Archif Newyddion 2019

Gofalwr/-aig Neuadd Goffa Y Felinheli18.11.19 - Sioe Ffasiwn wedi codi £850 ar gyfer Canser y Pancreatig

Llongyfarchiadau i Lesley a'i thîm ar godi £850 nos Wener yn Sioe Ffasiwn.


Gofalwr/-aig Neuadd Goffa Y Felinheli13.11.19 - Sioe Ffasiwn yn y Pentref i Godi Arian at Achos Da.

Mae Lesley wedi trefnu y noson arbennig yn y Neuadd Goffa nos Gwener y 15fed o Tachwedd, 7yh i godi arian tuag at elusen Pancreatic Cancer UK.

Ticedi £10: ar gael gan Lesley ar 07836 772603 neu gan RIAH Hair Salon, Dinorwic Marina.
(mae tocyn yn cynnwys dau wydr o win a chaws)

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.


08.10.19 - Diolch

Diolch yn fawr iawn i bawb ac enwedig y Rainbows, Brownies a Guide am ei holl help cadw Felinheli yn daclus. Tua 20 bag bin wedi ei hel.


07.10.19 - Pob lwc heddiw Charoltte

Pob lwc i Charlotte prynhawn ma, pwy fydd ar Radio Wales gyda Wynne Evans heddiw am 1ish - yn siarad am Cadw Felinheli'n daclus a'i gymuned dda yn Y Felinheli ma!


Noson Casino 02.10.19 - Sesiwn Casglu Sbwriel (07.10.19)

Plîs dewch i helpu tacluso Felin - mae sesiwn casglu sbwriel wedi ei drefu am 6yh ar y 07/10/2019 yn cychwyn o'r Neuadd Goffa gyda help y Rainbows, Brownies a'r Guides.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


30.09.19 - Sesiwn Casglu Sbwriel (30.09.19) WEDI GOHURIO

Yn anffodus, oherwydd y tywydd garw, Bydd angen gohurio'r casglu sbwriel. Byddem yn ei wneud Dydd Llun nesaf (y 7fed) yn lle.


Noson Casino 25.09.19 - Sesiwn Casglu Sbwriel (30.09.19)

Plîs dewch i helpu tacluso Felin - mae sesiwn casglu sbwriel wedi ei drefu am 6yh ar y 30/09/2019 yn cychwyn o'r Neuadd Goffa gyda help y Rainbows, Brownies a'r Guides.

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Noson Casino 20.09.19 - Cystadleuaeth Llaeth y Llan ir Ysgol

Mae Llaeth y Llan yn cynnal cystadleuaeth gydag Ysgolion Cynradd yng Nghymru, gan rhoi’r cyfle iddynt ennill amryw o wobrau gwerth cyfanswm o £20,000

Cofiwch hel caeadau iogwrt Llaeth y Llan a dod i’r ysgol. Mae’r ysgol wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth yma..

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Noson Casino 20.09.19 - Noson Bingo yn Tafarn Y Fic

Noson Bingo yn Tafarn Y Fic

Dydd Iau 26ed o Hydref 2019, 8 y.h.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Noson Casino 26.08.19 - Gêm Gwpan Al Wern, Wedi Codi Mwy na £ 1800 ar gyfer Hosbis Dewi Sant

 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


Noson Casino
15/08/19 - Ffrwythau ar y Lôn Las ger Cerrig yr Afon.

Bydd y ffrwythau hyn yn barod i'w casglu mewn chydig o w'snosau. A bwyd i fywyd gwyllt ar y Lôn Las ger Cerrig yr Afon.

Cliciwch yma i weld fwy o lluniau


Noson Casino 05/06/19 - Dewch i ddathlu yn yr ardd

Dydd Sul 9fed o Fehefin

11.30am

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cliciwch yma i weld y fideo.


Noson Casino 21/05/19 - Noson Casino i godi arian i Glwb Pêl Droed Y Felinheli

Disgo 80au i orffen y noson.

Ticedi: £15 (yn cynnwys chips gamblo).

Gwisg i’r noson: Smart / 80s.

Cysylltwch drwy Facebook neu post@cpd-y-felinheli.cymru i brynu ticedi

Noddwyd gan Welcome Furniture.


Casgliad Sbwriel12/05/19 - Casgliad Sbwriel

Diolch yn fawr i bawb sydd wedi rhoi ei amser i gasglu sbwriel Dydd Sul, wedi hel 20 bag.

Am fwy o luniau - cliciwch yma


Difrod i'r cysgofanau bws10/04/2019 - Difrod i'r cysgofanau bws

Mae rhai o'r cysgodfanau bws yn y pentref wedi cael ei fandaleiddio dros dro ac mae'r Cyngor Cymuned eisiau ei wella nhw. Wnaethom benderfynu addurno nhw gyda gwaith Celf yr Ysgol o’r Canolfan Iechyd fel arbrawf.

Dechreuodd gyda'r gysgodfa’n fwy blêr wrth yr Eglwys. Roedd y cysgodfan wrth yr eglwys yn edrych yn dda iawn gyda'r gelf ond o fewn ychydig oriau roedd wedi ei fandaleiddio! Trist iawn.

Ffoniwch yr heddlu ar 101 a rhoi rhif achos X048273 os oes gennych unrhyw wybodaeth.


Casglu sbwriel10/04/2019 - Casglu sbwriel

Diolch i bawb sydd wedi rhoi eu hamser i gasglu sbwriel Dydd Sul 07/04/19, rhwng pawb da ni wedi hel 37 bag! Mae'r pentre’ yn edrych llawr gwell!

Casgliad nesaf 12fed o Fai, dechrau yn y Neuadd Goffa - 11yb.

Am fwy o luniau - cliciwch yma


08/04/2019 - Gofalwr/Gofalwraig Neuadd Goffa Y Felinheli

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer y swydd uchod. Os am rhagor o wybodaeth cysylltwch â Clerc Cyngor Cymuned Y Felinheli: clercfelinheli@aol.com. Neu drwy ffonio 07867 982518.
Ceisiadau trwy CV i Glerc y Cyngor.


Siôp Pop Up Felinheli28/03/2019 - Siôp Pop Up Felinheli

Ar agor bob dydd Sadwrn o'r 01/06/19
Am 9 wythnos (Tan 27/07/19) 10am - 4pm

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma


19/03/2019 - Cyfleusterau Awyr Agored Adran Iau Ysgol Y Felinheli

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma


Bug Hotel19/03/2019 - Gwesty Gwyllt

Mae'n flwyddyn ers plannu coed ffrwythau a gwrychoedd newydd ar y Lon Las gyferbyn a Cherrig yr Afon. I ddenu bywyd gwyllt, bydd angen cartref i'r trychfilod fydd yn ymweld â'r blodau gwyllt ac yn peillio y coed ffrwyth. Dewch i helpu adeiladu gwesty iddynt!

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma


13/03/2019 - Diolch i Bob Griffiths

Diolch i Bob Griffiths, Cyngor Gwynedd am blannu gwrych newydd ar y Lôn Las, yn lle yr un â ddifrodwyd yn yr hydref. Mae bron yn flwyddyn ers i ni blannu y coed ffrwythau hefyd.

Stondin Gŵyl Y Felin Stondin Gŵyl Y Felin

Defib at Y Felinheli Football Club12/03/2019 - Picnic gyda Peppa

30.03.19 - 10am-12pm
Cestyll bownsio, adloniant, cyfarfod Peppa.

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma


Defib at Y Felinheli Football Club11/03/2019 - Rhybudd - Cau Ffordd Brynffynnon

Rhybudd - Cau Ffordd Brynffynnon, Y Felinheli o 00:01 ar y 28ain o Fawrth 2019 Disgwylir y gellir cwblhau'r gwaith o fewn 2 ddiwrnod ond nid fwy na 3 diwrnod.

Am fwy o wybodaeth - cliciwch yma


Defib at Y Felinheli Football Club13/02/2019 - Defib yn Ysgol Y Felinheli

Defib newydd i fyny ar wal yn yr Ysgol Gynradd Y Felinheli

Am fwy o luniau - cliciwch yma


baw yn y bin09/02/2019 - Rhowch y baw yn y bin

Rhowch y baw yn y bin

Am fwy o luniau - cliciwch yma


01/02/2019 - Prosiectau ieuenctid Tyfu’n Wyllt

Rydym yn chwilio am bobl ifanc yn Y Felinheli i wneud cais am arian ar gyfer prosiect !

Mae prosiectau ieuenctid Tyfu’n Wyllt yn darparu £500 o ariannu i bobl ifanc 14-25 oed i wneud rhywbeth creadigol a chydweithrediadol, wedi ei ysbrydoli gan blanhigion a ffyngau brodorol y DU. Mae dros 150 o bobl ifanc wedi arwain prosiectau hyd yma.

Gall ariannu Tyfu’n Wyllt helpu pobl ifanc i wella eu CV neu eu datganiad personol, creu cysylltiadau gyda’u cymuned, datblygu sgiliau newydd a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am natur.

www.growwilduk.com/cy/ariannu-ieuenctid

Ariannu Ieuenctid

Mae prosiectau ieuenctid Tyfu’n Wyllt yn darparu £500 o ariannu i bobl ifanc 14-25 oed i wneud rhywbeth creadigol a chydweithrediadol, wedi ei ysbrydoli gan blanhigion a ffyngau brodorol y DU. Mae dros 150 o bobl ifanc wedi arwain prosiectau hyd yma.

Gall ariannu Tyfu’n Wyllt helpu pobl ifanc i wella eu CV neu eu datganiad personol, creu cysylltiadau gyda’u cymuned, datblygu sgiliau newydd a helpu i gynyddu ymwybyddiaeth am natur.

Bydd panel o bobl ifanc o bob cwr o’r DU yn cwrdd ar y dyddiadau hyn i benderfynu pa brosiectau i’w hariannu.

www.growwilduk.com/youth-projects-0

Dylid cyflwyno pob cais erbyn hanner dydd ar Ddydd Llun 1 Ebrill 2019

www.growwilduk.com/cy/ariannu-ieuenctid

Cysylltwch â Anwen Roberts - anwenlroberts@gmail.com


30/01/2019 - Pentrefwyr i ystyried codi £300,000 i gadw Tafarn Y Fic

I'w ddarllen y stori llawn - cliciwch yma (BBC)

I'w ddarllen y stori llawn - cliciwch yma (Daily Post)


Defib Clwb Peldroed Y Felinheli30/01/2019 - Defib yn Clwb Peldroed Y Felinheli

Mae Defib yn ei le yn Clwb Peldroed Y Felinheli

Am fwy o luniau - cliciwch yma


Defib at Y Felinheli Football Club17/01/2019 - Defib yn y Neuadd Goffa

Dyma ni y Defib cynta i'n pentra wedi ei osod ar y Neuadd Goffa

Am fwy o luniau - cliciwch yma


Poster Gwylanod Felniheli14/01/2019 - Peidiwch â bwydo'r Gwylanod!

Peidiwch â bwydo'r Gwylanod! - cliciwch yma

Gwybodaeth am Wylanod - cliciwch yma


Menter Tafarn y Fic10/01/2019 - Menter Tafarn y Fic

Cyfarfod Cyhoeddus
Neuadd Goffa, Y Felinheli
22.01.19
7.30y.h

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth


tesco vote09/01/2019 - Cymhorthfa

Church House, Y Felinheli
10:30 - 12:00
Dydd Sadwrn, Ionawr 19

Nid oes angen gwneud apwyntiad.

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.