Newyddion Diweddaraf

Cyngor Cymuned Y Felinheli Sedd Wag Achlysurol

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN  o 1 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd ar Gyngor Cymuned Y Felinheli.

Cynhelir etholiad i lenwi’r seddI wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad sy’n cynnwys llofnod deg etholwr o’r wardiau uchod i’r: Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Mawrth, 9 Ionawr, 2024.

Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y sedd wag gan y Cyngor Cymuned.

Ceisiadau Grant

Mae cyngor Cymuned Y Felinheli yn derbyn ceisiadau grant gan elusennau, grwpiau, cymdeithasau o fewn y gymuned hyd at 31 Ionawr 2024.
Ffurflenni cais ar gael gan y clerc clercfelinheli@aol.com.

Ffurflen Gais!

Ffwti Ffiesta 2023

Croeso i bawb!

Cae Ysgol Y Felinheli
Dydd Sul, 17 Medi 2023
10:00 - 16:00
Am ddim! Dewch i gefnogi drwy wario!

Dewch i gefnogi'r holl dimau fydd yn chwarae pel-droed di-dor, mi fydd yno:

  • Stondinau
  • Cerddoriaeth
  • Bwyd
  • Inflatables
  • Melysion
  • Gemau
  • Glitter
  • Cystadlaethau
  • Gwobrau

HWYL I'R TEULU OLL!

Cliciwch yma am fwy o manylion am Ffwti Ffiesta 2023

Ffwti Ffiesta 2023

Capel Bethania Felinheli

Noson Agored - Datblygiad Y Wern, Felinheli

25.08.23

Neuadd Goffa, Y Felinheli, Lon Emyr, LL56 4JA
Dydd Mercher, 30 Awst 2023
16:00 - 18:00

Dewch draw am fwy o wybodaeth ynglyn a Tai Fforddiadwy newydd rydym yn bwriadu eu hadeiladu yn Felinheli.

Open Evening - Y Wern, Felinheli Development

Cyngor Cymuned Y Felinheli

Seddi Gwag Achlysurol

22.08.23

RHODDIR RHYBUDD TRWY HYN o 2 sedd wag achlysurol mewn swydd cynghorydd ar Gyngor Cymuned Y Felinheli. Cynhelir etholiad i lenwi’r dwy sedd wag os cyflwynir cais ysgrifenedig am etholiad gan ddeg etholwr o’r gymuned uchod i’r Swyddog Canlyniadau, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd LL55 1SH o fewn y cyfnod sy’n diweddu am 12.00pm ar ddydd Mawrth 5ed Medi, 2023. Os na dderbynnir cais am etholiad, llenwir y seddi gwag gan y Cyngor Cymuned.

Poster Seddi Gwag Achlysurol.

Clwb y Felin - Paned a Sgwrs

26.05.23

SHED, Y Felinheli

Dydd Mawrth cyntaf o bob mis rhwng 2-4pm

Croeso cynnes i bawb

Poster Panad a Sgwrs

CEISIADAU GRANT 2023

06.01.23

MAE Cyngor Cymuned y Felinheli yn anelu i weithredu sustem cymorth grant bychan pob blwyddyn.

Mae amcanion y sustem fel a ganlyn:
- Helpu grwpiau gwirfoddol y gymuned i gynyddu eu heffeithiolrwydd
- Helpu sicrhau darpariaeth sydd ei angen ar y trigolion gan y sector wirfoddol
- Cefnogi sefydliadau sydd angen ateb anghenion pobl sydd yn wynebu trafferthion cymdeithasol ac economaidd
- Sicrhau cyfartaledd o ran hygyrchedd a chyfleoedd i bawb o ran y gwasanaethau ac aria sy’n cael ei ddarparu.

Rhaid cwblhau'r ffurflen a'i dychwelyd yn nol i'r Clerc erbyn y 07.02.2023

Mwy o wybodaeth am Gymorth Ariannol

Plîs cliciwch ar y ddolen isod i gael copïo’r ffurflen gais am y grant 2023:

Ffurflen Gais!

 

 

Clerk to the Felinheli Community Council,
3 Maes Padarn,
Llanberis
LL55 4TE

clercfelinheli@aol.com

Cysylltu â ni | Datganiadau Preifatrwydd

© 2023 Cyngor Cymuned Y Felinheli. Cedwir pob hawl. Gwefan gan Delwedd.