwch roi barn am Strategaeth Iaith Gwynedd drwy ymweld a thudalen gyntaf gwefan Cyngor Gwynedd www.gwynedd.gov.uk neu www.felinheli.org

10) Gwrthodwyd y cais cynllunio ôl-weithredol ar gyfer arwydd ar y llain tir gyferbyn a’r Half Way.

11) Coed ar ran o’r Lon Las gyferbyn a Cerrig yr Afon: rwyf yn cydweithio gyda Chanolfan Brynffynnon ar gynllun i blannu mwy o goed a chreu twnnel helyg ger y ‘cregyn.’

Sian Gwenllian
07775642202
01248 670866
Awelfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4YQ

line

Profiadau o Dendro gyda Chyngor Gwynedd

Ydych chi wedi cael profiad o dendro yn llwyddiannus am waith gyda Chyngor Gwynedd?

Ydych chi wedi cyflwyno tendr am waith gyda’r Cyngor ond wedi bod yn aflwyddiannus?

Yn ystod yr wythnosau nesaf rydym yn cynnal ymchwil gyda darparwyr a chyflenwyr er mwyn gwella ein dealltwriaeth am eich profiadau o dendro gyda’r Cyngor. Rydym yn awyddus i gael eich barn ar yr agweddau positif o dendro gyda’r Cyngor yn ogystal â’ch pryderon.

Bydd cyfle hefyd i chi gyflwyno syniadau ac awgrymiadau am ffyrdd y gallwn wella’r broses o dendro gwaith a chydweithio gyda darparwyr a chyflenwyr.

Mae’n bosibl i chi gymryd rhan yn yr ymchwil mewn sawl ffordd:
• Cwblhau Holiadur Electroneg
Cyfweliad wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn - Gallwn drefnu i chi gael eich cyfweld gan un o’n hymchwilwyr un ai wyneb-yn-wyneb neu dros y ffôn am amser a dyddiad sydd yn gyfleus.
• E-bost: ymchwil@gwynedd.gov.uk
• Ffôn: 01766 771 000
Dyddiad cau: 24 Chwefror 2014

Sian Gwenllian 07775642202

line

Derbyn siec £300

cheque

Mae'r Felin Sgwrsio wedi derbyn £300 gan Gronfa Gymunedol Cwmni Watkin Jones tuag at brynu byrddau plygu newydd. Mae'r Cyngor Cymuned wedi penderfynnu cyfrannu dros £250 a chronfa'r Felin Sgwrsio yn cyfrannu y gweddill. Diolch i bawb am eu rhoddion.

line

Strategaeth Iaith Gwynedd

Mae hunaniaith yn gyfuniad o gyrff, mudiadau, sefydliadau a chymunedau sy’n gweithredu ar y cyd i hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd.

Comisiynwyd gwaith yn ddiweddar i lunio Strategaeth Iaith Gwynedd 2014-2017 a Chynllun Gweithredu newydd ar gyfer y dair blynedd nesaf.

Datblygwyd y Strategaeth newydd ar sail data Cyfrifiad 2011, ynghyd â thrafodaethau cychwynnol gyda phrif bartneriaid, gwasanaethau a chynrychiolwyr cymunedol.

Mae’r Strategaeth Ddrafft bellach yn barod i’w chyflwyno fel dogfen ymgynghorol, ac mae ar gael fel copi ar-lein, neu ar gopi caled drwy gais, a gwahoddir sylwadau a barn ar ei chynnwys. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, bydd y sylwadau a gesglir yn cael eu defnyddio i lunio Cynllun Gweithredu drafft, ac yn cyfrannu at y Strategaeth Iaith derfynol.

Hoffem dderbyn barn benodol ar brif themâu a gweledigaeth y Strategaeth, yn ogystal â’r canlyniadau a’r blaenoriaethau a nodir yn y gwahanol Feysydd Strategol.
• Llenwi'r holiadur
Am gopi caled yn rhad ac am ddim cysylltwch â hunaniaith:
• Ebost: hunaniaith@gwynedd.gov.uk
• Ffôn: (01286) 679452
• Cyfeiriad: hunaniaith, Adran Strategol a Gwella, Cyngor Gwynedd, Pencadlys, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH

Mae croeso i chi hefyd anfon unrhyw sylwadau cyffredinol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol y credwch y dylid ei gynnwys yn y Strategaeth derfynol, ac unrhyw enghreifftiau o arfer da fyddai’n ddefnyddiol wrth lunio’r Cynllun Gweithredu.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar yr 7fed o Fawrth 2014, a gofynnir i bob sylw gael eu cyflwyno erbyn y dyddiad hwnnw.

Mwy o wybodaeth : Cliciwch yma

line

Dyma fidio byr o'r Afon Fenai (Gaeaf) gan Rhodri Dafydd

line

poster chwefror felin sgwrsio

line

poster clwb hanes cymraeg

line

Sylwadau'r Cynghorydd Sir ar y safloedd a gynnigwyd ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol (Y Felinheli) / County Councillors' comments on the possible sites for inclusion in the Local Development Plan (Y Felinheli)

Dyma fy sylwadau cychwynol ar y safleodd sydd wedi eu cynnig yn fy ward. Cyflwynaf rhain yn sgil trafodaethau lleol (e.e. droeon yn y Cyngor Cymuned) ac yn sgil sylwadau a dderbyniais ar ol cynnal 'ymgynghoriad' byr a rhoi'r mapiau ar wefan y pentre www.felinheli.org a thudalen Faecbook Y Felinheli. Tynnywd sylw at yr ymgynghori yn yr Herald.

These are my initial observations on the sites suggested for my ward. I present these following local discussions ( e.g. on numerous occasions in the Community Council) and following the comments I have received following holding a 'mini-consultation' and presenting the maps on our village website and Facebook pages. Attention was drawn to the 'consultation' in the Herald newspaper.

O BLAID bod Felinheli yn bentref 'arfordir/gwledig' h.y. dim ond tai fforddiadawy/tai marchnad leol: angen mwy o eglurder am beth yw union diffiniad hyn. Rydym wedi dadlau mewn sylwadau blaenorol mai dim ond tai i ddiwallu angen lleol sydd eu hangen ac yn falch o ddeall eich bod yn cytuno. Fodd bynnag, mae angen bod yn wyliadwrus nad yw pob llecyn yn y pentref yn cael ei fewnlenwi gan y gall hyn greu tirlithridau/llifogydd fel ag y gwelwyd mewn blynyddoedd diweddar.

In AGREEMENT that Felinheli is a coastal/rural village. i.e. only affordable housing and local market housing: more explanation in regard to this definition required. We have argued in previous comments that only local needs housing is needed and we are glad that you agree. However, caution is needed to protect small open spaces in the village and not to infill every spot in case of increasing the risk of landslide/floods such as we have seen in recent years.

1)SP599: Angen manylion: os mai'r awgrym ydy creu rhwy fath o farina yma: YN ERBYN gan fod morglawdd hanesyddol yma.
Details required. If the suggestion is to create a marina/pontoons here: AGAINST as there is a historical marine wall here.

2)SP613: Mae hwn tu allan i'r ffin ar y funud ond gan fod y feddygfa ger y safle bellach, mae'n synhwyrol meddwl am ddatblygiad bychan, tai angen lleol (byngalos henoed) neu tai/hamdden e.e. rhandiroedd
This is outside the boundary at present but as the surgery is near the site, it makes sense to think about a small local needs housing development (elderly bungalows) or housing/leisure e.g. allotments

3)SP624/624: Rhy bell o ganol y pentref. Ffyrdd yn anaddas ar gyfer tai. Angen manylion am ysytyr 'twristiaeth'?
Too far from the village centre. Roads unsuitable for housing. More details required as to the meaning tourism.

4)SP703/704 (Ferodo) : Cytuno efo Cyflogaeth. Ond a fyddai'r safle yn addas ar gyfer tai fforddiadwy hefyd, efo isdeiledd pwrpasol? Gall llygredd fod yn broblem.
Agree with employment. But the site would be suitable for affordable housing also with suitable infrastructure. Contamination could be a problem.

5)SP711/724/751 Cytuno ar gyfer tai fforddiadwy os yw'r tir yn addas (problemau draeniad?)
Agree for affordable housing if the land is suitable.(drainage problems?)

6)SP752: Cytuno ar gyfer rhes o dai fforddiadwy
Agree for a terrace of affordable houses.

7)SP753 : Cytuno ar gyfer tai fforddiadwy
Agree for affordable housing.

8)SP824: NA Rhy bell o ganol y pentre/ffyrdd anaddas
Too far from the village centre/roads unsuitable

9)SP825: NA Rhy bell o ganol y pentre/ffyrdd anaddas
Too far from the village centre/roads unsuitable

Cylchlythyr Hywel Williams AS – Ionawr 2014

Cylchlythyr Hywel Williams AS – Ionawr 2014

line

Ymgyrch hyrwyddo llinell Gymraeg - Samariaid

poster samariaid

line

DATHLU PUM MLYNEDD O WEITHGAREDD YN Y FELIN SGWRSIO

Dilys Myfanwy, Ysgrifennydd ac Aled Job, Cadeirydd
Grwp canu Felin Sgwrsio
Dilys Myfanwy, Ysgrifennydd
ac Aled Job, Cadeirydd
Grwp canu Felin Sgwrsio
   
Dafydd Iwan
DAETH criw o bobl leol a dysgwyr ynghyd yn ddiweddar i ddathlu pum mlwyddiant o weithgaredd cymunedol yn Y Felin Sgwrsio, Y Felinheli.
Dafydd Iwan
 

Y gwestai arbennig ar gyfer y noson a gynhaliwyd yn Eglwys Bethania ar nos Wener, Ionawr 24ain oedd Dafydd Iwan, ac fe ddiddanodd y gynulleidfa yn ei ffordd ddihafal ei hun gan ganu sawl un o’i glasuron megis “Mae’n wlad i mi”, “Pam fod Eira’n Wyn” ac Yma o Hyd”.

Yn ogystal, cafwyd dwy gân gan grŵp “Dewch I Ganu”- grŵp newydd o bobl leol sydd yn dod at ei gilydd i ganu yn Y Felin Sgwrsio pob prynhawn Llun dan ofal un o’r dysgwyr newydd sef Dave 0’Brien.

Ac fe soniodd tri o’r dysgwyr sydd yn dod i Glwb y Dysgwyr pob wythnos, sef Sian, Peter a Pat, ynghylch sut y mae’r sesiynau yn Y Felin Sgwrsio wedi rhoi hwb iddynt i ddefnyddio Cymraeg yn y gymuned.

“Mae’n anhygoel meddwl bod pum mlynedd wedi mynd heibio ers cychwyn y Felin Sgwrsio’’ medai’r cadeirydd, Aled G Jôb.

“Dwi’n meddwl ein bod ni wedi llwyddo i sefydlu ein hunain yn y pentref erbyn hyn, ac mae’r ystod o weithgareddau dan ni’n gynnig yno i’r gymuned, megis y Dysgu Cymraeg, Ioga i Bobl Hŷn, Clwb Canu, Clwb Celf, Clwb Ffotograffiaeth a’r Clwb Cyfrifiadurol, a’r Clybiau Hanes yn dangos y math o ddiddordebau eang sy’n bodoli yn Y Felinheli.”

Criw o wirfoddolwyr sydd yn gyfrifol am redeg Y Felin Sgwrsio, gyda’r criw hefyd yn cynnal digwyddiadau codi arian yn rheolaidd er mwyn gallu cynnal y gwasanaeth o fis i fis.

“Criw bychan ydan ni ond dan ni’n cyd-dynnu’n dda hefo’n gilydd. Ar ran y pwyllgor, hoffwn ddweud diolch yn arbennig i Dilys Myfanwy gan ei bod hi’n gweithio fel trefnydd di-dâl i’r Felin Sgwrsio i bob pwrpas ac yn sicr byddan ni ddim wedi gallu cyrraedd y garreg filltir hon heb ei hymroddiad hi.”

Dywedodd y cynghorydd sir Sian Gwenllian, sydd hefyd yn drysorydd gyda’r Felin Sgwrsio, bod y fenter wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf.

“Fel cymuned, rydan ni’n ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr gweithgar sydd yn rhoi llawer o’u hamser i sicrhau parhad y Felin Sgwrsio .Roedd hi’n wych gweld cymysgedd o Gymry lleol a dysgwyr wedi dod ynghyd ar y noson i ddathlu’r penblwydd hwn. Ymlaen at y degfed pwnblwydd rŵan”! meddai Sian.

Ymhlith y syniadau newydd eraill ar gyfer Y Felin Sgwrsio i’r dyfodol y mae cychwyn Clwb Trafod Llyfrau Cymraeg a Saesneg.

Mae’r pwyllgor hefyd yn chwilio am fwy o wirfoddolwyr i helpu gyda’r gwaith. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch hefo Dilys Myfanwy 07767210825

line

Ymgyrch Peilonau

Cliciwch yma am ddiweddariad

line

Adroddiad Cynghorydd

  • Ceisiadau cynllunio: cyflwynwyd ceisiadau i godi hyd at 9 o dai ar faes parcio yr Half Way. Rhif cais C13/1287/20/LL aC13/1288/20/LL Hefyd, cyflwynwyd cais i newid swyddfeydd yn fwyty ger y Doc. Rhif cais C14/0026/20/LL. Gallwch weld rhain ar www.gwynedd.gov.uk Cynllunio.
  • Casglu bun gwyrdd bob 3 wythnos er mwyn annog mwy o ail-gylchu: beth yw eich barn? Mwy o wybodaeth a chyfle i lenwi holiadur ar wefan Cyngor Gwynedd.
  • Bum yn siarad o blaid y cais i godi 6 o dai gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd ger y Wern yn y Pwyllgor Cynllunio. Cafodd ei basio yn unfrydol. Ond mae problemau gyda draeniad dwr ar y tir ac fe fydd rhaid aros i glywed a yw’n bosib adeiladu yno.
  • Llifogydd: daeth dwr o’r Fenai at rai o’r tai ar Ffordd y Traeth ( lluniau ar www.felinheli.org ac ar dudalen Facebook Y Felinheli (dilynwch ni!) Daeth swyddog o Cyfoeth Naturiol Cymru at Gyngor Cymuned Y Felinheli. Mae’r Cyngor yn gobeithio sefydlu cynllun wardeniaid llifogydd yn y pentref.
  • Llwybr yr Arfordir drwy’r marina a Faenol: Mae Cyngor Gwynedd yn dilyn deddfwriaeth Adran 25 a 26 er mwyn cofrestru hawl tramwy drwy Glan y Môr Lodge a Ffordd Heulyn fel rhan o Gynllun Llwybr yr Arfordir.
  • Bws Padarn yn Y Wern: Mae’r gwasanaeth oedd yn arfer mynd rownd Y Wern a lawr i’r pentre wedi dod i ben ond rwyf yn trafod y sefyllfa gyda Bws Padarn. Maen nhw yn dweud fod y gyrwyr yn cael problem mynd o gwmpas gan fod ceir wedi parcio ar y ffordd.
  • Bws plant ysgol i Fangor: cafwyd trafferthion ar gychwyn y tymor ysgol a bum yn helpu’r rheini i ddatrys y broblem.
  • Felin Sgwrsio yn 5 oed: lluniais gais grant a chafwyd £300 gan Watkin Jones i brynu byrddau newydd.
  • Tirlithriad ger Hen Gei Llechi/Pendorlan: mae camau yn cael eu cymryd gan Gyngor Gwynedd o safbwynt perchennog y wal. Mae Llwybr Cei yn cael ei fonitro gyda gobaith o ail agor cyn hir.
  • Elyrch ar Lan Y Mor : mae rhain yn creu niwsans ar adegau a gofynnwn yn garedig i chi BEIDIO a rhoi bwyd iddyn nhw gan mai dyna sydd yn eu denu at y tai. Mae'r Plisman Cymunedol yn edrych mewn i'r mater ac yn bwriadau cysylltu gyda Tir y Goron a'r RSPB.
  • Ger y Nant: bum yn rhoi pwysau ar y cwmni i orffen y gwaith diogelwch traffig ar y ffordd. Mae cysgod-fan bws ar ei ffordd! Aberpwll: dal i ddisgwyl i’r Cyngor osod arwyddion newydd.
  • Cynllun Gweithredu Iaith Gymraeg yn Y Felinheli: Mae aelodau Felin70 a minnau yn cydweithio efo Hunaniaeth i greu cynllun yn sgil y cwymp o 8% mewn siaradwyr Cymraeg yn y pentref.
  • Peilonau y Grid Cenedlaethol: bum yn annerch cyfarfod yn Llanfairpwllgwyngyll yn galw am roi’r peilonau o dan y môr. Does dim newyddion wedi dod gan y Grid ers misoedd.
  • Presgripsiwn Cymraeg: cefais gyfle i gefnogi Alys ac Aled Mann o’r Felinheli ar ôl iddyn nhw gael trafferth gyda phresgripsiwn oedd yn cynnwys Cymraeg yn Morrisons, Bangor.
  • Cofiwch fy mod ar gael bob bore Gwener ( adeg tymor ysgol) yn Y Felin Sgwrsio 10.30 tan 11.30 neu ar 07775642202 neu siangwenllian@yahoo.com

line

Cynllun Datblygu Lleol a’r Felinheli

Cyffredinol

  • Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Môn yn gweithio ar y cyd ar Gynllun Datblygu Lleol 2011 - 2026
  • Mae’r cynllun yma yn un statudol gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu tai mewn pob awdurdod lleol yng Nghymru
  • Bydd y cynllun terfynol yn ganllaw ar gyfer defnydd tir yng Ngwynedd hyd 2026 a bydd yn ganllaw pwysig iawn wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio
  • Mae’r cynllun drafft wedi ei selio ar yr angen am 7,665 o unedau tai. Mae hyn yn cynrychioli amcan twf o 2% yng Ngwynedd er fod Llywodraeth Cymru wedi dweud fod angen i’r cynllun ddiwallu twf o 4%.
  • Mae cynghorwyr wedi herio’r ffigwr o 4% gan ddadlau ei fod yn rhy uchel.
  • Ffigwr twf o 2% yw sail y cynllun yng Ngwynedd felly.
  • Mae hyn yn cyfieithu i 4292 o unedau tai yng Ngwynedd yn ystod cyfnod y cynllun (2011 – 2026) Mae hwn yn cynnwys tai newydd ac adnewyddu tai gwag.
  • Yn Ebrill 2013, roedd gan Gwynedd ffigwr ‘banc –tir’ o 1569 unedau tai (safleoedd gyda chaniatâd cynllunio yn dal mewn grym) ac mae’r ffigwr yma yn cyfrannu at y ffigwr o 4292 unedau tai yng Ngwynedd yn ystod oes y cynllun.
  • Mae cymunedau wedi eu gosod mewn categorïau yn ôl eu cymeriad.
  • Mae’r Uned Cynllunio wedi creu Cofrestr Tir Posib, yn dangos y safleoedd sydd wedi cael eu rhoi ger bron.
  • Mae gwybodaeth am y safleoedd yma yn cael ei gasglu ar hyn o bryd ac mae safleoedd anaddas yn cael eu tynnu allan.

Mwy o wybodaeth - cliciwch yma

Y Felinheli
Mae’r Felinheli wedi ei osod mewn categori Pentref Gwledig/Arfordirol yn y Cynllun newydd.

Dim ond Tai Fforddiadwy neu dai marchnad leol fydd yn cael eu hyrwyddo yn y cynllun newydd ( oni bai fod tystiolaeth gref i’r gwrthwyneb)

Felly dim ond safleoedd ar gyfer 100% tai fforddiadwy fydd yn cael eu cynnwys yn y Cynllun.

Atodaf y safleoedd sydd wedi eu rhoi ger bron - cliciwch yma. OND mae rhai yn annhebygoliawn o gael eu cynnwys yn y cynllun terfynol.

Hoffwn eich sylwadau os gwelwch yn dda.

Sian Gwenllian
07775642202
01248 670866
Awelfryn, Pen y Bryn, Y Felinheli, Gwynedd LL56 4YQ

line

Annog ailgylchu a chompostio bwyd

pamffled

 

Dyma gopi o'r daflen Am Wastraff. Mae'r daflen yn crynhoi ffeithiau dadlennol am ailgylchu a chompostio bwyd yng Ngwynedd.

Mae'n amlinellu'r gwasanaeth cynhwysfawr sydd ar gael erbyn hyn yn ogystal â thargedau'r Llywodraeth a'r gost o fethu cyrraedd y targedau hynny.

 

 

 

line

Gwaith Celf

gwaith celf

Dyma luniau gwych plant Felin sydd ar waliau'r Ganolfan Feddygol newydd yn Rowen.

line

Noson Ymwybyddiaeth Clybiau Gwawr - Y Felinheli

poster lansio clwb gwawr

line

poster

line

poster

Y Felin Sgwrsio
Dathlu 5 Mlynedd
22. 01.2014
3.00pm
Te Pnawn

Yn
Y Felin Sgwrsio
22 Stryd Bangor Y Felinheli

line

calendr

line

Llifogydd Felinheli Ionawr 6 2014

Llifogydd Felinheli Llifogydd Felinheli Llifogydd Felinheli
Llifogydd Felinheli Llifogydd Felinheli Llifogydd Felinheli

 

line

Pump oed!

Noson i ddathlu penblwydd FELIN SGWRSIO Y Felinheli yn pump oed. Nos Wener, Ionawr 24, Capel Bethania 7.00 efo DAFYDD IWAN. Mynediad yn £5 yn cynnwys bwyd ysgafn. Croeso cynnes i bawb gan gynnwys rhai sy'n dysgu Cymraeg.

 

Yn yr adran yma:

Dogfennau a Dolenni:

 

  • 28.09.09 - Cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiadau ...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - Felin Sgwrio "Officially Open"...cliciwch yma
  • 29.01.09 - Felinheli - "Grandad's anger at foul problem" ...cliciwch yma